doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Rydym yn cefnogi Wythnos y Cynnig Cymraeg

news

Mae’n bleser o’r mwyaf gan UKROEd gefnogi wythnos y Cynnig Cymraeg. Mae’r cynnig hwn yn rhoi cyfle i sefydliadau fel ni i ddathlu’r gydnabyddiaeth y mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi ei rhoi i’r gwaith yr ydym wedi’i wneud i gefnogi mentrau a chynlluniau Cymraeg.

Roedd hi’n destun balchder mawr gan UKROEd gefnogi Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2023. Mae’r Eisteddfod yn ddigwyddiad arbennig iawn sy’n llawer mwy dwyieithog a chynhwysol nag ydoedd yn y gorffennol. Mae’r Eisteddfod hefyd wedi profi ei bod yn llwyfan rhagorol ar gyfer rhannu ein negeseuon am ddiogelwch y ffordd a’n hymrwymiad i arbed bywydau ar y ffyrdd. Roedd erthygl swmpus yn llyfryn gwybodaeth yr Eisteddfod yn esbonio rhagor ynglŷn â faint o waith a wnawn ni i wneud yr iaith Gymraeg mor gynhwysol â’r iaith Saesneg mewn perthynas â chyrsiau i yrwyr.

Cafwyd trydariadau dyddiol rhwng 5ed Awst a 12fed Awst yn rhoi negeseuon allweddol am ddiogelwch ffordd. Roedd y cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rôl allweddol o ran arddangos yr hyn a wnawn ni, ein Cynnig Cymraeg a’n gobeithion o ran y gwasanaethau a’r blaenoriaethau Cymraeg.

Dywedodd nifer o bobl eu bod wedi bod ar gwrs NDORS Cymraeg yn ddiweddar a’u bod o’r farn ei fod yn hynod o dda, yn taro’r nodyn cywir ac yn hawdd ei ddeall. Roedd eu hadborth yn dangos bod yr hyfforddwyr oedd yn cyflwyno’r cyrsiau yn rhagorol.

Mae gweithgor Grŵp Cynghori Gweithrediad y Gymraeg a sefydlwyd o dan arweiniad UKROEd yn gweithio mewn partneriaeth â Heddluoedd Cymru a darparwyr cyrsiau.

Gallwn ymdrin yn ddwyieithog ag unrhyw gwynion sy’n benodol berthnasol i faterion Cymraeg. Rydym wedi gallu ymdrin â nifer o gwynion ynghylch materion yr iaith Gymraeg yn ystod 2023/24 a chafodd y rhain eu datrys yn gyflym ac yn effeithiol.

Roedd hi’n arbennig o braf gweld bod ein hymrwymiad i’r iaith Gymraeg wedi derbyn cydnabyddiaeth ffurfiol yng nghynhadledd flynyddol UKROEd ym Manceinion pan dderbyniodd Alan Jones ac Iestyn Davies ddyfarniad y flwyddyn am “Gyfraniad rhagorol i amrywiaeth a chynhwysiant”.

Yn yr wythnos ddiwethaf yma rydym wedi cynnal adolygiadau perfformiad blynyddol gyda’n dau ddarparydd cyrsiau mwyaf yng Nghymru. Roedd yr iaith Gymraeg yn amlwg ar yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd hynny, ac roedd hi’n wych clywed am waith eithriadol ein partneriaid yn darparu gwasanaeth rhagorol i gleientiaid drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi gallu cwblhau’r cynllun gweithredu y cytunwyd arno gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg am ein hymrwymiad parhaus i’r iaith Gymraeg.

Skip to content