Dod yn hyfforddwr
A oes gennych chi ddiddordeb mewn newid ymddygiad ac achub bywydau?
Ydych chi’n teimlo’n gryf ynglŷn â chyflwyno cyrsiau newid ymddygiad i ddefnyddwyr y ffyrdd? A oes gennych chi sgiliau cyflwyno ardderchog yn ogystal â sgiliau rhyngbersonol effeithiol, mewn sefyllfaoedd wyneb yn wyneb ac mewn ystafell ddosbarth rithwir ar-lein?
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn hyfforddwr trwyddedig NDORS, y peth cyntaf sydd agen ichi ei wneud yw gwirio a ydych yn bodloni cymwysterau a phroffil hyfforddwr.
Mae cyrsiau NDORS a reolir gan UKROEd, yn cael eu cyflwyno gan ddarparwyr cwrs ledled y DU. Os byddwch yn bodloni’r gofynion ac yn llwyddiannus yn eich cais, byddwch yn derbyn hyfforddiant trylwyr a chymorth datblygu gan addysgwr a drwyddedir gan UKROEd.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am rôl Hyfforddwr, cysylltwch â’r darparwr cyrsiau a fyddai orau gennych yn uniongyrchol (nid UKROEd) er mwyn cael rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio neu cofrestrwch eich diddordeb:
| Darparwr Cyrsiau | Ardal dan sylw | Sut i ymgeisio |
| Cheshire Police Authority | Cheshire | [email protected] |
| DriveSafe | Greater Manchester | www.drivesafe.org.uk |
| DriveTech | Bedfordshire Cambridgeshire Derbyshire Northumbria Northern Ireland Merseyside London Thames Valley Surrey |
www.drivetech.co.uk/police-referred-courses/drivetech-trainer-recruitment |
| Heddlu Dyfed Powys | Sir Gaerfyrddin Ceredigion Sir Benfro Powys |
[email protected] |
| Essex County Council | Essex | [email protected] |
| Hampshire Police | Hampshire
Isle of wight |
[email protected] |
| Hartlepool Borough Council | Cleveland County Durham |
[email protected] |
| Humberside Police Authority | East Yorkshire North Lincolnshire |
[email protected] |
| Kent County Council | Kent | [email protected]
|
| Lancashire Police Authority | Lancashire | [email protected] |
| Lincolnshire Road Safety Partnership | Lincolnshire | www.lincolnshire.gov.uk/lincolnshire-road-safety-partnership/come-work-with-us |
| Norfolk County Council | Norfolk | [email protected] |
| Safer Roads for Nottinghamshire | Nottinghamshire | [email protected] |
| Staffordshire County Council | Staffordshire | [email protected] |
| Sussex Driver Training | Sussex | [email protected] |
| TTC | Avon & Somerset Cumbria Devon & Cornwall Gwent Northampton Gogledd Cymru North Yorkshire Yr Alban De Cymru South Yorkshire West Mercia West Midlands West Yorkshire Wiltshire |
www.thettcgroup.com/about/careers/road-safety-trainers |
| Warwickshire County Council | Warwickshire | [email protected] |
Monitoriaid
Dylai pob darparwr cwrs gael ei fonitor mewnol ei hun i sicrhau fod yr hyfforddwyr a ddefnyddir ganddo’n bodloni’r safonau.
Dylai monitoriaid fod yn monitro eu hyfforddwyr o leiaf unwaith bob deuddeng mis; mae llawer o ddarparwyr yn monitro yn fwy rheolaidd. Mae monitro yn gysylltiedig â’r broses asesu oherwydd dylai’r monitor mewnol fod yn chwilio am yr un sgiliau, a’r un wybodaeth a chymwysterau ag y byddai aseswr NDORS yn chwilio amdanynt yn ystod asesiad ffurfiol.