doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Dod yn Ddarparydd Cwrs

Mae holl ddarparwyr cwrs NDORS yn gweithredu dan drwydded a ddyfernir gan ein cwmni gweithredu UKROEd Ltd. Unwaith y bydd trwydded wedi ei dyfarnu, mae’n creu cyfleoedd i’r trwyddedai dendro am gontractau gan heddluoedd.

Mae darparydd cwrs yn sefydliad sydd wedi profi fod ganddo’r adnoddau a’r isadeiledd i drin a phrosesu miloedd yn aml o gyfeiriadau i’r cynllun yn ystod tymor y contract gyda’r heddlu.

Mae’r trwyddedau i ddarparu cyrsiau naill ai’n rhai llawn neu dros dro. Os nad ydych yn ddaliwr trwydded lawn, mae’n rhaid i chi gael asesiad trwyddedu trwyadl i ddangos eich bod yn sefydliad addas a chywir i ddal trwydded NDORS ar gyfer darparu’r consesiwn gwasanaeth i’r heddlu. I wneud cais am drwydded dros dro, mae ffi asesu o £750 na ellir hawlio ad-daliad amdani. Unwaith y byddwch yn dal trwydded NDORS, naill ai trwydded lawn neu drwydded dros dro, bydd hon yn gadael i chi wneud cais am gontract heddlu pan fydd yr heddluoedd yn hysbysebu am sefydliadau i ddarparu consesiwn gwasanaeth NDORS yn eu hardal.

Bydd gofyn i’r holl ddarparwyr cwrs benodi eu monitor mewnol eu hunain, neu geisio gwasanaethau monitor allanol a fydd yn gymwys i gyflawni’r rôl honno ac sydd â’r diben o sicrhau bod darparydd y cwrs ac unrhyw hyfforddwr neu addysgwr a benodir ganddynt, yn cydymffurfio â’r fframwaith asesu.

Aseswr UKROEd fydd yn cynnal y broses asesu gychwynnol. Bydd hon yn cynnwys adolygiad drwy gais yn seiliedig ar allu technegol a masnachol, hyfywedd, addasrwydd a chynaliadwyedd y darparydd i ddarparu gwasanaeth NDORS i’r fformat cenedlaethol corfforaethol.

CEIR GWYBODAETH AR SUT I DDOD YN DDARPARYDD, HYFFORDDWR NEU ADDYSGWR CWRS TRWYDDEDIG DRWY DDILYN Y DOLENNI ISOD:

Os dymunwch ddod yn ddarparydd cwrs trwyddedig, ewch i’r dudalen hon: https://www.ndors.org.uk/scheme/become-course-provider/

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn hyfforddwr, ewch i’r dudalen hon: https://www.ndors.org.uk/scheme/trainers/

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn addysgwr, ewch i’r dudalen hon: https://www.ndors.org.uk/scheme/become-ndors-instructor/

Ar ôl cyflawni asesiad yn llwyddiannus, bydd y sawl sy’n ymgeisio am drwydded yn derbyn trwydded dros dro. Bydd y drwydded hon yn galluogi i’r trwyddedai wneud cynnig o dan broses gaffael i ddarparu cyrsiau i heddlu lleol.

Bydd y drwydded dros dro hon yn para am gyfnod o ddwy flynedd o ddyddiad ei chyhoeddi. Bydd hi’n troi’n drwydded lawn yn dilyn penodiad llwyddiannus gan yr heddlu.

Bydd Asesydd UKROEd yn monitro perfformiad y darparydd ac yn sicrhau ei fod yn cyrraedd y safon fel rhan o gyfres o adolygiadau gorfodol. Cynhelir adolygiad gorfodol dogfennol cyntaf o fewn 18 mis ar ôl cyhoeddi’r drwydded, a chynhelir adolygiadau manwl dilynol o’r hyfforddwyr a’r addysgwyr yn ystod tymor y contract neu’r drwydded.

Pan fydd y darparydd wedi cwblhau’r adolygiadau gorfodol yn llwyddiannus, bydd yn cael parhau i weithredu o dan y drwydded oni bai bod angen cynnal rhagor o adolygiadau gorfodol. Os bydd yn methu cwblhau’r adolygiadau gorfodol, bydd hynny’n arwain at gyflwyno rhybuddion i wella a chynlluniau gweithredu sy’n denu cydymffurfiad. Os na fydd yn cyflawni gofynion ail rybudd i wella o fewn amser penodol, bydd hyn yn arwain at ddirymiad y drwydded.

Os ydych yn credu fod gennych, neu y gallai fod gennych, yr adnoddau i ddod yn ddarparydd cwrs i’r heddlu ac yr hoffech wneud cais am drwydded dros dro i ddod yn ddarparydd cwrs NDORS, anfonwch e-bost i: [email protected]

NADIP

Current course providers have formed an association known as The National Association of Driver Intervention Providers (NADIP).

The aim of NADIP is to achieve best practice and effectiveness in the setting up and running of driver intervention schemes for all categories of offences, as directed by UKROEd.

NADIP members work collaboratively with road safety agencies and road safety bodies in the interests of better road safety and the general public. They aim to develop and improve consistent standards of delivery and administration.

Full membership of NADIP is open to course providers delivering NDORS courses on behalf of a police force. Associate membership is open to organisations who are, or who are seeking to be involved in the provision of NDORS courses.

For further details of the association, please contact the Chair, Sally Plail – [email protected].

Tendering

If you wish to tender for a contract to supply NDORS courses to a Police force, you will need to hold an NDORS licence as a prerequisite to making a bid.

If you do not you currently deliver the NDORS service to a force, you will have to enter the process as a provisional licence holder. To become a provisional licence holder you will need to make an application. This will entail an assessment process which we charge you a non-refundable fee of £750 plus VAT to cover the costs of the initial assessment.

For more information on the tenders available, see the Bluelight Emergency Services e-Tendering site for upcoming projects. https://bluelight.eu-supply.com

Skip to content