doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Y cynllun

Mae UKROEd yn gweithredu, rheoli, gweinyddu a datblygu Cynllun NDORS ar ran Gwasanaeth yr Heddlu. Rydyn ni’n sicrhau bod ein cyrsiau’n addas i’r diben. Gwnawn hynny drwy gysylltu’n rheolaidd ac yn effeithiol â heddluoedd sy’n darparu gwybodaeth i helpu cyfarwyddo gwaith ein tîm datblygu cyrsiau. Rydym hefyd yn sicrhau fod pawb yr ydym yn ei drwyddedu i ddarparu ein cyrsiau wedi cyrraedd, ac yn cynnal safonau penodol o ran eu gwybodaeth am y cwrs a’u technegau cyflwyno.

Rydym yn gyfrifol am gynnal cronfa ddata dra diogel sy’n storio manylion yr unigolion sydd wedi bod ar ein cyrsiau ac sy’n rhoi gwybod i heddluoedd a yw rhywun yn gymwys i fynd ar gwrs ai peidio.

Mae rhagor o wybodaeth am UKROEd yn ein E-Lyfr newydd – dilynwch y dolenni isod i agor y fersiynau Cymraeg a Saesneg.

UKROEd E-Book Dolen E-lyfr UKROEd – Cymraeg

UKROEd E-Book Dolen E-lyfr UKROEd – Saesneg

 

 

Mae cynllun NDORS yn unigryw i’r DU a chafodd ei ddatblygu fel opsiwn i’w gynnig yn lle pwyntiau cosb a dirwyon.

Mae’r cynllun yn caniatáu i fodurwyr sydd wedi cyflawni trosedd lefel isel dderbyn addysg sydd â’r nod o wella gwybodaeth ac ymddygiad y gyrrwr neu’r reidiwr tra bydd ar y ffordd. Nid oes gan fodurwyr hawl awtomatig i gwrs waeth pa mor fychan yw’r drosedd.

Yn ôl disgresiwn y Prif Gwnstabl lleol, gellir cynnig cyfle i’r modurwr a gyflawnodd y drosedd fynd ar gwrs sy’n canolbwyntio ar ail addysgu’r modurwr i gydymffurfio’n well â’r ddeddfwriaeth Traffig Ffyrdd. Nid oes gan neb hawl absoliwt i gwrs. Yr opsiwn arall yw dirwy a, lle bo’n berthnasol, pwyntiau cosb.

Cyrsiau Ystafell Ddosbarth Rhithwir

Mae cyrsiau rhithwir ar gael i’w harchebu nawr ledled y DU.

Mae’r holl gyrsiau a gynigiwn ar hyn o bryd yn gyrsiau ystafell ddosbarth rhithwir sy’n golygu eich bod yn mynd arnynt dros y we o’ch cartref heb orfod teithio i unrhyw gyrchfan.

Gallwch archebu cwrs rhithwir/ar-lein lle bynnag yr ydych neu gan ba heddlu bynnag yn y DU y cynigiwyd cwrs i chi – dilynwch y ddolen hon i’r safle archebu – a dewiswch ddarparydd cwrs i’w archebu ar-lein.

NID oes gofyn i chi deithio i ganolfan.

I gael rhagor o wybodaeth/arweiniad ynglŷn â phwy sy’n darparu cyrsiau rhithwir a sut i ddod o hyd iddynt – dilynwch y ddolen hon i’ch helpu unwaith y byddwch yn cyrraedd y safle archebu.

Lleoliad y cwrs – Cyrsiau Ystafell Ddosbarth Arferol (Nodwch - mae cyrsiau ystafell ddosbarth arferol yn parhau i fod ar gau oherwydd COVID-19)

Mae cyrsiau’n cael eu darparu ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r Alban hefyd yn gweithio gydag UKROEd ac yn darparu rhai o gyrsiau NDORS.

Gall troseddwr ddewis cymryd cwrs mewn unrhyw leoliad lle mae’r cwrs ar gael, ac nid oes raid iddo ddychwelyd i’r fan lle cafodd y drosedd ei chyflawni oni bai ei fod yn dymuno gwneud hynny.

(Ewch i’n gwefan i gael diweddariadau mewn perthynas â COVID-19)

Manylion y Cwrs

Nid oes elfen ‘pasio’ neu ‘fethu’ ar y cyrsiau NDORS, ac eithrio’r cwrs ‘Eich Gwregys Eich Bywyd’.

Yn hytrach, mae’r cyrsiau hyn yn canolbwyntio ar newid ymddygiad ac agwedd modurwyr ac ar eu hatal rhag troseddu eto.

Dim ond unwaith o fewn cyfnod o dair blynedd y gellir cynnig y cwrs i unrhyw un sy’n cael ei ddal yn cyflawni trosedd draffig (trosedd sy’n gymwys i dderbyn cynnig i wneud cwrs). Os bydd rhywun yn cyflawni un o’r troseddau hyn eto o fewn tair blynedd, bydd rhaid iddo dalu dirwy a, lle bo’n berthnasol, gael pwyntiau ar ei drwydded.

Cost y cwrs

Mae ffi i’w thalu am y cyrsiau. Unwaith y byddwch wedi penderfynu, mae’n rhaid i chi dalu i ddarparydd y cwrs cyn mynd ar y cwrs.

Yn gynwysedig yn y ffi hon mae swm o arian sy’n dychwelyd i Heddlu’r ardal lle digwyddodd y drosedd er mwyn talu costau prosesu’r drosedd a’r cynnig i fynd ar gwrs. Trwy weithio fel hyn, bydd y cyrsiau yn talu amdanynt eu hunain yn hytrach na chael eu hariannu drwy gyfeirio arian oddi wrth wasanaethau hanfodol eraill.

Pan fydd rhywun wedi llwyddo i fynd ar gwrs a’i gwblhau, cedwir ei fanylion mewn cronfa ddata genedlaethol. Mae hyn yn sicrhau na fydd y person hwnnw, os bydd yn cael ei ddal yn cyflawni’r un math o drosedd eto, yn gallu derbyn cynnig arall i wneud cwrs nes bydd tair blynedd wedi mynd heibio ers dyddiad y drosedd wreiddiol.

Unwaith y bydd rhywun wedi bod ar y cwrs yna ni fydd unrhyw weithredu pellach, ni fydd dirwy i’w thalu ac ni fydd pwyntiau’n cael eu hychwanegu ar ei drwydded.

Os bydd unrhyw un sydd wedi cael cynnig cwrs ac sy’n penderfynu nad yw’n dymuno mynd arno, neu os bydd unrhyw un sy’n derbyn mynd ar gwrs ond sydd wedyn yn peidio mynd arno a’i gwblhau, bydd y drosedd dan sylw yn cael ei thrin drwy’r broses cyfiawnder troseddol.

Egwyddorion y cwrs

Mae’r Cynllun yn cyflawni holl egwyddorion y ddeddfwriaeth tegwch a chydraddoldeb, mae’n cydymffurfio â hawliau dynol ac mae’n ymlynu’n dynn wrth y ddeddf diogelu data.

Mae UKROEd yn cynhyrchu polisïau a chanllawiau i heddluoedd a darparwyr cyrsiau er mwyn hwyluso cynllun NDORS i gyrraedd ei nodau.

Nid yw cyrsiau NDORS yn briodol i droseddwr sydd wedi gweithredu mewn ffordd y gellid ei hystyried yn un risg uchel neu sydd â’r potensial i achosi niwed. Nid oes gan unrhyw un hawl awtomatig i dderbyn cynnig i wneud cwrs NDORS ac mae o fewn disgresiwn yr heddlu’n llwyr i wneud y cynnig, neu i ymdrin â’r troseddwr drwy’r system cyfiawnder troseddol.

Skip to content