doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Dod yn Addysgwr Cwrs NDORS

Rhaid i unrhyw rai sy’n dymuno dod yn addysgwyr cwrs NDORS fodloni meini prawf y cais, y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person angenrheidiol. Rhaid iddynt fod wedi dilyn hyfforddiant, ennill cymhwyster a chael eu hasesu i ddangos eu bod yn gallu cyflwyno cwrs/cyrsiau NDORS a rhaid iddynt fod ar gofrestr NDORS o addysgwyr trwyddedig.

CEIR GWYBODAETH AR SUT I DDOD YN DDARPARYDD CWRS, HYFFORDDWR NEU ADDYSGWR TRWYDDEDIG DRWY DDILYN Y DOLENNAU ISOD:

Os dymunwch ddod yn ddarparydd cwrs trwyddedig ewch i’r dudalen hon: https://www.ndors.org.uk/scheme/become-course-provider/

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn hyfforddwr ewch i’r dudalen hon: https://www.ndors.org.uk/scheme/trainers/

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn addysgwr ewch i’r dudalen hon: https://www.ndors.org.uk/scheme/become-ndors-instructor/

Addysgwyr

Fel arfer bydd unigolion yn cael eu henwebu i ddod yn addysgwyr gan ddarparydd cwrs a fydd yn gwneud hynny ar eu rhan. Fodd bynnag, gall unigolion llawrydd ddod yn addysgwyr hefyd os dymunant. Bydd UKROEd yn cyhoeddi cyfleoedd a lleoedd gwag ar gyfer hyfforddiant i ddod yn addysgwyr pan na fydd y niferoedd yn cwrdd â’r galw.

Addysgwyr Arbenigol

Mae UKROEd hefyd yn barod i recriwtio addysgwyr arbenigol. Unigolion yw’r rhain a chanddynt wybodaeth a sgiliau arbenigol sy’n gysylltiedig â chefndir y cwrs angenrheidiol. Dylent hefyd fod yn arbenigwyr ym maes seicoleg, addysg a hyfforddiant, a dylent fod yn cyfrannu neu’n cynhyrchu cyrsiau ar ran UKROEd. Fel dywedir uchod bydd cyfleoedd/lleoedd gwag yn ymddangos ar y wefan hon.

Cais i ddod yn Addysgwr

Er mwyn dod yn addysgwr, bydd yn rhaid i unigolyn lenwi ffurflen gais, sy’n seiliedig ar ddisgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y cwrs penodol y mae’n dymuno gwneud cais amdano. Os yw’n bodloni’r gofynion hyn, bydd wedyn yn gorfod mynd ar gwrs a gynhelir gan addysgwr arbenigol a drwyddedir gan UKROEd.

Yn ystod y cyfnod y bydd ar gwrs i ddod yn addysgwr, bydd yr unigolyn hefyd yn cael ei asesu i weld a yw’n gymwys i gynnal y cwrs. Mae’r asesiad hwn yn seiliedig ar fân elfennau o’r cwrs yn unig. Dyma’r cyrsiau sy’n cynnig lle i unigolion fod yn addysgwyr arnynt:

  • Ymwybyddiaeth Cyflymder Cenedlaethol
  • RIDE
  • Beth sy’n ein Gyrru Ni?
  • Cwrs Ymwybyddiaeth Traffyrdd Cenedlaethol
  • Safe and Considerate Driving

 

Skip to content