doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Croeso i’n Prif Swyddfa a’r Academi

Mae gennym weithle modern i’n tîm, cyfleusterau ardderchog ar gyfer digwyddiadau Academi UKROEd a gofod ar gyfer cynnal cyfarfodydd gyda’n rhwydwaith o ddarparwyr cyrsiau a rhanddeiliaid, yng nghanol dinas Manceinion.

Mae Prif Swyddfa ac Academi UKROEd ar lawr cyntaf adeilad Colwyn Chambers, 19 York Street, Manceinion, M2 3BA.

Cludiant cyhoeddus

Mae Colwyn Chambers wedi’i wasanaethu gan gysylltiadau cludiant cyhoeddus ardderchog. Mae prif orsaf reilffordd Manceinion, Gorsaf Piccadilly, sy’n cysylltu’r ddinas â Llundain, Glasgow a nifer o ddinasoedd mawr eraill y DU ryw 10 munud o waith cerdded oddi yma.

Mae’r arhosfan fysiau agosaf yn union y tu allan i brif fynedfa Colwyn Chambers ac mae gwasanaeth fysiau di-dâl yn gweithredu rhwng 7am a 7:15 bob dydd o’r wythnos, o orsaf Piccadilly i New York Street. Hefyd, mae arhosfan dramiau Piccadilly rai munudau o waith cerdded o’r swyddfa. Mae’r tramiau yn cynnig mynediad i’r gwasanaethau Metrolink ar draws Manceinion Fwyaf.

Gyrru

Gan fod y safle yn un canolog o fewn Dinas Manceinion mae nifer o opsiynau o ran parcio i’r rhai sy’n gyrru. Mae maes parcio NCP, New York Street lai na 200 metr o adeilad Colwyn Chambers, ac mae hwn yn cynnig mannau parcio tanddaearol diogel ynghyd â nifer o fannau parcio ar gyfer gyrwyr anabl.

Cymerwch olwg o gwmpas

Porwch y detholiad hwn o luniau o’n gweithle:

Skip to content