doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Y Cyrsiau

Mae UKROEd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau NDORS. Gweithredir y cynllun ar ran gwasanaeth yr heddlu sy’n amlinellu’r math o droseddwr a’r troseddau, ac yn seiliedig ar hyn mae’r cyrsiau’n cael eu datblygu (a’u hadolygu bob tair blynedd). Bydd Prif Swyddog yr Heddlu yn ôl ei ddisgresiwn absoliwt yn cynnig un o’r cyrsiau hyn i droseddwr yn hytrach nag erlyniad. Nid oes gan droseddwr hawl awtomatig i gwrs. Dewis arall yn lle erlyniad yw’r cyrsiau hyn. Ond, ar ôl ystyried y ffeithiau i gyd, os deuir i’r casgliad na fyddai cynnig cwrs o fudd i’r cyhoedd, yna dilynir y broses erlyn arferol.

Cynllunnir y cyrsiau gan Uned Datblygu Cyrsiau UKROEd, sy’n cynnwys academyddion blaenllaw ym maes newid ymddygiad a thrafnidiaeth, uwch ymarferwyr profiadol ym maes gorfodaeth a diogelwch ar y ffyrdd.

Mae pob cwrs sy’n cael ei ddatblygu yn seiliedig ar y gwaith ymchwil diweddaraf ac yn cael ei werthuso. Mae hyn yn caniatáu i UKROEd ddangos fod y cyrsiau’n ‘addas i’r diben’. Cyn cyflwyno cwrs yn genedlaethol i’w ddefnyddio gan y cyhoedd, mae’n cael ei dreialu mewn amgylchedd wedi’i reoli ac yna mae’n bosibl y bydd newidiadau’n cael eu gwneud cyn iddo gael ei lansio’n swyddogol fel cwrs NDORS cenedlaethol.

Daw’r darparwyr, sy’n gweithredu dan drwydded UKROEd, o sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r sector preifat, a bydd rhai heddluoedd yn darparu cyrsiau NDORS gan ddefnyddio’u hadnoddau eu hunain. Mae’n rhaid i’r holl ddarparwyr gydymffurfio â’r trefniadau cenedlaethol, felly er enghraifft dylech weld yr un cwrs yn Newcastle ag y byddech yn ei weld yn Norwich.

Os cawsoch gynnig cwrs ac os hoffech chi archebu lle ar gwrs, darllenwch yr wybodaeth yn eich llythyr cynnig. Rhaid ichi ddefnyddio’r ddolen isod a fydd yn eich arwain at y wefan benodol:

https://offer.ndors.org.uk

Os dymunwch weld y gost a manylion cysylltu eich Darparwyr Cwrs ewch i’n hadran Cwestiynau Cyffredin ac edrychwch ar y penawdau ‘Costau’r Cyrsiau’ a ‘Gweld eich Cwrs a’ch Darparydd Cwrs’ (‘Course Costs’ and ‘Accessing your Course & Your Course Provider’).

NMAC (Cwrs Ymwybyddiaeth Traffyrdd Cenedlaethol)

Mae’r cwrs hwn ar gael i bobl sy’n gyrru ar draffyrdd ac a gafwyd yn goryrru’n gyflymach na therfyn cyflymder newidiol sydd ar waith (y rhai sy’n cael eu dangos yn electronig ar yr arwyddion uwch ben lonydd a’r arwyddion electronig ar ymyl y ffordd).  Mae’r cwrs hwn yn darparu hefyd ar gyfer gyrwyr sydd wedi gyrru drwy arwydd X goch i gau lôn neu arwyddion traffig awtomatig a roddir ar y rhwydwaith traffyrdd i reoli llif y traffig ac ar gyfer unrhyw dorri rheolau sy’n digwydd ar y lleiniau caled a’r mannau lloches mewn argyfwng.

Dim ond am droseddau goryrru lle gyrrwyd yn gyflymach na therfyn cyflymder newidiol y cynigir y cwrs hwn – mae troseddau goryrru am dorri’r terfyn cyflymder cenedlaethol yn cael eu cyfeirio ar gyfer y Cwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder Cenedlaethol). Y nod yw gwneud y traffyrdd yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac yn brofiad gwell i bobl sy’n eu defnyddio ac yn gweithio arnynt. Ceir cymysgedd o wybodaeth, trafodaeth a myfyrio ar y pethau sy’n effeithio ar yrru pobl. Cafodd y cwrs ei lunio i fod yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol fel bod pobl yn gadael ar y diwedd gydag awgrymiadau ymarferol i’w helpu i yrru’n ddiogel ar draffyrdd.

Mae’r cwrs yn para 3 awr a gellir ei ddilyn ar safle penodol neu ar-lein.

NRRAC (Cwrs Cenedlaethol Ymwybyddiaeth o Berygl i Reidwyr)

Mae NRRAC yn cydnabod bod reidwyr beiciau modur a mopeds yn ddefnyddwyr ffordd sy’n agored i niwed, ond nid y ffaith nad oes ganddynt lawer o’u cwmpas i’w diogelu yw’r unig reswm am hynny. Mae’r gwahaniaethau ym maint a pherfformiad y beic yn golygu bod reidwyr yn ymddwyn yn wahanol i’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr eraill y ffordd, ac mae hynny hefyd yn cynyddu’r risgiau sy’n gysylltiedig â reidio.

Mae’r cwrs yn egluro beth sy’n achosi risgiau i reidwyr ac yn nodi sut y gallant leihau’r risg honno drwy newid eu hymddygiad. Y brif nod yw gostwng ymddygiad reidio risg uchel y cleientiaid ac, yn y pen draw, mae’n ceisio atal cleientiaid rhag profi’r canlyniadau negyddol sy’n debygol o ddigwydd o ganlyniad i’w reidio peryglus, fel gwrthdrawiadau traffig ffordd neu golli trwydded.

Mae’r cwrs yn addas i reidwyr sy’n reidio yn eu hamser hamdden ac i gymudwyr, yn ogystal â reidwyr danfon a reidwyr cludo nwyddau sydd wedi ymddwyn mewn ffordd sydd wedi tynnu sylw’r heddlu, gyda phob mathau o droseddau’n achosi iddynt gael eu cyfeirio i wneud y cwrs.

Mae’n gwrs 3 awr y gellir ei ddilyn ar safle penodol neu ar-lein.

NSAC (Cwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder Cenedlaethol)

Nod y cwrs hwn yw gwneud y ffyrdd yn fwy diogel drwy helpu pobl i yrru ar gyflymder diogel o fewn y terfyn cyflymder. Mae’r cwrs wedi ei lunio i gymryd pobl ar daith sy’n dangos iddynt sut i wybod beth yw’r terfynau cyflymder, sut i adnabod a gwrthsefyll pwysau i oryrru – ganddyn nhw eu hunain a chan bobl eraill, a sut i osgoi gadael i bethau dynnu eu sylw. Mae’n cynnig cymysgedd o wybodaeth, trafodaeth a myfyrio ac mae pobl yn gadael ar y diwedd gydag awgrymiadau sy’n berthnasol iddyn nhw’n bersonol i’w helpu i osgoi goryrru yn y dyfodol.
Mae’r cwrs yn para 2 awr 45 munud a gellir ei gymryd ar safle penodol neu ar-lein.

SCC (Cwrs Seiclo Diogel ac Ystyriol)

Mae SCC yn gwrs e-ddysgu i bobl sy’n cael eu stopio gan yr heddlu am seiclo drwy olau coch, am seiclo heb oleuadau, neu am seiclo ar balmentydd a llwybrau nad ydynt yn agored i seiclwyr. Mae’r cwrs yn archwilio’r rheolau a’r rheoliadau allweddol i feicwyr a sut y gall y deddfau hynny helpu i gadw beicwyr ac eraill yn ddiogel ac yn helpu pobl i ddatblygu strategaethau i’w cadw o fewn y gyfraith wrth seiclo. Mae’r cwrs yn rhyngweithiol ac mae cwis ar y diwedd i weld faint maen nhw wedi’i ddysgu. Wedi iddynt orffen y cwrs, mae pobl yn derbyn cynllun sy’n bersonol iddyn nhw ynglŷn â sut i seiclo’n ddiogel ac yn ystyriol.

Mae’r cwrs yn para tua 30 munud, a gellir ei gymryd ar-lein neu drwy ofyn am lyfr gwaith. Gellir gwneud y cwrs cyfan ar yr un pryd neu ychydig ar y tro.

SCD (Cwrs Gyrru Diogel ac Ystyriol)

Cyfeirir cleientiaid at y cwrs Gyrru Diogel ac Ystyriol os ydynt yn rhan o wrthdrawiad. Mae’r cwrs yn cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cleientiaid o’r pethau hyn:

• achosion a chanlyniadau negyddol gyrru peryglus ac anystyriol;
• pwysigrwydd canolbwyntio, arsylwi, rhagweld a gadael digon o ofod ac amser;
• y rhesymau pam mae eu gyrru eu hunain yn anniogel neu’n anystyriol o bosib.

Treulir rhan gyntaf y cwrs ar safle penodol ac mae’n ymdrin â gwybodaeth am arwyddion ffordd, marciau ffordd a rheolau traffig, trafodaeth a myfyrio ar bethau sy’n tynnu sylw ac yn rhoi pwysau ar bobl pan maen nhw ar y ffordd a sut i’w rheoli. Mae ail ran y cwrs yn digwydd allan ar y ffordd gyda hyfforddwr gyrru cymwysedig (ADI) lle mae cleientiaid yn derbyn anogaeth ymarferol wedi’i bersonoli ar eu cyfer ar y ffordd ac anogir nhw i greu cynllun gweithredu i fynd i’r afael â materion sy’n berthnasol iddyn nhw’n bersonol.

Hyd y cwrs yw 6 awr 55 munud.

WDU (Cwrs Beth sy’n Ein Gyrru Ni?)

Nod WDU yw creu cymunedau mwy diogel drwy helpu pobl i yrru’n ddiogel ac ystyriol, yn unol â Rheolau’r Ffordd Fawr. Mae’r cwrs yn helpu pobl i adnabod arwyddion a marciau ffordd, deall rheolau traffig a deall y pethau sy’n tynnu sylw ac yn rhoi pwysau ar bobl pan maen nhw ar y ffordd a sut i’w rheoli.

Mae’r cwrs yn cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cleientiaid o:

• achosion a chanlyniadau negyddol gyrru peryglus ac anystyriol
• pwysigrwydd canolbwyntio, arsylwi, rhagweld a gadael digon o ofod ac amser
• y rhesymau pam y mae eu gyrru nhw eu hunain yn beryglus neu’n anystyriol o bosib.

Gellir dilyn y cwrs hwn ar safle penodol neu ar-lein.

YBYL (Cwrs Eich Gwregys, Eich Bywyd)

Mae YBYL yn gwrs e-ddysgu i bobl sy’n cael eu stopio gan yr heddlu am beidio â gwisgo gwregys diogelwch neu am beidio â defnyddio sedd gar priodol i blentyn. Mae’r cwrs yn archwilio ac yn esbonio pwysigrwydd gwisgo gwregys diogelwch a defnyddio sedd gar priodol i blant. Mae’r cwrs yn rhyngweithiol ac mae cwis ar y diwedd i weld faint mae’r cleient wedi’i ddysgu. Wedi iddynt orffen y cwrs, mae pobl yn derbyn cynllun personol i’w helpu i fynd i’r arfer o wisgo gwregys diogelwch bob amser.

Mae’r cwrs yn para tua 30 munud a gellir ei wneud ar-lein neu drwy ofyn am lyfr gwaith. Gellir gwneud y cwrs cyfan ar yr un pryd neu rannau ohono ar y tro.

Ffioedd y cyrsiau ac ad-daliadau

Rydych chi’n gyfrifol am dalu ffi’r cwrs yn llawn cyn i chi gymryd y cwrs. Os byddwch yn archebu cwrs ac yn talu amdano yna yn dewis ei ail archebu gyda’r un darparydd cyrsiau, efallai y bydd rhaid i chi dalu ffi ail-archebu/ffi weinyddol.

Os byddwch yn newid i ddarparydd cwrs arall ar ôl i chi archebu, neu os na fyddwch yn cwblhau’r cwrs, efallai y bydd raid i chi golli rhywfaint o’r ffi archebu y mae’r darparydd cwrs yn ei chodi, ond mae’n RHAID i’r darparydd cwrs ad-dalu’r arian adfer costau yn awtomatig i chi.

Os ydych yn credu fod gennych hawl i gael ad-daliad o dan y polisi hwn, cysylltwch â’r darparydd cwrs yr oeddech wedi archebu’r cwrs â nhw – bydd y ddolen hon yn eich arwain i’n hadran Cwestiynau Cyffredin lle byddwch yn gweld y manylion o dan y pennawd ‘Cael Mynediad i’ch Cwrs a’ch Darparydd Cwrs’

 

Skip to content