doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Cwyno wrth UKROEd

Rydym yn trin pob cwyn yn ddifrifol; rydym yn cydnabod ar adegau y gall pethau fynd o’i le ac rydym yn amcanu i gywiro materion cyn gynted ag sydd bosibl a sicrhau ein bod yn rhoi gwybod am unrhyw bwyntiau dysgu i’n holl ddarparwyr a hyfforddwyr.

I bwy ydw i’n anfon fy nghŵyn?

Mae gwybod i bwy y dylid anfon cwyn yn gallu ymddangos yn ddryslyd, yn arbennig os oes mwy nag un sefydliad/heddlu dan sylw. Gellir cael rhagor o wybodaeth neu gymorth drwy anfon e-bost i: [email protected]

Os ydych wedi cysylltu â’r heddlu a/neu ddarparydd ac yn dal i ddymuno inni adolygu eich problem, cysylltwch â ni yn: [email protected]

SYLWER – ni fydd yr heddlu na’r darparydd cwrs yn ystyried unrhyw gwynion a fydd yn cael eu gadael yn y cyfeiriad e-bost hwn fel hysbysiad gennych chi os bydd dyddiadau eich trosedd neu eich cynnig cwrs wedi dod i ben.  Byddwch yn derbyn ymateb llawn o’r cyfeiriad e-bost hwn o fewn 28 diwrnod gwaith neu yn gynt pan fo modd.

Os dymunwch wneud cwyn am y drosedd honedig, mae’n rhaid ichi gyfeirio eich cwyn at yr heddlu a anfonodd yr ohebiaeth atoch.

Mae’n bwysig nad ydych yn anwybyddu unrhyw ohebiaeth a anfonir ichi gan yr heddlu neu’r darparydd cwrs, sy’n ymwneud â dychwelyd unrhyw ddogfennau y gofynnodd yr heddlu neu’r darparydd cwrs ichi eu cwblhau ar bapur neu yn electronig.  Os byddwch wedi cael cynnig cwrs ond nad ydych yn ateb o fewn yr amser a nodwyd gan yr heddlu neu’r darparydd cwrs, gallai unrhyw oedi olygu y gallai eich cynnig cwrs gael ei dynnu’n ôl ac y byddwch, mae’n debyg, yn derbyn cosb benodedig neu’n derbyn gwŷs i fynd i’r llys.

Dylai eich gohebiaeth gan yr heddlu neu’r darparydd cwrs gynnwys manylion ynglŷn â sut i gysylltu â nhw, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth y gallent fod wedi ei phostio ar eu gwefannau.

Os yw eich cwyn yn gysylltiedig ag unrhyw agwedd o’ch cwrs, anfonwch y gŵyn i’r darparydd cwrs neu i’r heddlu sy’n gyfrifol am yr ardal lle cynhaliwyd y cwrs. Fel arfer mae proses wedi’i threfnu lle mae’n rhaid i ddarparydd roi gwybod i’r heddlu a’i penododd am unrhyw gwynion mae’n eu derbyn mewn cysylltiad â chynnal cyrsiau NDORS. Gallai’r heddlu hwnnw uwchgyfeirio’r mater i UKROEd os ystyrir bod hynny’n briodol.

Y gŵyn

Mae UKROEd yn annog unrhyw adborth oherwydd caiff ei ddefnyddio i wella’r ffordd yr ydym yn darparu ein cyrsiau newid ymddygiad yn gyffredinol. Rydym yn gwerthfawrogi pan fydd ein cleientiaid yn rhannu eu syniadau a’u profiadau, boed nhw’n rhai cadarnhaol neu negyddol. Os ydych yn anfodlon gyda’r ffordd y caiff cwrs ei gyflwyno neu gyda’r ffordd y cawsoch eich trin, byddem yn gyntaf yn eich annog i siarad â’r hyfforddwr neu leisio eich pryderon yn gynnar wrth y darparydd cwrs. Mewn sawl achos byddant yn gallu datrys y mater yn gyflym. Gellir delio â llawer o broblemau yn y cam hwn, ond mewn rhai achosion efallai y byddwch yn teimlo ei bod yn fwy priodol cysylltu ag UKROEd yn uniongyrchol.

Sut i gwyno

Gallwch gwyno yn ysgrifenedig neu drwy anfon e-bost. Cofiwch gynnwys y ffaith eich bod yn rhoi caniatâd i UKROEd rannu eich data personol â’r heddlu neu’r darparydd perthnasol.

Dylid gwneud cwyn fel arfer o fewn 6 mis ar ôl digwyddiad neu ar ôl i’r mater gael ei ddwyn i’ch sylw. Gellir ymestyn y terfyn amser hwn os oes gennych resymau da dros beidio â chwyno ynghynt ac nad yw’n bosibl cynnal ymchwiliad teg. Bydd hyn yn cael ei benderfynu gan Reolwr Safonau Proffesiynol mewn trafodaeth â chi.

Beth i’w ddisgwyl

Dylech ddisgwyl derbyn cydnabyddiaeth a chynnig trafodaeth, gydag unigolyn a fydd yn cael ei enwi, am y ffordd y bydd eich cwyn yn cael ei thrin. Bydd hyn yn digwydd o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl i’r Adran Safonau Proffesiynol dderbyn eich cwyn.

Os byddwch yn derbyn y cynnig hwn, bydd y drafodaeth yn cynnwys pryd y bydd ymateb i’ch cwyn yn debygol o gael ei anfon. Rydym yn ymdrechu i ddatrys neu ymchwilio i’n cwynion o fewn 28 diwrnod. Er hynny, nid oes terfyn amser penodol, a bydd hyn yn dibynnu ar natur eich cwyn. Os bydd oedi yn digwydd wrth ymateb am unrhyw reswm, dylech gael gwybod am hynny.

Unwaith y bydd ymchwiliad wedi cael ei wneud i’ch cwyn, byddwch yn derbyn ymateb ysgrifenedig drwy e-bost. Dylai’r ymateb amlinellu’r canfyddiadau ac, os yw’n briodol, gyfleu ymddiheuriadau a rhoi gwybodaeth am yr hyn a fydd yn cael ei wneud o ganlyniad i’ch cwyn.

Skip to content