Cyflwyniad:
Mae UKROEd (Addysg i Droseddwyr Gyrru’r Deyrnas Unedig) wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau moesegol uchaf, yn cynnwys atal caethwasiaeth fodern a masnachu pobl ymhob rhan o’n busnes a’n cadwyn gyflenwi. Mae’r datganiad hwn, a gyhoeddwyd yn unol â Datganiad Caethwasiaeth Fodern 2015, yn amlinellu’r camau a gymerwyd yn y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026 i liniaru’r risgiau hyn a hyrwyddo arferion cyfrifol.
Strwythur a Chadwyni Cyflenwi’r Sefydliad:
Mae UKROEd yn gwmni nid-er-elw cyfyngedig drwy warant, sy’n gyfrifol am reoli a gweinyddu’r Cynllun Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru Cenedlaethol (NDORS) ledled y Deyrnas Unedig. Mae ein cadwyn gyflenwi’n cynnwys:
- Darparwyr cyrsiau a hyfforddiant
- Darparwyr nwyddau a gwasanaethau
- Partneriaid TG a thechnoleg.
Mae’r cysylltiadau hyn wedi eu seilio yn y DU yn bennaf, lle mae risg gynhenid is o gaethwasiaeth fodern, ond rydym yn parhau’n wyliadwrus ac yn rhagweithiol yn ein dilysrwydd dyladwy.
Polisïau a Llywodraethu:
Rydym yn cynnal cyfres o bolisïau a gweithdrefnau i fynd i’r afael â risgiau caethwasiaeth fodern, wedi eu tanategu gan ein gwerthoedd sefydliadol o uniondeb, parch ac atebolrwydd:
- Polisi Caethwasiaeth Fodern – Mae ein Polisi Caethwasiaeth Fodern yn amlinellu ein hagwedd o ddim goddefgarwch tuag at gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl, ac yn rhoi arweiniad i weithwyr a rhanddeiliaid ar adrodd am bryderon.
- Cod Ymddygiad Proffesiynol – Mae ein Cod Ymddygiad yn nodi’r safonau moesegol yr ydym yn eu disgwyl gan ein gweithwyr, ein cyflenwyr a’n partneriaid, gan gynnwys parch at hawliau dynol a safonau llafur. Yn ogystal, disgwylir i’r staff i gyd ddilyn fframwaith Gwerthoedd ac Ymddygiad UKROEd.
- Gweithdrefn chwythu’r chwiban – Mae gennym weithdrefn chwythu’r chwiban gyfrinachol sy’n annog gweithwyr ac eraill i roi gwybod am unrhyw bryderon sy’n gysylltiedig â chaethwasiaeth fodern heb ofni dial.
- Polisi Recriwtio – Rydym yn mabwysiadu dull trwyadl o hurio, sy’n cynnwys gwirio cymhwysedd pob gweithiwr i weithio yn y DU er mwyn atal masnachu pobl a llafur anwirfoddol. Rydym yn cydweithio’n ddieithriad ag asiantaethau recriwtio a chanddynt enw da, ac mae’n ofynnol i bob un ohonynt gadarnhau eu hymrwymiad i gydymffurfio â deddfau’r DU yn erbyn caethwasiaeth fodern.
- Polisi Iechyd, Diogelwch a Lles – Ein prif amcan yw creu amgylchedd gwaith diogel yn ein hadeiladau ac i’n pobl sy’n gweithio o gartref. Rydym yn blaenoriaethu lles corfforol a meddyliol ein staff i gyd ac yn cefnogi hyn yn weithredol gydag amrywiol raglenni lles gweithwyr.
- Polisi Atal Llwgrwobrwyo – Yn UKROEd, rydym yn cynnal agwedd dim goddefgarwch lem ar lwgrwobrwyo, ac mae ein holl bersonél yn derbyn hyfforddiant i adnabod ac atal llwgrwobrwyo. Ar ben hynny, rydym wedi ymrwymo i gymryd camau pendant yn erbyn unrhyw unigolion sy’n gysylltiedig â llwgrwobrwyo, er mwyn rhwystro arferion caffael anfoesegol a’r defnydd o gyflenwyr diegwyddor.
Caffael a Diwydrwydd Dyladwy
Mae ein prosesau caffael yn ganolog i’n dull:
- Rydym yn asesu ymrwymiad ein cyflenwyr yn erbyn eu cyfrifoldebau cyfreithiol a moesegol, yn cynnwys unrhyw ymrwymiadau o dan y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern.
- Rydym yn mynd ati’n weithredol i adolygu datganiadau caethwasiaeth fodern sydd ar gael yn gyhoeddus i gyflenwyr a nodir fel rhai risg uchel.
- Dim ond gyda chyflenwyr sy’n dangos ymrwymiad i arferion llafur teg, safonau moesegol a chydymffurfiad cyfreithiol yr ydym yn ymgysylltu.
- Rydym yn cynnal dilysrwydd dyladwy priodol ar yr holl gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau, gan ymestyn y broses hon i bob cyflenwr newydd a gyflwynwn i’n sefydliad
Mesurau perfformio
Mae UKROEd wedi datblygu’r gyfres ddilynol o fesurau perfformiad a fydd yn cael eu monitro drwy gydol y flwyddyn ariannol sy’n dod.
- Cyfradd Asesu Safbwynt ar Gaethwasiaeth Fodern
Bydd UKROEd yn asesu 100% o gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau i ddeall eu safbwynt ar gaethwasiaeth fodern. Os bydd datganiad caethwasiaeth fodern yn bodoli – pa un ai yw’n ofynnol gan y gyfraith neu’n cael ei ddarparu’n wirfoddol – bydd yn cael ei adolygu’n flynyddol fel rhan o’n proses diwydrwydd dyladwy. - Cyfradd Cwblhau Diwydrwydd Dyladwy ar gyfer Cyflenwyr newydd
Rhaid i 100% o gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau newydd gwblhau proses diwydrwydd dyladwy caethwasiaeth fodern UKROEd yn ystod y penodi. - Cwblhau Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Caethwasiaeth Fodern
Mae gofyn i’r staff i gyd gwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth caethwasiaeth fodern bob blwyddyn, gyda chyfradd gwblhau o 90% o leiaf ar draws y sefydliad.
Asesu a Lliniaru Risgiau
Rydym yn mabwysiadu dull seiliedig ar risg i nodi meysydd a allai beri pryder, gan ystyried:
- Risg Ddaearyddol – Mae’r rhan fwyaf o’n cyflenwyr yn gweithredu yn y DU, ond rydym yn cymryd i ystyriaeth unrhyw wasanaethau a ddarperir y tu hwnt i ffiniau’r DU.
- Risg Sectoraidd – Rhoddir y ffocws ar sectorau sy’n fwy agored i arferion llafur gorfodol neu gamfanteisiol (e.e. logisteg, caledwedd TG).
- Risg Weithredol – Asesir ein gweithredoedd mewnol fel rhai risg isel, gyda staff wedi eu cyflogi’n uniongyrchol ar gontractau ffurfiol a’u talu ar lefel y Cyflog Byw Cenedlaethol neu’n uwch.
Y Camau Gweithredu a Gymerwyd yn 2025–2026
Dyma rai o’r mesurau allweddol a gymerwyd eleni:
- Ymgysylltiad â Darparwyr Cyrsiau – Deialog rheolaidd gyda’r darparwyr i sicrhau eu bod yn ymwybodol o risgiau caethwasiaeth fodern ac yn eu deall; ac atgyfnerthu hyn drwy ein prosesau trwyddedu ac Adolygiad Darparwyr Blynyddol.
- Monitro ac Arolygu – Arolygiadau cyflenwyr parhaus a monitro eu cydymffurfiaeth â’u contractau yn barhaus.
Hyfforddiant ac Ymwybyddiaeth
Ymwreiddio dealltwriaeth ar draws ein busnes a’n partneriaid:
- Yn 2025/26, gwnaethom ddarparu hyfforddiant Caethwasiaeth Fodern i gyfanswm o 231 o unigolion – yn cynnwys hyfforddwyr NDORS a staff UKROEd.
- Mae hyfforddiant yn orfodol yn y broses o gynefino staff ac mae’n cynnwys adnabod risgiau, adrodd am fecanweithiau a chydymffurfio â pholisïau.
- Mae ein Aide-Mémoire Caethwasiaeth Fodern ar gael i holl aelodau gwefan UKROEd sy’n cynnwys staff, hyfforddwyr cyrsiau, darparwyr cyrsiau, staff yr Heddlu ac aelodau bwrdd UKROEd.
Casgliad
Mae UKROEd yn parhau’n ymroddedig i sicrhau nad oes lle i gaethwasiaeth fodern yn ein gweithredoedd na’n cadwyni cyflenwi. Rydym yn mynd ati’n barhaus i adolygu a gwella ein harferion, gan gydnabod bod tryloywder ac effrogarwch yn hanfodol i yrru newidiadau cadarnhaol. Ni welodd UKROEd unrhyw risgiau caethwasiaeth fodern yn ei weithredoedd na’i gadwyni cyflenwi yn ystod cyfnod y datganiad. Mae’r datganiad hwn wedi’i gymeradwyo gan y Prif Swyddog Gweithredol a bydd yn cael ei adolygu’n flynyddol.
Ruth Purdie, OBE, Prif Swyddog Gweithredol UKROEd
Mawrth 2026