doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Datganiad Caethwasiaeth Fodern

Cyflwyniad:

Cyhoeddir y Datganiad Caethwasiaeth Modern hwn gan United Kingdom Road Offender Education (UKROEd) yn unol â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Mae UKROEd wedi ymrwymo i atal caethwasiaeth fodern a masnachu pobl rhag effeithio ar ei weithrediadau a’i gadwyni cyflenwi. Mae’r datganiad hwn yn nodi’r camau yr ydym wedi’u cymryd mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024 i liniaru’r risg i sicrhau nad yw Caethwasiaeth Fodern yn cael cyfle i ffynnu yn ein cadwyn gyflenwi nac yn ein busnes.

Strwythur a Chadwyni Cyflenwi:

Mae UKROEd yn gwmni nid-er-elw cyfyngedig drwy warant, sy’n gyfrifol am reoli a gweinyddu’r Cynllun Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru Cenedlaethol (NDORS) yn y Deyrnas Unedig. Yn bennaf, mae ein cadwyni cyflenwi’n cynnwys darparwyr nwyddau a gwasanaethau, darparwyr cyrsiau hyfforddi, a phartneriaid technoleg.

Polisïau mewn perthynas â Chaethwasiaeth a Masnachu Pobl:

Mae UKROEd yn ymroddedig i atal caethwasiaeth fodern a masnachu pobl rhag digwydd mewn unrhyw agwedd o’n gweithrediadau neu ein rhwydweithiau cyflenwi. Mae ein hegwyddorion craidd yn ymwneud â gwerthfawrogi eraill ac ymddwyn gydag onestrwydd a chywirdeb ein hunain, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o’n tîm gynnal y safonau hyn. Er mwyn cefnogi’r ymrwymiad hwn, rydym wedi datblygu a chynnal y polisïau a’r gweithdrefnau canlynol:

  • Polisi Caethwasiaeth Fodern: Mae ein Polisi Caethwasiaeth Fodern yn amlinellu ein dull dim goddefgarwch tuag at gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl ac yn rhoi arweiniad i weithwyr a rhanddeiliaid ar adrodd am bryderon.
  • Cod Ymddygiad Proffesiynol: Mae ein Cod Ymddygiad yn nodi’r safonau moesegol yr ydym yn eu disgwyl gan ein gweithwyr, ein cyflenwyr a’n partneriaid, gan gynnwys parch at hawliau dynol a safonau llafur. Yn ogystal, disgwylir i’r holl staff ddilyn fframwaith Gwerthoedd ac Ymddygiad UKROEd.
  • Gweithdrefn chwythu’r chwiban: Mae gennym weithdrefn chwythu’r chwiban gyfrinachol sy’n annog gweithwyr ac eraill i roi gwybod am unrhyw bryderon sy’n gysylltiedig â chaethwasiaeth fodern heb ofni dial.
  • Recriwtio: Rydym yn mabwysiadu dull llym o gyflogi, sy’n cynnwys gwirio cymhwysedd pob gweithiwr i weithio yn y DU i atal masnachu pobl a llafur anwirfoddol. Rydym yn cydweithio yn unig ag asiantaethau recriwtio a chanddynt enw da, ac mae’n ofynnol i bob un ohonynt gadarnhau eu hymrwymiad i gydymffurfio â deddfau’r DU yn erbyn caethwasiaeth fodern.
  • Iechyd a diogelwch: Ein prif amcan yw creu amgylchedd gwaith diogel yn ein hadeiladau. Rydym yn blaenoriaethu lles corfforol a meddyliol ein staff ac yn cefnogi hyn yn weithredol gyda gwahanol raglenni lles gweithwyr.
  • Caffael: Mae ein polisïau yn gosod cyfrifoldeb personol ar aelodau ein tîm i sicrhau fod gwariant yn digwydd yn unig gyda chyflenwyr sy’n cynnal arferion busnes moesegol, a chanddynt enw da cadarn ac sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern pan fydd yn orfodol iddynt wneud hynny.
  • Atal Llwgrwobrwyo: Yn UKROEd, rydym yn cynnal agwedd dim goddefgarwch lem ar lwgrwobrwyo, ac mae ein holl bersonél yn derbyn hyfforddiant i nodi ac atal llwgrwobrwyo. Ar ben hynny, rydym wedi ymrwymo i gymryd camau pendant yn erbyn unrhyw unigolion sy’n gysylltiedig â llwgrwobrwyo, er mwyn rhwystro arferion caffael anfoesegol a’r defnydd o gyflenwyr diegwyddor.

Prosesau Diwydrwydd Dyladwy mewn perthynas â Chaethwasiaeth a Masnachu pobl:

Mae UKROEd yn cynnal ei fusnes yn bennaf yn y DU, awdurdodaeth risg is lle mae caethwasiaeth a masnachu pobl yn cael eu gwahardd a’u troseddoli gan y gyfraith.

Mae UKROEd yn cynnal prosesau diwydrwydd dyladwy i adnabod a lliniaru’r risgiau o gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl o fewn ei gadwyni cyflenwi. Mae ein mesurau diwydrwydd dyladwy yn cynnwys:

Asesiadau Cyflenwyr: Rydym yn asesu ymrwymiad ein cyflenwyr i arferion llafur moesegol a’u cydymffurfiaeth â deddfau caethwasiaeth fodern fel rhan o’n proses gaffael. Rydym hefyd yn adolygu datganiadau caethwasiaeth a masnachu pobl cyhoeddedig ein cyflenwyr a’n gwerthwyr.

Dangosyddion Perfformiad Allweddol : Bydd UKROEd yn parhau i ddatblygu set ystyrlon o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol i sicrhau ein bod yn gallu monitro ein hymrwymiad parhaus i atal Caethwasiaeth Fodern yn effeithiol.

Asesu a Rheoli Risg:

Mae UKROEd yn asesu’r risgiau o gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl o fewn ei weithrediadau a’i gadwyni cyflenwi ei hun yn rheolaidd. Rydym yn cymryd ymagwedd sy’n seiliedig ar risg i nodi a blaenoriaethu meysydd a allai beri pryder.

Mae ein hasesiad risg yn cynnwys:

Risg Ddaearyddol: Rydym yn ystyried y rhanbarthau a’r gwledydd lle mae ein cyflenwyr yn gweithredu ac yn asesu mynychder caethwasiaeth fodern yn yr ardaloedd hynny.

Risg Sectoraidd: Rydym yn gwerthuso’r sectorau a’r diwydiannau penodol lle mae ein cyflenwyr yn gweithio i ddarganfod unrhyw risgiau posibl.

Wrth ddarparu ein gwasanaethau ein hunain, rydym yn dibynnu ar weithlu sefydlog sydd wedi’i hyfforddi’n dda. Mae gan lawer o’r rhain gymwysterau proffesiynol ac maen nhw’n cadw cysylltiadau â chymdeithasau proffesiynol. Mae pob un o’n gweithwyr yn ddarostyngedig i gontractau cyflogaeth ffurfiol, sy’n rhoi’r opsiwn iddynt eu terfynu. Maen nhw i gyd yn cael eu talu o leiaf y cyflog byw cenedlaethol a hefyd yn derbyn budd-daliadau sefydlog a hyblyg eraill. Rydym yn fodlon bod y risg yn isel y bydd caethwasiaeth neu fasnachu pobl yn digwydd yn ein busnes ein hunain.

Camau Gweithredol a gymerwyd i fynd i’r afael â Chaethwasiaeth Fodern:

Mae UKROEd wedi ymrwymo i gymryd camau effeithiol i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl. Rydym wedi rhoi amrywiaeth o fentrau ar waith, gan gynnwys:

Ymgysylltu â Darparwyr Cyrsiau: Rydym yn gweithio’n agos â’n darparwyr cyrsiau i godi ymwybyddiaeth o risgiau caethwasiaeth fodern ac yn darparu cefnogaeth i wella pan fo angen. Mae’r gweithgaredd hwn yn ffurfio piler canolog wrth drwyddedu darparwyr cyrsiau NDORS a’r Adolygiad Darparwyr Blynyddol.

Monitro ac Archwilio: Rydym yn cynnal archwiliadau a monitro rheolaidd o’n cadwyni cyflenwi i sicrhau cydymffurfiaeth â’n polisïau a’n rhwymedigaethau cytundebol. Mae UKROEd hefyd wedi rhoi Cynllun Gweithredu Caethwasiaeth Fodern benodol ar waith i sicrhau bod uwch swyddogion gweithredol yn monitro ac yn goruchwylio’n effeithiol.

Hyfforddiant ar Gaethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl:

Rydym yn cynnig hyfforddiant i’n holl staff, gan ganolbwyntio’n benodol ar y rhai sy’n gweithio ym maes caffael a rheoli cadwyni cyflenwi, er mwyn cynyddu eu dealltwriaeth o faterion caethwasiaeth fodern a masnachu pobl. Rydym wedi ei gwneud hi’n orfodol i hyfforddwyr sydd â thrwyddedau NDORS (a weinyddwyd gan UKROEd) fynychu hyfforddiant Caethwasiaeth Fodern. Arweiniodd hyn at 327 o unigolion yn derbyn hyfforddiant caethwasiaeth fodern gan UKROEd yn ystod y flwyddyn ariannol 23/24. Mae’r hyfforddiant hwn yn cynnwys:

  • Adnabod arwyddion o gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl.
  • Mecanweithiau a gweithdrefnau adrodd.
  • Cydymffurfio â’r polisïau perthnasol a’r rhwymedigaethau cyfreithiol.

Mae’n ofynnol i bob aelod newydd o staff UKROEd fynychu hyfforddiant Caethwasiaeth Fodern fel rhan o’u rhaglen ymsefydlu a chânt eu cyfeirio at yr adnoddau sydd ar gael fel y ‘Modern Slavery Aide Memoir’ sydd ar gael i holl aelodau gwefan UKROEd sy’n cynnwys, staff, hyfforddwyr cyrsiau, darparwyr cyrsiau, staff yr Heddlu ac aelodau bwrdd UKROEd.

Casgliad:

Mae UKROEd wedi ymrwymo i gymryd pob cam angenrheidiol i atal caethwasiaeth fodern a masnachu pobl yn ein gweithrediadau a’n cadwyni cyflenwi. Mae’r Datganiad Caethwasiaeth Fodern hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i dryloywder a gwelliant parhaus ein harferion yn hyn o beth. Mae’r datganiad hwn wedi’i gymeradwyo gan y Prif Swyddog Gweithredol a bydd yn cael ei adolygu’n flynyddol i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn effeithiol.

Llofnodwyd

Ruth Purdie, Prif Swyddog Gweithredol, UKROEd Ltd

Skip to content