Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG): y rhwymedigaethau y mae UKROEd yn gyfrifol amdanynt o dan y cytundeb hwn, fel y nodir isod;
Rhwymedigaethau
Er mwyn gweinyddu’r Cynllun yn effeithiol, bydd UKROEd yn gyfrifol am gyflawni’r rhwymedigaethau canlynol:
• Paratoi a darparu cynllun busnes strategol 3 blynedd a chynllun cyflawni busnes blynyddol i’r Arweinydd Cenedlaethol.
• Darparu adroddiadau ar faterion sy’n gysylltiedig â’r Cynllun i’r Ymddiriedolaeth, fel y bo’r galw ac fel y bo’n rhesymol.
• Gweithredu mesurau i sicrhau gwytnwch parhad busnes a’r Cynllun.
• Caffael/comisiynu adnoddau a gwasanaethau i weinyddu’r Cynllun yn effeithiol, ac yn ôl cyfarwyddyd yr Arweinydd Cenedlaethol.
• Llunio polisi a gweithdrefn i ddarparu rheolau a chanllawiau i’r Lluoedd sy’n Cymryd Rhan a Darparwyr Cyrsiau er mwyn hyrwyddo’r gwaith o ddarparu’r Cynllun mewn modd cyson ac o safon uchel, yn ogystal â darparu canllawiau ac unrhyw wybodaeth a/neu ddogfennaeth arall sy’n gysylltiedig â’r Cynllun i’r Arweinydd Cenedlaethol, fel y bo’r galw ac fel y bo’n rhesymol.
• Datblygu manylebau cyrsiau o safon uchel mewn fformat corfforaethol, sy’n addas i Ddarparwyr Cyrsiau eu cyflwyno i Droseddwyr, fel sy’n rhesymol ofynnol gan yr Ymddiriedolaeth a’r Lluoedd sy’n Cymryd Rhan.
• Datblygu, adolygu, addasu a chynnal cyrsiau’r Cynllun cenedlaethol yn ôl safon gyson.
• Diogelu a chynnal a chadw Eiddo Deallusol y Cynllun, gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, ei frandiau, ei nodau masnach a’i hawlfraint.
• Hyfforddi a/neu ddiweddaru hyfforddwyr ac addysgwyr y Cynllun i sicrhau bod modd cyflwyno cyrsiau’r Cynllun fel y cawsant eu cynllunio ac i’r ansawdd sy’n ofynnol.
• O gyllid Tâl Gweinyddol, adolygu a monitro perfformiad Darparwyr Cyrsiau, addysgwyr a hyfforddwyr bob 3 blynedd (neu amserlen arall y cytunwyd arni) i sicrhau eu bod yn bodloni’r safonau sy’n ofynnol.
• Cynnal cyfundrefn drwyddedu (sy’n cynnwys, ymhlith pethau eraill, y broses o gyhoeddi hysbysiadau gwella ac apeliadau) i sicrhau cysondeb ac ansawdd cyrsiau’r Cynllun.
• Darparu cronfa ddata ganolog ddiogel i gofnodi presenoldeb ar gyrsiau a chyfyngu ar gyfraniad Troseddwyr anghymwys.
• Darparu cyngor ac arweiniad arbenigol i’r Lluoedd sy’n Cymryd Rhan ar weithredu’r Cynllun a’r gweithdrefnau cysylltiedig.
• Ymgynghori â’r Darparwyr Cyrsiau, yr hyfforddwyr a’r Lluoedd sy’n Cymryd Rhan, ac unrhyw rai eraill sy’n gysylltiedig â’r Cynllun er mwyn amlygu arfer gorau a chanfod heriau a phroblemau. Bydd hyn yn cynnwys cynnal cynadleddau consensws a grwpiau defnyddwyr pan fo’n briodol.
• Bod yn gyswllt ac ymgynghori â grwpiau eraill sydd â diddordeb yn niogelwch y ffyrdd, llywodraeth leol a chenedlaethol, rhanddeiliaid a phartneriaid ar faterion sy’n ymwneud â’r Cynllun.
• Delio â materion Deddf Rhyddid Gwybodaeth, y cyfryngau a materion diogelu data sy’n deillio o’r Cynllun, gan ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i’r holl bartïon sy’n ymwneud â’r Cynllun.
• Sicrhau bod y Cynllun yn cydymffurfio â’r holl Gyfreithiau Perthnasol a chynnal y safonau moesegol a moesol uchaf.
• Caffael argaeledd y Cynllun ledled y DU a sicrhau hyblygrwydd i Droseddwyr o ran amseriad a lleoliad cyrsiau’r Cynllun a fynychwyd a dulliau talu, er mwyn hwyluso Cynllun nad yw’n gwahaniaethu sydd â’r nod o ddiwallu anghenion yr holl gyfranogwyr cymwys.
• Asesu canlyniadau hyfforddiant i fonitro effeithiolrwydd y Cynllun.
• Darparu gwefan y Cynllun a’r cwmni i gyhoeddi nodau ac amcanion y Cynllun ac ymwybyddiaeth o argaeledd cenedlaethol y cyrsiau yn ogystal â darparu cronfa o bolisïau a chanllawiau ar gyfer y Cynllun i’r Lluoedd sy’n Cymryd Rhan a’r Darparwyr Cyrsiau.
• Caffael a chadw’r holl drwyddedau, cofrestriadau a/neu ganiatadau sy’n angenrheidiol i gyflawni’r Cynllun (gan gynnwys yr holl gofrestriadau a thrwyddedau Eiddo Deallusol perthnasol).
• Sicrhau bod holl bersonél UKROEd sy’n cael eu cyflogi mewn perthynas â’r Cynllun (gan gynnwys staff sy’n cael eu his-gontractio) yn derbyn gwiriadau Safon Diogelwch Sylfaenol ar gyfer Personél fel y cânt eu gosod gan adrannau’r llywodraeth.
• Darparu cyngor, arweiniad ac argymhellion i’r Ymddiriedolaeth mewn perthynas â’r Tâl Gweinyddol a Thâl Adennill Costau Gorfodi’r Llu i sicrhau bod symiau o’r fath yn rhoi adlewyrchiad priodol o ofynion rhesymol y rhanddeiliaid sy’n ymwneud â’r Cynllun, gan ystyried budd y cyhoedd.
• Darparu cyngor, arweiniad ac argymhellion i’r Ymddiriedolaeth ac, i’r graddau y bo’n angenrheidiol, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd Cenedlaethol:
-
- pennu swm y Tâl Gweinyddol o bryd i’w gilydd (fel y’i cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolaeth); a
- phennu swm Tâl Adennill Costau Gorfodi’r Llu o bryd i’w gilydd (fel y’i cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolaeth).
• Darparu cymorth rheoli ariannol llawn i’r Cynllun gan gynnwys:
-
- gweinyddu gwaith anfonebu Darparwyr Cyrsiau a thaliadau i’r Lluoedd sy’n Cymryd Rhan;
- datblygu amcanestyniadau ariannol a chynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu cynlluniau ariannol;
- cadw cofnodion o wybodaeth rheoli ariannol sy’n cymharu rhagolygon â dirdrafodion ar sail chwarterol;
- darparu datganiad i’r Arweinydd Cenedlaethol yn flynyddol (neu’n amlach yn ôl cyfarwyddyd yr Arweinydd Cenedlaethol) o’r costau a ysgwyddir wrth ymgymryd â’i rôl o dan y cytundeb hwn a chytuno â’r Arweinydd Cenedlaethol / Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) ar unrhyw addasiad i’r ffioedd sy’n ofynnol; a
- chefnogi’r gwaith o ddatblygu achosion busnes ar gyfer unrhyw wariant y dymuna’r Arweinydd Cenedlaethol ei ysgwyddo o gronfeydd y Cynllun
• Cydymffurfio â Fframwaith Llywodraethu Cenedlaethol y Cynllun a chynorthwyo i weithredu’r Fframwaith hwn.
• Rheoli’r gwaith o ddatblygu a gweinyddu Gwasanaeth DORS drwy System DORS (neu unrhyw gronfa ddata ganolog arall a allai ddisodli System DORS) ar ran yr Arweinydd Cenedlaethol gan gynnwys:
• cyhoeddi’r Codau Cysylltu priodol, a monitro’r gydymffurfiaeth â’r rhain. (Os bydd unrhyw barti sy’n rhwymedig i God Cysylltiad yn torri unrhyw un o delerau’r Cod Cysylltu perthnasol, bydd gan UKROEd yr hawl i dynnu mynediad i System DORS yn ôl ar unwaith oddi wrth barti o’r fath);
• darparu cefnogaeth i Luoedd sy’n Cymryd Rhan mewn perthynas â gwahanol faterion sy’n gysylltiedig â DORS, pan ofynnir yn rhesymol am hynny gan y Lluoedd sy’n Cymryd Rhan;
• anfonebu Darparwyr Cyrsiau am Dâl Adennill Costau Gorfodi’r Llu a Thâl Gweinyddol;
• hwyluso taliad amserol Tâl Adennill Costau Gorfodi’r Llu i’r Lluoedd sy’n Cymryd Rhan;
• cadeirio a chymryd rhan ym Mwrdd Rheoli Newid DORS a
• chynghori ar ymholiadau trethiant lleol a godir gan yr Arweinydd Cenedlaethol
Rhwymedigaethau a Diwygiadau Ychwanegol
Nid yw’r atodlen hon yn cynnwys pob Rhwymedigaeth a gallai’r rhwymedigaethau gael eu diwygio. O bryd i’w gilydd gellir cytuno ar rwymedigaethau a/neu newidiadau ychwanegol i gwmpas y Rhwymedigaethau rhwng y partïon.