Simon Bourne
Our Team
Simon Bourne
Cyfarwyddwr Anweithredol
Mae gan Simon Bourne fwy na 30 mlynedd o brofiad o weithio mewn rolau arwain digidol a thechnoleg yn y DU, ac mae wedi gweithio ar draws sawl sector gan gynnwys bancio, manwerthu a llywodraeth. Mae wedi bod yn Brif Swyddog Digidol, Data a Thechnoleg yn y Swyddfa Gartref ers 2021, gan arwain un o’r gweithrediadau digidol mwyaf yn y DU gyda chyfrifoldeb am faterion ymfudo a ffiniau, pasbortau, cofrestru sifil a systemau plismona cenedlaethol.
Cyn ymuno â’r Swyddfa Gartref, roedd Simon yn Brif Swyddog Gwybodaeth y Co-operative Group rhwng 2014 a 2020. Cyn hynny, bu’n gweithio mewn sawl uwch rôl dechnolegol ym maes bancio gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Craidd Datblygu Rhaglenni gyda Lloyds Banking Group.
Mae rolau anweithredol eraill Simon yn cynnwys Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol yr Heddlu a chyn hyn bu’n Ymddiriedolwr ar gyfer y Co-operative Academies Trust.
Mae gan Simon radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Mathemateg o Brifysgol Caergrawnt.