Gair am Raglen Atgoffa Gyrwyr
Mae nifer o bobl sydd wedi bod ar ein cyrsiau’n dweud wrthym pa mor ddefnyddiol ydyn nhw. Mae pob cwrs yn orlawn o wybodaeth, cyngor ac awgrymiadau i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel. Er mwyn helpu pobl i gofio’r awgrymiadau hyn, rydym wedi creu adnoddau sydd ar gael iddynt ar ôl eu cyrsiau. Mae hyn yn cefnogi ein nod o gael dim marwolaethau ffordd a dim anafiadau difrifol ar ffyrdd y DU..
Lansiwyd Rhaglen Atgoffa Gyrwyr ar 4 Tachwedd 2024, ac mae ar gael i bawb sy’n cwblhau cwrs NDORS.
Maen nhw’n derbyn neges e-bost i gadarnhau eu bod wedi cwblhau eu cwrs, a bydd hon yn cynnwys dolen unigryw sy’n rhoi mynediad iddynt i wefan y Rhaglen Atgoffa Gyrwyr.



Mae UKROEd yn cydnabod bod pobl yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol. Mae Rhaglen Atgoffa Gyrwyr yn cynnwys animeiddiadau byr, cwisiau, fideos ac erthyglau am ddiogelwch y ffordd, a grëwyd ac a ddewiswyd i gefnogi ac annog pobl i yrru’n ddiogel.
Gall pobl edrych ar y deunyddiau cyn amled ag y dewisant, a byddant yn derbyn hysbysiadau pan ychwanegir deunyddiau newydd.
Ar y funud, dim ond i unigolion sydd wedi cwblhau cwrs NDORS o 4 Tachwedd 2024 ymlaen y mae Rhaglen Atgoffa Gyrwyr ar gael.
Gall pobl edrych ar y deunyddiau cyn amled ag y dewisant, a byddant yn derbyn hysbysiadau pan ychwanegir deunyddiau newydd.
Ar y funud, dim ond i unigolion sydd wedi cwblhau cwrs NDORS o 4 Tachwedd 2024 ymlaen y mae Rhaglen Atgoffa Gyrwyr ar gael.


Pam mae UKROEd wedi datblygu Rhaglen Atgoffa Gyrwyr?
- I arbed bywydau drwy helpu pobl i aros yn ddiogel ar y ffyrdd
- I helpu nod UKROEd o atal troseddu
- I ddarparu awgrymiadau defnyddiol mewn amrywiaeth o fformatau
Mae Rhaglen Atgoffa Gyrwyr yn cynnwys detholiad o wybodaeth am ddiogelwch ar y ffyrdd, yn cynnwys:
- Animeiddiadau byrion
- Cwisiau
- Fideos
- Erthyglau byrion
Pwy sy’n gallu agor Rhaglen Atgoffa Gyrwyr?
Unrhyw un sydd wedi cwblhau cwrs NDORS o 4 Tachwedd 2024 ymlaen, yn cynnwys:
- Cwrs Ymwybyddiaeth Traffyrdd Cenedlaethol (NMAC)
- Cwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder Cenedlaethol (NSAC)
- Cwrs Cenedlaethol Ymwybyddiaeth o Berygl i Reidwyr (NRRAC)
- Beth sy’n Ein Gyrru Ni? (WDU)
- Gyrru Diogel ac Ystyriol (SCD)
- Seiclo Diogel ac Ystyriol (SCC)
- Eich Gwregys Eich Bywyd (YBYL)
Mae’r mynediad i wefan Rhaglen Atgoffa Gyrwyr drwy’r ddolen hon ar gyfer defnyddwyr sy’n dychwelyd yn unig.