Beth yw’r rheolau ar arwyddion X coch?
Mae National Highways wedi uwchraddio camerâu gorfodi ar briffyrdd clyfar gyda’r dechnoleg sydd ei hangen i alluogi i’r heddlu orfodi arwyddion X coch. Bydd hyn yn helpu i wella cydymffurfiaeth. Mae gyrru mewn lôn sydd wedi cael ei chau gan arwydd X coch wedi bod yn drosedd am fwy na dau ddegawd. Yn 2019 newidiodd y llywodraeth y gyfraith er mwyn galluogi’r heddlu i ddefnyddio’r camerâu hyn i orfodi’r drosedd, a gall gyrwyr dderbyn tri phwynt a dirwy o £100. Mae heddluoedd wrthi’n defnyddio’r camerâu erbyn hyn er mwyn gorfodi cydymffurfiaeth.
Mae rhagor o wybodaeth am y rheolau yn National Highways.
Rhan o Gwybodaeth a Dolennau Defnyddiol ar gyfer:
Traffyrdd