doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Sut allaf i gadw pellter diogel oddi wrth y car sydd o’m blaen?

Rydych yn gyrru’n rhy agos os yw’r bwlch rhyngoch chi a’r cerbyd o’ch blaen yn rhy fach i chi allu stopio’n ddiogel os yw’r cerbyd o’ch blaen yn brecio’n sydyn. Mae’n codi ofn ar yrwyr eraill ac yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu bygwth neu eu bwlio. Efallai nad yw’r gyrrwr y tu ôl yn gwneud hyn yn fwriadol, ond i’r rhai yn y car o’i flaen mae’n teimlo’n ymosodol ac yn bersonol.

Darllenwch y canllawiau gan National Highways .ar sut i osgoi ymwthio i’r gofod hwn.

Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn nodi y dylech “ganiatáu o leiaf bwlch dwy eiliad rhyngoch chi a’r cerbyd o’ch blaen ar ffyrdd cyflym ac mewn twneli lle mae gwelededd yn llai. Dylai’r bwlch gael ei ddyblu o leiaf ar ffyrdd gwlyb a’u cynyddu hyd at ddeg gwaith eto ar ffyrdd rhewllyd.”

Rhan o Gwybodaeth a Dolennau Defnyddiol ar gyfer:
Traffyrdd  

Skip to content