doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Croeso i UKROEd.

Ni yw’r cwmni nid-er-elw sy’n gyfrifol am reoli Cynllun Cenedlaethol Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru.

Rydym yn darparu llywodraethiant canolog, safonau a chysondeb y cynllun (NDORS).

Rôl UKROEd yw cynorthwyo heddluoedd i gynnig cyrsiau o safon uchel, yn gyson ym mhob un o ardaloedd yr heddlu, er mwyn newid ymddygiad pobl a chwarae ein rhan bwysig yn y gwaith o leihau gwrthdrawiadau, marwolaethau ac anafiadau defnyddwyr y ffordd.

Nod y wefan hon yw rhoi gwybodaeth i chi am y cynllun (NDORS).  Os bydd gennych unrhyw ymholiad am drosedd honedig a gyflawnwyd gennych sy’n golygu fod yr heddlu wedi cynnig cwrs i chi, bydd rhaid ichi gyfeirio’r ymholiad at yr heddlu hwnnw.

Os ydych yn dymuno archebu cwrs, gallwch weld ble mae’r cyrsiau dan Lleoliadau’r Cyrsiau. Os ydych eisoes wedi archebu cwrs, mae’n rhaid i chi gysylltu â’r darparydd cwrs a ddewiswyd gennych.

Os nad ydych wedi darganfod yr hyn yr oeddech yn chwilio amdano ar brif dudalennau’r wefan mewn perthynas â’r cynllun, ewch i’n Cwestiynau Cyffredin lle gallech ddod o hyd i’r ateb. Dyma’r wefan swyddogol i gael gwybodaeth am y Cynllun. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefan arall sy’n cyfeirio at y Cynllun Cenedlaethol Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru.

Cyrsiau Rhithwir

Gellir gwneud llawer o gyrsiau ar-lein

Cyrsiau Ystafell Ddosbarth Ffisegol

Mae cyrsiau y gallwch fynd iddynt yn bersonol ar gael mewn rhai lleoliadau

Sylw ar addysg

Digwyddiadau sy’n dod

Skip to content