- Ni allwch archebu cwrs o'r wefan hon. Os ydych chi'n ceisio archebu cwrs, ewch i https://offer.ndors.org.uk.
- Os yw eich ymholiad yn ymwneud â'r drosedd honedig neu os oes arnoch angen mwy o amser i archebu cwrs – rhaid i chi gysylltu â'r Heddlu a anfonodd y cynnig cwrs atoch.
- Os yw eich ymholiad yn ymwneud â chwrs yr ydych eisoes wedi'i archebu, neu’n ymwneud â mynediad i'ch cwrs, rhaid i chi gysylltu â'ch Darparydd Cwrs.
Os ydych chi ond yn ceisio archebu cwrs, gofalwch eich bod yn mynd i https://offer.ndors.org.uk lle byddwch yn gallu dewis naill ai cwrs rhithwir/ar-lein neu gwrs wyneb yn wyneb/ystafell ddosbarth trwy unrhyw un o'r darparwyr cyrsiau (gallwch hefyd ail-archebu cwrs yma a newid manylion personol). Cofiwch os ydych chi'n archebu cwrs wyneb yn wyneb/ystafell ddosbarth bydd gofyn i chi deithio i leoliad y cwrs.
Nid ydym yn ddarparydd cyrsiau. Os oes angen i chi gysylltu â'ch darparydd cwrs, er enghraifft i ail-archebu cwrs, holi am fynediad i'ch cwrs, gofalwch eich bod yn gwybod pwy yw eich Darparydd Cwrs. Eich darparydd cwrs yw’r sawl y gwnaethoch chi dalu iddo am eich cwrs).
Unwaith y byddwch chi'n gwybod pwy yw eich darparydd cwrs, gallwch ddod o hyd i'w manylion cyswllt yn ein hadran Cwestiynau Cyffredin a thapio ar yr adran 'Mynediad i'ch Cwrs a'ch Darparydd Cwrs'. Yma byddwch yn gweld manylion llawn am sut i gysylltu, beth fydd ei angen arnoch ar gyfer eich cwrs a llawer o wybodaeth ddefnyddiol. Mae'r adran Cwestiynau Cyffredin hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill sydd gennych fel gofynion adnabod ar gyfer cwrs neu gost cwrs a rhifau cysylltu ar gyfer yr holl ddarparwyr cyrsiau..
Os ydych chi wedi darllen yr uchod ac os oes gennych ymholiad o hyd, ewch ymlaen i'r ffurflen ymholiadau. Yn y ffurflen bydd yn ddefnyddiol os gallwch ddarparu gwybodaeth ddigonol inni er mwyn inni eich cynorthwyo. Yn yr adran 'beth yw eich cwestiwn', cofiwch nad ni yw'r darparydd cwrs na'r heddlu, felly byddwch yn benodol ynglŷn â’ch ymholiad. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen i ni ofyn i chi gysylltu â'ch darparydd cwrs neu'r heddlu, ond byddwn yn ymdrechu i'ch cynorthwyo gymaint ag sydd bosibl.
Hysbysiad GDPR – defnyddio eich data
Bydd UKROEd ond yn prosesu'r data y byddwch yn ei ddarparu pan fyddwch yn cyflwyno'r ffurflen hon i'r graddau sy'n angenrheidiol i ymdrin â'ch ymholiad. Byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth i ymchwilio i'ch ymholiad ac i gysylltu â chi. Gan ddibynnu ar natur eich ymholiad, efallai y bydd angen i ni rannu'r wybodaeth rydych yn ei darparu gyda heddlu a/neu ddarparydd cyrsiau trwyddedig. Os yw'n bosibl ymdrin â'ch ymholiad heb rannu eich data, ni fyddwn yn rhannu eich data. Efallai y byddwn yn cyfathrebu â chi trwy e-bost a allai olygu bod eich data yn cael ei brosesu y tu allan i'r DU a/neu'r AEE pan gaiff ei brosesu gan ein darparydd e-bost ni neu eich darparydd e-bost chi. Byddwn yn lleihau'r data personol y byddwn yn ei anfon atoch am y rheswm hwn. Byddwn yn cadw'r manylion y byddwch yn eu hanfon, ac unrhyw gyfathrebiadau pellach y byddwn yn eu cyfnewid â chi, am gyfnod o 6 mis er mwyn ein cynorthwyo i ymateb i'ch ymholiadau.