doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Dod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd

Dod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd

Yn UKROEd rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod wedi dod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Fel rhan o’r achrediad hwn mae gennym gyfrifoldeb i hyrwyddo’r cynllun a helpu pobl eraill ar eu taith at ba lefel bynnag y maen nhw’n gobeithio ei chyrraedd. Rydym yn siarad yn aml am y Ddeddf Cydraddoldeb, a pha mor bwysig yw hi i beidio â bod yn wahaniaethol wrth ymdrin â’n cleientiaid, ond mae hyn yr un mor bwysig wrth ymwneud â phobl gyflogedig neu bobl sy’n gobeithio bod yn gyflogedig o fewn y cynllun.

Mae’n ardderchog cael dyfarniadau ac achrediadau mewn Sefydliad, ond mae’n golygu mwy na hynny mewn gwirionedd. Mae’n rhoi cyfle go iawn i feincnodi’r holl waith caled sy’n rhan o Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn erbyn busnesau eraill, ac i ystyried sut y gallwn wella’n gyson.

Un achrediad o’r fath yw’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd sy’n cael ei redeg gan y Llywodraeth. Cafodd hwn ei sefydlu i annog cyflogwyr i feddwl yn wahanol am anabledd a chymryd camau i wella’r ffordd y maen nhw’n recriwtio, cadw a datblygu pobl anabl yn y gweithle. Cafodd ei ddatblygu gan gyflogwyr a chynrychiolwyr pobl anabl i edrych sut y mae cwmnïau’n creu cyfleoedd cyflogaeth, gan sicrhau eu bod yn hawdd eu cyrchu.

 

Yn UKROEd, o dan arweiniad Sarah Disalvo, dechreuodd y daith hon yn 2022 gyda hunanasesiad, a oedd yn broses hynod o ddefnyddiol i ni gael deall sut yr oeddem wedi gweithredu yn y maes hwn. Mae pecyn cymorth ar gael yn rhwydd ar wefan Gov.uk, ac mae hyn wedi ein galluogi ni i edrych yn feirniadol ar yr hyn oedd gennym yn ei le i gefnogi pobl gydag anableddau yn y gweithle a’r rheiny oedd eisiau cael eu recriwtio. O wneud hynny, rydym wedi mynd ati i lansio polisïau a gweithdrefnau newydd er mwyn cyflawni’r nod hwn.

Parhaodd ein taith drwy 2023 – pan gawsom ein hachredu’n gwmni sydd ag Ymrwymiad i fod yn Hyderus o ran Anabledd, sef y lefel mynediad – hyd at lefel dau, sef lefel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd.

Ym mis Mawrth 2024 cawsom achrediad lefel tri Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Cwblhawyd yr achrediad hwn gydag asesiad gan gymheiriaid o sefydliad arall sydd â statws Arweinydd. Roedd hwn yn cynnwys dadansoddiad beirniadol o’n harferion gweithio i sicrhau ein bod yn cydymffurfio neu i nodi meysydd i’w datblygu. Roeddem yn hapus iawn i dderbyn y statws hwn sy’n dangos yr ymrwymiad sydd gennym i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Mae’r broses gyfan wedi rhoi’r hyder i UKROEd i wybod bod gennym bolisïau a gweithdrefnau wedi’u diweddaru’n ddigonol sy’n sicrhau bod gan bobl sydd ag anableddau gyfle i weithio i ni. Mae hyn yn mynd y tu hwnt i’r dulliau traddodiadol. Mae Bod yn Hyderus o ran Anabledd yn gyfle unigryw i arwain y ffordd, ac efallai y byddwch yn dod o hyd i rywun sy’n anhepgor i’ch busnes.

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am y cynllun, mae croeso i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio’r e-bost [email protected]

 

disability confident leader

Skip to content