doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

A allaf i dalu am fy nghwrs mewn rhandaliadau?

Cwestiynau Cyffredin

A allaf i dalu am fy nghwrs mewn rhandaliadau?

Cyfrifoldeb y Darparwr Cwrs yn unig yw casglu’r ffioedd cwrs sy’n daladwy gan gleientiaid y cwrs.

Gall Darparydd y Cwrs gynnig gwahanol ffyrdd o dalu i gleientiaid y cwrs, er enghraifft taliad ar gerdyn credyd neu gerdyn debyd neu dalu mewn rhandaliadau (a bydd fel arfer yn gofyn am daliad llawn cyn dyddiad y cwrs).

Mae’r Darparydd Cwrs yn cadw’r hawl i wrthod darparu’r cwrs os nad yw’r cleient wedi talu ffi’r cwrs o flaen llaw.

Dylai hyn i gyd gael ei esbonio yn yr ohebiaeth a anfonir gan Ddarparydd y Cwrs neu a gyhoeddir ar eu gwefan.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â thalu am gwrs, cysylltwch â’r Darparydd Cwrs gan ddilyn y cyfarwyddiadau isod:

Ewch i https://offer.ndors.org.uk lle byddwch yn gallu cael mynediad i fanylion eich Cynnig Cwrs drwy wneud hyn:

COFRESTRU: Nodi’r Cyfeirnod a’r PIN sydd yn eich llythyr Cynnig Cwrs, neu eich Cyfeirnod a nodi eich Rhif Gyrrwr yn y maes PIN yn lle rhif PIN.

NEU

  • MEWNGOFNODI: Os gwnaethoch ddewis creu cyfrif o’r blaen, ac os ydych wedi dilysu eich cyfeiriad e-bost, gallwch fewngofnodi gyda’ch cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair. Gallwch hefyd ddefnyddio’r ddyfais “Wedi anghofio eich Cyfrinair” i osod neu i ail-osod eich cyfrinair os gwnaethoch ddarparu cyfeiriad e-bost wrth gofrestru.

Bydd y ddau opsiwn yn eich cymryd at eich Dangosfwrdd:

  • Bydd clicio ar “Gweld Fy Nghyrsiau” yn caniatáu ichi chwilio am Leoliad Cwrs cyfleus neu ddarganfod eich archeb gyfredol. Bydd hyn yn caniatáu ichi gysylltu â’r darparydd cwrs os byddwch angen newid dyddiad neu amser eich cwrs neu i wneud rhagor o ymholiadau.
  • Bydd clicio ar “Rheoli Fy Manylion” yn caniatáu ichi weld a diweddaru’r manylion a ddarparwyd gennych wrth gofrestru – gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost

Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content