doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

A oes angen i mi ddod â fy sbectol ar gwrs lle bydd elfen ar y ffordd?

Cwestiynau Cyffredin

A oes angen i mi ddod â fy sbectol ar gwrs lle bydd elfen ar y ffordd?

Dylech fod wedi cael gwybod yn yr ohebiaeth cyn y cwrs fod angen i chi gymryd prawf golwg fel rhan o broses gofrestru’r cwrs. Rhaid ichi ddod â’ch sbectol neu eich lensys cyffwrdd gyda chi os ydych eu hangen.

OS OES GENNYCH UNRHYW AMHEUAETH O GWBL YNGLŶN Â’CH GOLWG, DYLECH GAEL PRAWF GOLWG GYDAG OPTEGYDD COFRESTREDIG YMHELL CYN I CHI FYNYCHU’R CWRS

Disgwylir i chi ddangos trwydded yrru cerdyn llun fel y gall hyfforddwyr y cwrs ei hastudio fel rhan o broses gofrestru’r cwrs. Os yw eich trwydded yn cynnwys cod 01 mae’n golygu bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag amod a osodwyd gan y DVLA ar eich trwydded drwy wisgo sbectol neu lensys cyffwrdd i gywiro eich golwg wrth yrru.

Os oes gennych god 01 ar eich trwydded ac os ydych wedi cael llawdriniaeth lwyddiannus i gywiro eich golwg rhaid ichi gysylltu â’r DVLA (cliciwch yma i gysylltu â’r DVLA) cyn dyddiad y cwrs i ofyn iddynt dynnu’r cod.

Os na allwch gyflwyno trwydded yrru cerdyn llun ac mae gennych drwydded bapur o hyd, disgwylir ichi gyflwyno dull adnabod â llun beth bynnag a rhaid i chi fynd â chopi neu argraffiad ar bapur o’ch cofnod o drwydded yrru trwy ymweld â phorth y DVLA – https://www.gov.uk/view-driving-licence. Bydd hyn yn dangos crynodeb o’ch trwydded, eich statws gyrru ac unrhyw god cyfyngu a allai fod ar eich trwydded. Gallwch hefyd gynhyrchu cod gwirio i’w rannu gyda’ch darparydd cwrs pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y cwrs.

Os oes gennych drwydded yrru Gogledd Iwerddon, rhaid i chi ddod â dwy ran eich trwydded i’w harchwilio. Mae DVA hefyd yn rhoi trwyddedau cerdyn llun. Bydd y rhan gyfatebol (‘counterpart’) a’r cerdyn llun yn cynnwys manylion unrhyw godau a osodwyd gan y DVA. Nid oes gan Ogledd Iwerddon gyfleuster ar-lein i weld trwyddedau ar hyn o bryd.

Bydd y prawf golwg yn digwydd y tu allan mewn amodau golau dydd da, fel arfer cyn i chi gael eich derbyn i’r cwrs. Bydd gofyn i chi ddarllen plât rhif cofrestru glân yn glir (a wnaed ar ôl 2001) ar gar modur sydd wedi’i barcio o bellter o 20 metr. (https://www.gov.uk/rheolau-golwg-ar-gyfer-gyrru)

Er mwyn cael rhagor o fanylion am godau troseddau ar drwydded yrru y DU  ewch i: https://www.gov.uk/driving-licence-codes

Ar gyfer Gogledd Iwerddon: https://www.nidirect.gov.uk/articles/information-codes-your-driving-licence


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content