doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Allaf i fynd ar gwrs os oes gen i drwydded dros dro?

Cwestiynau Cyffredin

Allaf i fynd ar gwrs os oes gen i drwydded dros dro?

Mae’r cynnig o gwrs yn dibynnu’n gyfan gwbl ar yr heddlu ac ar lawer o ffactorau. Nid yw bod yn ddeiliad trwydded dros dro yn rhwystr ynddo’i hun rhag cael cynnig cwrs, ond os oes ffactorau eraill i’w hystyried ar wahân i’r ffaith fod gennych drwydded dros dro, a’r rheiny’n ffactorau a allai waethygu natur y drosedd, efallai na chewch chi gynnig cwrs.

Hefyd, os ydych wedi bod ar gwrs o fewn y 3 blynedd flaenorol cyn eich trosedd ddiweddaraf, bydd hyn hefyd yn golygu na fyddwch yn gymwys i gael cynnig cwrs.

Os byddwch yn mynychu’r Cwrs Gyrru Diogel ac Ystyriol, mae gan hwn elfen ‘ar y ffordd’, felly mae’n rhaid i’r darparydd cwrs gynnal asesiad risg o ran caniatáu i ddeiliad trwydded dros dro yrru yn ystod yr elfen ar y ffordd.

Gallai hyn olygu y bydd rhaid ichi wneud y cwrs yn unigol gyda’ch anogwr gyrru, mewn cerbyd sydd wedi cael ei addasu’n bwrpasol (h.y. gydag offer rheoli deuol)


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content