doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Does gen i ddim trwydded yrru cerdyn llun. Beth allaf ei ddefnyddio fel dull adnabod â llun?

Cwestiynau Cyffredin

Does gen i ddim trwydded yrru cerdyn llun. Beth allaf ei ddefnyddio fel dull adnabod â llun?

Enghreifftiau o ddulliau adnabod â llun derbyniol yw:

  • Trwydded Yrru Cerdyn Llun (NID yw cerdyn llun sydd wedi dod i ben yn dirymu’r drwydded)
  • Pasbort dilys
  • Pasbort sydd wedi dod i ben
  • Cardiau adnabod ffurfiol (lluoedd arfog, heddlu, undeb myfyrwyr, cerdyn adnabod cwmni)
  • Cerdyn Tacograff
  • Cerdyn adnabod Awdurdod Lleol/Tacsi
  • Bathodyn Glas (parcio i bobl ag anableddau)
  • Tystysgrif Arfau Tanio/Trwydded Dryll

Rhaid peidio â defnyddio unrhyw ddulliau adnabod NAD YDYNT yn cynnwys llun adnabod (e.e. biliau cyfleustodau, tystysgrifau geni/priodas) ac yn yr achos hwn bydd y cleient yn cael ei gyfeirio’n ôl i’r heddlu

Cyrsiau gydag elfennau ar y ffordd

Bydd angen trwydded yrru cerdyn-llun (neu drwydded bapur gyda dull adnabod arall â llun – gweler y rhestr uchod) pan fydd disgwyl i’r cleient ymgymryd ag elfen ar y ffordd ar gwrs, a bydd disgwyl i’r heddlu sicrhau fod gan y cleient drwydded yrru ddilys ar adeg y drosedd honedig.

 

 


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content