doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Hampshire

Cwestiynau Cyffredin

Hampshire

Cwestiynau Cyffredin Heddlu Hampshire

  • Sut ydw i’n cysylltu â’m darparydd cwrs?

Ewch i’n gwefan www.hantscourses.org i gael gwybodaeth gyffredinol a dolenni i weld neu i aildrefnu eich cwrs.

Anfonwch e-bost atom ar mailto:[email protected]

Ffoniwch 02380 478700 – Gadewch neges gydag enw a rhif cysylltu a byddwn yn eich ffonio’n ôl yn gynted ag y gallwn

 

  • Beth fydd ei angen arnaf ar gyfer fy nghwrs?

Cyfrifiadur pen desg neu liniadur gyda gwe-gamera (mae’r rhain i’w cael mewn gliniaduron modern fel arfer), llechen neu ffôn clyfar. Gwnewch yn siŵr bod gennych eich trwydded yrru cerdyn llun, neu fath arall o ffotograff swyddogol (h.y. pasbort) a thrwydded yrru, i’w dangos i’r hyfforddwr yn ystod y broses gofrestru. Gofalwch fod gennych bapur a beiro oherwydd bydd angen y rhain arnoch yn ystod y cwrs, ac efallai y byddwch eisiau cael te/coffi neu ddiod feddal wrth law fel na fyddwch chi’n mynd yn sychedig.

 

  • Ar ba blatfform mae’r cwrs yn rhedeg?

Zoom Cloud Meetings

 

  • Sut ydw i’n cael mynediad i’m cwrs?

Byddwn yn rhoi dolen URL i chi a rhif adnabod (ID) y cyfarfod a chyfrinair mewn e-bost. Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur pen desg neu liniadur, neu rai mathau o lechi, gallwch ymuno drwy glicio ar y ddolen URL ac yna dewis yr opsiwn “YMUNO O’R PORWR”. Os byddwch yn ymuno o lechen neu ffôn byddem yn eich cynghori i lawrlwytho “ZOOM CLOUD MEETINGS” o’ch Storfa Apiau yn gyntaf ac yna ymuno gan ddefnyddio rhif adnabod (ID) a chyfrinair y cyfarfod. Gofalwch eich bod yn dewis “Join Meeting “ NID “Start Meeting”. Yn dibynnu pa lechen neu ffôn yr ydych yn eu defnyddio, efallai y byddwch angen clustffonau gyda microffon yn rhan ohonynt.

 

  • Rydw i wedi archebu fy nghwrs. Pryd fyddaf i’n derbyn fy nghyfarwyddiadau ar sut i ymuno a ble ydw i’n dod o hyd iddyn nhw?

Byddwn yn anfon neges destun atoch (oni bai eich bod wedi optio allan pan oeddech chi’n archebu’r cwrs) 48 awr cyn eich cwrs i’ch atgoffa am eich archeb. Byddwn hefyd yn anfon e-bost yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i ymuno â’r cwrs 24 awr cyn dyddiad eich cwrs, dan y teitl “Nodyn Atgoffa bod Cwrs yn Cychwyn”. Cofiwch edrych yn eich ffeiliau sothach/sbam os na allwch weld ein e-bost yn eich mewnflwch. Os na allwch weld e-bost gennym, gwnewch yn siŵr eich bod wedi rhoi’r cyfeiriad e-bost cywir yn ystod y broses gofrestru ar y system DORS a newidiwch ef os bydd angen (yna bydd yr wybodaeth hon yn cael ei throsglwyddo i’n system), neu anfonwch e-bost atom neu ffoniwch ni a byddwn yn ei ail anfon atoch.

 

  • Rydw i ar fin cymryd fy nghwrs ond dydw i ddim yn gallu mynd i mewn. Ble mae fy nghyfarwyddiadau ymuno (mae’r rhain yn gwestiynau y mae pobl yn eu gofyn yn aml pan fydd y cwrs ar fin dechrau!)?

Chwiliwch yn eich mewnflwch e-byst i weld ein neges atgoffa y byddwn yn anfon atoch 24 awr cyn eich cwrs. Os na allwch ddod o hyd iddi, anfonwch e-bost atom, gan ddangos ei bod yn neges frys, a byddwn yn ymdrechu i anfon yr wybodaeth hon atoch mewn pryd.

 

  • Dydw i ddim yn deall rhyw lawer am dechnoleg ac rydw i’n poeni na fyddaf yn gallu cymryd fy nghwrs rhithiol/ar-lein. Pa gymorth allaf i ei gael gan fy narparydd cwrs?

Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â sut i ymuno â sesiwn, anfonwch e-bost atom cyn gynted ag y gallwch. Byddwn yn eich ffonio i roi rhagor o arweiniad a chymorth i chi i’ch helpu i sicrhau eich bod yn gallu cwblhau eich cwrs yn llwyddiannus.


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content