doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Hertfordshire

Cwestiynau Cyffredin

Hertfordshire

Cwestiynau cyffredin ar gyfer cyrsiau NDORS Swydd Hertford

  • Sut ydw i’n cysylltu â’m darparydd cwrs?
    • Y ffordd orau a’r ffordd gyflymaf o archebu yw drwy wefan cynigion NDORS sy’n cysylltu â’n gwasanaeth archebu ar-lein. Gweler eich llythyr cynnig cwrs gan yr Heddlu.
    • Gallwch hefyd ein ffonio ar 0300 123 4035 neu anfon e-bost inni i  [email protected]
    • Bydd angen ichi gael eich llythyr cynnig cwrs wrth law yn hwylus, yn ogystal â’ch trwydded yrru a cherdyn i dalu.
  • Beth fydd ei angen arnaf ar gyfer fy nghwrs?
    • Mae’r cwrs yn cael ei gynnal ar-lein, felly bydd angen i chi gael gliniadur, llechen neu gyfrifiadur personol gyda microffon a chamera a chyswllt dibynadwy â’r we a fydd yn gallu chwarae fideo. Gellid defnyddio ffonau clyfar, ond bydd y cyrsiau yn fwy effeithiol os bydd gennych chi sgrin fwy. Bydd angen i’ch dyfais fod wedi cael ei gwefru’n ddigonol i bara drwy gydol y cwrs.
    • Rydym yn defnyddio Zoom, felly bydd angen ichi sicrhau fod ap Zoom wedi cael ei uwchlwytho ymlaen llaw. Sicrhewch fod eich sain a’ch fideo yn gweithio cyn ymuno â’r cwrs.
    •  Gallwch wylio ein fideo pwrpasol er mwyn gwybod mwy am beth fydd angen ei wneud.
    • Mae’r cwrs yn gyfrinachol, felly gofalwch eich bod mewn ystafell breifat ac na fydd neb yn tarfu arnoch yn ystod y cwrs. Os byddwch chi angen rhywun i’ch helpu, bydd angen inni wybod hynny ymlaen llaw a bydd yn rhaid i’r unigolyn hwnnw fod yn hŷn na 16 oed.
  • Ar ba blatfform mae’r cwrs yn cael ei gynnal?
    • Rydym yn defnyddio Zoom, y rhaglen ar-lein adnabyddus ar gyfer cynnal cyfarfodydd.
      Bydd angen ichi Lawrlwytho Zoom ar eich dyfais os nad ydych wedi gwneud yn barod. Gwnewch hyn cyn diwrnod eich cwrs, fel bo popeth yn barod.
  • Sut ydw i’n cael mynediad i’m cwrs?
    • Byddwn yn anfon e-bost cadarnhau atoch gyda dolen, a fydd yn mynd â chi i’r cyfarfod. Gofalwch fod eich trwydded yrru a cherdyn adnabod gyda llun yn barod gennych i’w dangos i’r hyfforddwr.
  • Rydw i wedi archebu fy nghwrs. Pryd fyddaf i’n derbyn fy nghyfarwyddiadau ymuno a ble mae’n bosibl imi gael gafael arnynt?
    • Dylech dderbyn eich e-bost cadarnhau ar yr un diwrnod y byddwch yn archebu. Os nad ydych wedi ei dderbyn, chwiliwch yn eich ffolder sbam/sothach. Os nad ydych wedi ei dderbyn cysylltwch â ni er mwyn inni drefnu ei fod yn cael ei ail-anfon. Bydd popeth fydd angen ichi wybod yn cael ei gynnwys ynddo.
  • Rydw i ar fin mynd ar fy nghwrs ond allaf i ddim cael mynediad iddo. Ble ydw i’n dod o hyd i’r cyfarwyddiadau ymuno?
    • Unwaith eto, bydd popeth yn cael ei gynnwys yn eich e-bost cadarnhau. Rydym yn argymell eich bod yn gwirio fod popeth yn barod y diwrnod cynt.
  • Dydw i ddim yn deall rhyw lawer am dechnoleg ac rwy’n poeni na fyddaf yn gallu cymryd fy nghwrs rhithiol/ar-lein. Pa gymorth allaf i ei gael gan fy narparydd cwrs?
    • Gallwch wylio ein fideo pwrpasol sy’n egluro’r hyn fydd angen ichi ei wneud. Ceir fideos byr hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol am sut i ddefnyddio Zoom. Mae’n reit hawdd, ond peidiwch â phoeni. Cofiwch fod hyd yn oed ein hyfforddwyr wedi gorfod dysgu sut i ddefnyddio Zoom !
  • Dydw i ddim yn siarad Saesneg. A fydd yn bosibl imi gael cyfieithydd?
    • Bydd. Gallwn ddarparu cyfieithydd heb gost ychwanegol os byddwch yn rhoi gwybod inni pan fyddwch yn archebu.
    • Os byddwch yn dymuno cael ffrind neu berthynas i’ch helpu, rhaid iddynt fod yn gallu siarad Saesneg yn rhugl a bod yn hŷn na 16 oed. Gadewch inni wybod ymlaen llaw, gan fod y cwrs yn gyfrinachol.
  • Pryd ydych chi’n cynnal eich cyrsiau?
    • Mae gennym gyrsiau ymwybyddiaeth cyflymder o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ar wahân i wyliau cyhoeddus) ar amrywiaeth o wahanol amseroedd – yn y bore, yn y prynhawn neu gyda’r nos. Mae cyrsiau eraill yn cael eu cynnig yn llai aml, ond eto ceir amrywiaeth o amseroedd a dyddiau bron bob wythnos.
  • Dyma sylwadau rhai o’n cleientiaid am y cyrsiau ar-lein:
    • “Byddwn i’n hoffi rhoi rhywfaint o adborth am y cwrs wnes i fynd arno ddoe am 1pm drwy Hertfordshire County Council. Roedd y prosesau archebu ac ymuno â’r cwrs yn hawdd iawn. Chefais i ddim problemau technegol ac roedd y cynnwys yn hynod o ddiddorol. Yn bwysicach fyth roedd Paul, ein tiwtor, yn gwbl ardderchog. Fe wnaeth y sesiwn yn hynod o ddiddorol ac i ddweud y gwir yn rhywbeth i’w fwynhau, heb i hynny dynnu oddi ar bwysigrwydd y cynnwys a’r hyn oedd yn cael ei ddysgu.”
    • “Rydw i newydd fod ar gwrs ymwybyddiaeth cyflymder ac roeddwn i eisiau llongyfarch Stephen a oedd yn cyflwyno’r cwrs. Roedd yn glên ac yn ddymunol ac fe wnaeth i bawb deimlo’n gartrefol yn gyflym. Roedd yn cyflwyno’r cwrs mewn ffordd oedd yn rhyngweithiol ac yn ddiddorol. Llwyddodd i wneud y profiad yn llawer brafiach nag oeddwn i’n disgwyl iddo fod!”
    • “Bore ‘ma fe wnes i fynd ar gwrs ymwybyddiaeth cyflymder, ac rwy’n falch o ddweud ei fod wedi cael ei gyflwyno’n dda gan Alasdair. Roedd y cwrs yn fuddiol i mi oherwydd mae hi mor hawdd anghofio’r rheolau a chanlyniadau gwneud hynny pan fyddwch ar y ffordd. Roedd y cwrs yn trafod y materion yn dda iawn. Cyn hynny, doedd gen i ddim profiad o fod ar gwrs ‘rhithiol’. Roeddwn i’n teimlo ei fod wedi gweithio’n dda ac wedi caniatáu i mi gymryd rhan yn gyfforddus ac yn gyfleus o fy nghartref.
    • “Wedi gwirioneddol fwynhau’r cwrs rhithiol. Llawer mwy cyfleus na’r cyrsiau mewn gwestai ac wedi dysgu cymaint bob tamed. Roeddwn i’n gallu gwrando a chymryd popeth i mewn heb orfod poeni am bobl eraill o fy nghwmpas. Diolch yn fawr a gobeithio na fyddaf yn gorfod gwneud un yn fuan ar ôl i mi ddysgu pethau newydd nad oeddwn i’n eu gwybod.”
    • “Mark oedd yn arwain y cwrs, a phrofodd ei fod yn hwylusydd ar-lein medrus iawn. Yr hyn a wnaeth argraff arnaf fi yn arbennig oedd ei garedigrwydd a’i barch tuag at un unigolyn yn arbennig ar y cwrs. Roedd y cynnwys yn ddiddorol, yn berthnasol ac yn gwneud inni feddwl. Mawr ddiolch.
    • “Rydw i newydd orffen fy nghwrs ymwybyddiaeth cyflymder ar-lein gyda David. Dim ond eisiau anfon e-bost i ddweud diolch yn fawr iawn! Dydy pethau ddim yn hawdd i bobl ar hyn o bryd ac mae pawb yn gorfod gwneud llawer o newidiadau. Ond fe wnaeth o waith arbennig. Roeddwn i’n pryderu am orfod gwneud hyn ar Zoom ond roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus yn syth.”

Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content