doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Kent

Cwestiynau Cyffredin

Kent

Sut ydw i’n cysylltu â’m darparydd cwrs?

Gallwch gysylltu â’r Kent Driver Education Team drwy anfon e-bost i [email protected] neu drwy ffonio’r Tîm ar 03000 411554 o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 9:00am tan 3:00pm

Ble allaf i fynychu fy nghwrs?

Gallwch fynychu Cwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder Cenedlaethol, Cwrs Ymwybyddiaeth Traffyrdd Cenedlaethol neu gwrs Beth sy’n ein Gyrru Ni? un ai drwy blatfform digidol Zoom neu fel cwrs ystafell ddosbarth ffisegol mewn canolfan.

Mae’r Cwrs Gyrru Diogel ac Ystyriol bellach yn gwrs undydd ‘wyneb yn wyneb’ ac mae’n cynnwys elfennau theori ac ymarferol ar y diwrnod. Dim ond mewn canolfannau y mae’r cwrs hwn ar gael a bydd yr elfen theori yn digwydd mewn ystafell ddosbarth ac, ar ôl egwyl fer amser cinio o tua 30 munud, byddwch yn cwblhau elfen ymarferol ‘Ar y ffordd’ y cwrs mewn cerbyd (cerbyd sy’n gweithredu â llaw neu gerbyd awtomatig) gyda Hyfforddwr Gyrru ADI. Bydd angen hefyd ichi allu darllen plât cofrestru cerbyd sydd 20 metr i ffwrdd.

Gan fod yr holl gyrsiau hyn yn seiliedig ar y galw gan gleientiaid nid oes sicrwydd y bydd cyrsiau ar gael. Os na fyddwch yn gallu archebu cwrs, cysylltwch â’r Kent Driver Education Team drwy e-bost [email protected] neu drwy ffonio’r Tîm ar 03000 411554 o ddydd Llun tan ddydd Gwener, o 9:00am tan 3:00pm

Sut ydw i’n archebu cwrs ar-lein yng Nghaint?

Ewch i  https://www.kent.gov.uk/roads-and-travel/road-safety/driver-education-courses neu os nad ydych yn gallu dod o hyd i gwrs yn yr amser sydd gennych ffoniwch ni ar 03000 411554 rhwng 09:00 a 15:00 Dydd Llun – Dydd Gwener a gallwn drafod eich opsiynau. Byddwch angen eich cyfeirnod heddlu a’ch rhif PIN. Fel arall, gallwch anfon e-bost inni  [email protected]  gan ddarparu’r un wybodaeth yn ogystal â rhif cysylltu.

Beth fydd ei angen arnaf ar gyfer fy nghwrs rhithiol ar Zoom?

  • Cysylltiad sefydlog â’r rhyngrwyd drwy gydol y cwrs (tua 3 awr)
  • Dyfais electronig gyda chamera a seinyddion. Gallwch ddefnyddio eich ffôn, gliniadur neu lechen
  • Papur a beiro
  • Bydd yn ofynnol i chi fod mewn ystafell dawel/neu ystafell â’r drws wedi cau lle na fydd dim yn tynnu eich sylw. Ni ddylid caniatáu i neb arall ddod i mewn i’r ystafell nac yn agos atoch yn ystod y cwrs.
  • Rhaid ichi ddarparu dogfen adnabod cerdyn llun wreiddiol. Gallwch weld rhestr o’r mathau o gardiau adnabod sy’n cael eu derbyn yn y Telerau a’r Amodau.

 

Ar ba blatfform mae’r cwrs yn cael ei gynnal?

Mae cyrsiau’n cael eu cynnal drwy’r platfform ZOOM. Os nad ydych yn gyfarwydd â ZOOM, ewch i  https://www.youtube.com/embed/V9VjZne00cY  sy’n egluro sut i uwchlwytho ZOOM ar eich dyfais.

Mae’n syniad da cynnal cyfarfod ffug gyda ffrind/perthynas i sicrhau fod y sain a’r camera yn gweithio’n iawn ac er mwyn osgoi problemau funud olaf.

Er mwyn gwarchod preifatrwydd pawb, rhaid ichi beidio â chymryd sgrinluniau, ffotograffau neu wneud recordiadau o’r cwrs. Mae UKROEd yn monitro’r holl sianeli cyfryngau cymdeithasol ac os deuir o hyd i dor diogelwch data bydd ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i’r achos. Bydd hyn yn arwain at ddirymu’r ffaith eich bod wedi mynychu cwrs a byddwch yn cael eich cyfeirio’n ôl at yr Heddlu a fydd yn rhoi cosb o dri phwynt i chi yn ogystal â dirwy.

Pwy fydd ar y cwrs ar-lein rhithiol?

Ar y cwrs bydd Hyfforddwr Trwyddedig NDORS, hyd at wyth cleient arall a gallai hyn hefyd gynnwys cyfieithwyr a chleientiaid sydd angen Dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain hefyd.

Pwy fydd ar y cwrs ystafell ddosbarth ffisegol?

Ar y cwrs bydd Hyfforddwr Trwyddedig NDORS, hyd at 24 o gleientiaid a gallai hyn hefyd gynnwys cyfieithwyr a chleientiaid sydd angen Dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain.

Weithiau bydd unigolyn ychwanegol yn bresennol yn y cyrsiau i fonitro’r modd mae’r Hyfforddwr yn cyflwyno’r cwrs. Bydd yr unigolyn hwn un ai’n Asesydd o Gorff Llywodraethu Cynllun Cenedlaethol Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru (NDORS) neu’n Swyddog Monitro o Gyngor Sir Caint. Mae’r swyddogion monitro hyn yno i sicrhau fod ansawdd y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan Hyfforddwyr Trwyddedig NDORS yn gyson i’r holl gleientiaid sy’n mynychu’r cyrsiau hyn.

Sut ydw i’n cael mynediad i’m cwrs ar-lein rhithiol?

Chwiliwch yn eich mewnflwch e-bost ac os nad ydych yn dod o hyd i’r e-bost `KCC Zoom Meeting Link’ chwiliwch yn yr holl ffolderi gan gynnwys y ffolderi sothach a sbam.

Gellir lawrlwytho’r ap ar gyfer y Cyfarfod Cwmwl  Zoom drwy fynd i’r safle canlynol – https://zoom.us/

Gwiriwch y ddyfais yr ydych yn ei defnyddio (gliniadur, ffôn symudol, cyfrifiadur) cyn dyddiad eich cwrs a hefyd sicrhewch fod y sain a’r fideo (camera) yn gweithio ar gyfarfodydd ZOOM.

Ar ddiwrnod y cwrs, byddwch yn gallu cael mynediad i’r cyfarfod un ai drwy glicio ar ddolen y cyfarfod neu drwy deipio’r manylion a ddarperir 15 munud  cyn dyddiad cychwyn cyhoeddedig eich cwrs.

Os byddwch yn cael unrhyw anawsterau technegol wrth geisio mewngofnodi, dewch allan o’r cyfarfod a rhowch gynnig arall arni gan ddefnyddio’r un ddyfais neu ddyfais wahanol.

Gan fod y cwrs yn cael ei gyflwyno i gleientiaid eraill yn ogystal â chi, dim ond am 5 munud ar y mwyaf y bydd yr Hyfforddwr yn gallu disgwyl amdanoch os byddwch yn colli cysylltiad â’r rhyngrwyd. Ar ôl hynny bydd y cyfarfod yn cael ei gloi ac ni fyddwch yn gallu cwblhau’r cwrs.

Cysylltwch â’r swyddfa drwy e-bost  [email protected] os na fyddwch wedi gallu mynychu a bydd aelod o’r tîm yn eich ffonio’n ôl rhwng 9am a 3pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Os na fyddwch yn dilyn y broses hon efallai na fyddwch yn gallu mynychu’r cwrs ar y diwrnod ac y bydd angen i chi dalu ffi ail-archebu os bydd cwrs yn dal ar gael o fewn yr amser sydd gennych.

Rydw i wedi archebu fy nghwrs mewn canolfan. Pryd fyddaf i’n derbyn fy manylion cadarnhau?

Unwaith y byddwch wedi archebu a thalu am eich cwrs byddwch yn derbyn e-bost yn syth ar ôl hynny sy’n cadarnhau’r archeb ac yn rhoi Telerau ac Amodau’r cwrs.

Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost, bydd y cadarnhad o’r archeb a Thelerau ac Amodau’r cwrs yn cael eu hanfon ichi drwy’r post. Os na fyddwch wedi derbyn y llythyrau drwy’r post 7 niwrnod cyn dyddiad eich cwrs, cysylltwch â Thîm KDE ar 03000 411554.

Rydw i wedi archebu fy nghwrs ar-lein rhithiol. Pryd fyddaf i’n derbyn fy nghyfarwyddiadau ymuno ar gyfer cyfarfod Zoom a ble ydw i’n dod o hyd i’r rhain?

Bydd yr e-bost cadarnhau hefyd yn cynnwys manylion a fydd yn eich helpu i baratoi at eich cwrs. Darllenwch hwn a’r Telerau a’r Amodau a fydd hefyd yn cael eu hanfon i chi pan fyddwch wedi archebu a thalu am eich cwrs.

Byddwch yn derbyn e-bost sy’n cynnwys y ddolen Zoom 48 awr cyn amser dechrau eich cwrs. Bydd hwn hefyd yn cynnwys rhif adnabod y cyfarfod a’r Cyfrinair. Os gwnaethoch ofyn am neges SMS wrth i chi archebu’r cwrs, byddwch hefyd yn derbyn y manylion mewn dwy neges destun ar wahân, a bydd y rhain yn cael eu hanfon yn awtomatig 48 awr cyn i’r cwrs ddechrau.

Os nad ydych wedi derbyn y `ddolen cyfarfod KCC Zoom’ e-bostiwch o fewn 24 awr cyn y cwrs. Anfonwch e-bost i  [email protected] <mailto:[email protected]> a byddwn yn ei hail-anfon ichi. Ond cofiwch chwilio yn eich holl ffolderi gan gynnwys eich ffolderi sothach a sbam.

Rydw i ar fin mynd ar fy nghwrs ond ni allaf gael mynediad iddo. Ble ydw i’n dod o hyd i’r cyfarwyddiadau ymuno? (Mae’r rhain yn gwestiynau sy’n cael eu gofyn yn aml rai munudau yn unig cyn i gwrs gychwyn!)

Bydd y rhain yn cael eu hanfon i chi mewn e-bost a neges destun SMS os gwnaethoch ofyn am hynny wrth i chi archebu.

Gellir gweld rhagor o fanylion uchod. 

Dydw i ddim yn deall rhyw lawer am dechnoleg ac rwy’n poeni na fyddaf yn gallu cymryd fy nghwrs rhithiol/ar-lein. Pa gymorth sy’n bosibl i mi ei gael gan ddarparydd y cwrs?

Mae’n bosibl i chi gael rhywun i’ch helpu i osod eich dyfais yn barod. Fodd bynnag, unwaith y bydd y cwrs yn dechrau, bydd angen ichi fod ar eich pen eich hun yn yr ystafell heb ddim yn tynnu eich sylw. Yr unig adeg y byddwch yn cael caniatâd i gael cymorth pellach gan yr un person yw os bydd y cyswllt â’r rhyngrwyd yn cael ei golli.

Os byddwch angen gofalwr neu gyfieithydd ar ddiwrnod y cwrs, rhowch y manylion yn adran gofynion arbennig y ffurflen archebu neu e-bostiwch y tîm yn [email protected]. Hefyd, bydd y person angen llun adnabod hefyd os bydd yn mynychu gyda chi ar ddiwrnod y cwrs.

Er mwyn rhoi rhagor o gymorth i chi gwyliwch y fideo hwn ar YouTube, https://www.youtube.com/embed/V9VjZne00cY,  gan ei fod yn hynod ddefnyddiol. Ar ddiwedd y fideo ceir adran problemau cyson. Bydd hon yn eich helpu gyda’r problemau mwyaf cyffredin.

Os byddwch angen rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â’r Tîm KDE drwy e-bost  [email protected] neu drwy ffonio ar 03000 411554 cyn diwrnod eich cwrs. Os gwelwch yn dda peidiwch â disgwyl nes bydd hi’n amser i’ch cwrs ddechrau cyn ceisio gosod ZOOM oherwydd gall y broses hon gymryd cryn amser i’w chwblhau ac wedyn byddai’n bosibl i chi golli eich cwrs a gorfod talu ffi ail-archebu. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, darllenwch y Telerau a’r Amodau. 

Cyrraedd yn hwyr

Os byddwch yn cyrraedd pan fydd y cyfnod cofrestru wedi dod i ben neu’n dychwelyd yn hwyr ar ôl yr egwyl byddwch yn cael eich cloi allan o’r cwrs digidol a bydd neges yn ymddangos yn dweud hynny.

Os byddwch yn cyrraedd pan fydd y cyfnod cofrestru wedi dod i ben neu’n dychwelyd yn hwyr ar ôl yr egwyl pan fyddwch ar gwrs mewn canolfan ni fyddwch yn cael mynd yn ôl i mewn i’r ystafell lle cynhelir y cwrs.

Yn y ddau achos a phan fo hynny’n bosibl, byddwn yn ail-drefnu lle ichi ar gwrs newydd, ond bydd hyn yn golygu talu ffi ail-archebu.

Beth sy’n digwydd os byddaf yn peidio â mynychu neu os na fyddaf yn cwblhau’r cwrs?

Mae hyn yn ddibynnol ar argaeledd y cwrs yng Nghaint a’r cyfnod o amser sydd gennych ar ôl i gwblhau eich cwrs.

Os bydd lle yn dal ar ôl ar gwrs ichi, byddwn yn gallu ail-archebu lle i chi, ond bydd hyn hefyd yn golygu y bydd angen talu’r ffi ail-archebu pan fyddwch yn ail-archebu.

Pan na fydd lleoedd ar gael yng Nghaint, ond bydd amser yn dal ar ôl gennych i fynychu cwrs, bydd angen ichi chwilio am argaeledd darparwyr cyrsiau eraill ar wefan NDORS. Efallai y bydd angen i chi gysylltu â’r Heddlu sydd wedi cofnodi eich trosedd yrru er mwyn cael rhif pin newydd er mwyn caniatáu i chi wneud hyn.

Fodd bynnag, os nad oes gennych amser ar ôl i fynychu eich cwrs bydd yn rhaid ichi gysylltu â’r Heddlu a gofnododd eich trosedd yrru er mwyn trafod pa opsiynau eraill sydd ar gael ichi.

 


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content