doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Mae arnaf angen Cyfieithydd neu Ddehonglydd ar gyfer fy nghwrs. Sut ydw i’n trefnu hyn?

Cwestiynau Cyffredin

Mae arnaf angen Cyfieithydd neu Ddehonglydd ar gyfer fy nghwrs. Sut ydw i’n trefnu hyn?

Mae’n rhaid ichi gysylltu â’r darparydd cwrs a ddewiswyd gennych er mwyn trafod eich gofynion. Cofiwch sicrhau eich bod yn gwneud hyn CYN eich cwrs fel y gellir gwneud trefniadau priodol. Dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

Ewch i  https://offer.ndors.org.uk lle byddwch yn gallu cael mynediad i fanylion eich Cynnig Cwrs drwy wneud hyn:

  • COFRESTRU:Nodi’r Cyfeirnod a’r PIN sydd yn eich llythyr Cynnig Cwrs, neu eich Cyfeirnod a nodi eich Rhif Gyrrwr yn y maes PIN yn lle rhif PIN

NEU

  • MEWNGOFNODI: Os gwnaethoch ddewis creu cyfrif o’r blaen, ac os ydych wedi dilysu eich cyfeiriad e-bost, gallwch fewngofnodi gyda’ch cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair. Gallwch hefyd ddefnyddio’r swyddogaeth “Wedi anghofio eich Cyfrinair” i osod neu i ail-osod eich cyfrinair os gwnaethoch ddarparu cyfeiriad e-bost wrth gofrestru.

Bydd y ddau ddull hyn yn eich arwain at eich Dangosfwrdd:

  • Bydd clicio ar “Gweld Fy Nghyrsiau” yn caniatáu ichi chwilio am Gwrs cyfleus neu ddod o hyd i’ch archeb gyfredol. Bydd hyn yn caniatáu ichi ddod o hyd i fanylion cysylltu’r darparydd cwrs os byddwch angen newid dyddiad neu amser eich cwrs pan fo angen neu wneud ymholiadau pellach.
  • Bydd clicio ar “Rheoli fy Manylion” yn caniatáu ichi weld a diweddaru’r manylion a roddwyd gennych wrth gofrestru – gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost.

Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content