doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Nottinghamshire

Cwestiynau Cyffredin

Nottinghamshire

Cwestiynau Cyffredin

Safer Roads for Nottinghamshire

Mae Safer Roads for Nottinghamshire yn darparu cyrsiau cenedlaethol o dan reolaeth UKROEd (UK Road Offender Education) fel rhan o NDORS (Cynllun Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru Cenedlaethol). Mae’r cynllun cenedlaethol hwn yn rheoli addysg troseddwyr gyrru.

Mae cwestiynau cyffredinol am y cyrsiau a’r cynllun i’w gweld o dan adran Cwestiynau Cyffredin Cyhoeddus UKROEd ar eu gwefan. Cwestiynau Cyffredin | UKROEd

 

Isod ceir Cwestiynau Cyffredin penodol y darparydd cwrs ar gyfer Safer Roads for Nottinghamshire

 

Sut ydw i’n cysylltu â’m darparydd cwrs? 

Drwy ffonio: Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid – 0115 844 5929 – Dydd Llun i Ddydd Gwener 10:00 – 16:00. Gall ein llinellau ffôn fod yn eithriadol o brysur. Os nad ydym yn ateb pan fyddwch yn ffonio, mae system gadael neges llais ar gael 24 awr y dydd sy’n cael ei monitro rhwng 08:00 a 16:00.

Neu e-bostiwch eich ymholiad inni i [email protected]  a gadael eich manylion cysylltu a byddwn yn eich ffonio yn ôl.

 

Rydw i angen newid dyddiad fy nghwrs? Beth sydd angen i mi wneud?

Gallwch ail-archebu eich cwrs ar-lein drwy Driver Education Courses os yw eich cwrs fwy na 7 diwrnod i ffwrdd.  Os ydych o fewn y 7 diwrnod, bydd angen ichi gysylltu â swyddfa’r Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid.  Efallai y bydd yn rhaid ichi dalu ffi ail-archebu.

Sylwch na fyddwch yn gallu aildrefnu eich cwrs ar-lein o fewn 24 awr i’ch archeb wreiddiol a bydd angen i chi gysylltu â ni i gael cymorth.

 

 

Gwybodaeth am y Cwrs:

Byddwch yn gallu dewis un ai cwrs ystafell ddosbarth neu gwrs rhithwir.

Mae cyrsiau rhithwir yn cael eu cynnal ar-lein ar Microsoft Teams. Mae cyrsiau wyneb yn wyneb yn gofyn ichi deithio i leoliad y cwrs o fewn Swydd Nottingham.  Mae’r cwrs yn para 3 awr.

Cynlluniwyd y cyrsiau i addysgu ac i ddeall pa effaith mae ymddygiad yn ei gael ar ddefnyddwyr eraill y ffordd a phobl o fewn y gymuned.  Nid prawf yw’r cwrs ac nid ydych yn pasio neu’n methu. Er mwyn cwblhau’r cwrs, bydd yn rhaid ichi fynychu ar amser, gyda’ch dogfennau adnabod gwreiddiol â llun, bydd rhaid ichi allu deall cynnwys y cwrs yn llawn, gwneud cyfraniad cadarnhaol a dangos eich bod yn barod i wella eich sgiliau gyrru.

Mae Safer Roads for Nottinghamshire yn ddarparydd gwasanaeth, sy’n cael ei reoli gan UKROEd. Mae’n rhaid i ni atgoffa Cleientiaid bod hyn yn rhan o broses gyfreithiol – ac mae cynnig presennol yr Heddlu o gwrs addysgiadol yn ddewis arall yn lle pwyntiau a/neu ddirwy, neu bresenoldeb mewn llys.

 

Faint mae’r cwrs yn ei gostio?

Mae’r Cwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder Cenedlaethol, y Cwrs Ymwybyddiaeth Traffyrdd Cenedlaethol, y Cwrs Cenedlaethol Ymwybyddiaeth o Berygl i Reidwyr a’r cwrs Beth sy’n ein Gyrru Ni? i gyd yn costio £89 yr un.

 

Sut ydw i’n gallu talu?

Rydym yn derbyn taliadau cerdyn Visa a Mastercard. Gallwch dalu gan ddefnyddio ein system ddiogel sy’n cydymffurfio â PCI ar-lein neu dros y ffôn.

Gallwch sefydlu cynllun talu gan ddefnyddio dim mwy na 3 rhandaliad. Cysylltwch â ni ar 0115 8 44 5929 ar gyfer yr opsiwn hwn. Mae angen talu isafswm o £29.67 yn gyntaf. Yna gellir talu’r balans sy’n weddill o £59.33 dros 2 daliad arall, drwy ffonio’r Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid. Rhaid talu’r balans llawn heb fod yn hwyrach na 7 diwrnod cyn i’ch cwrs gael ei gynnal.

Os byddwch chi’n dewis talu mewn rhandaliadau ac yn methu â chlirio’r holl ffioedd sy’n ddyledus o leiaf 7 diwrnod cyn dyddiad eich Cwrs, bydd eich cwrs yn cael ei ganslo’n awtomatig.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill ynglŷn â thaliadau, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid.

 

A yw’r cwrs yn gyfrinachol?

Ydi. Mae diogelu eich cyfrinachedd o’r pwysigrwydd mwyaf. Oni bai bod tîm Safer Roads for Nottinghamshire wedi dod i gytundeb blaenorol, ni chaniateir i neb fod yn yr ystafelloedd dosbarth ffisegol ar wahân i’r hyfforddwyr a gymeradwywyd gan UKROEd a’r sawl sy’n cymryd rhan yn y cwrs.

Os ydych chi’n mynychu cwrs rhithwir, rhaid i chi sicrhau nad oes unrhyw un yn yr ystafell gyda chi ac yn gallu gweld eich sgrin. Rydym yn argymell eich bod yn trefnu gwneud y cwrs ar-lein mewn ystafell breifat lle na fydd dim yn amharu arnoch.

 

A yw’n hi’n bosibl i mi gael cyfieithydd ar y cwrs?

Ydi.

Mae’n bwysig bod unrhyw un sy’n mynychu cwrs NDORS yn gallu deall cynnwys y cwrs yn llawn, yn ogystal â chyfrannu at y drafodaeth grŵp.

Os yw eich sgiliau iaith Saesneg yn gyfyngedig ac y byddent yn cyfyngu ar eich gallu i gwblhau cwrs, mae Safer Roads for Nottinghamshire yn argymell eich bod yn gwneud trefniadau i gyfieithydd fod yno i gynnig cefnogaeth.

Cyfrifoldeb cyfranogwr y cwrs yw trefnu cyfieithydd. Nid cyfrifoldeb yr Heddlu, na’r darparydd cwrs yw darparu cyfieithydd.

Gall cyfieithydd fod yn ffrind neu’n aelod o’r teulu. Sylwer, rhaid i’r cyfieithydd fod dros 16 oed a rhaid bod ganddo/ganddi gerdyn/dogfen adnabod gwreiddiol â llun.

Bydd angen i chi ddarparu enw’r cyfieithydd a fydd yn mynychu gyda chi a’i anfon drwy e-bost i [email protected]

Os byddech yn elwa drwy gael cymorth dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL), cysylltwch â’n Technegwyr yn y Gwasanaeth Cwsmeriaid pan fyddwch yn archebu eich cwrs. Nid oes tâl am hyn. Fodd bynnag, os yw dehonglydd BSL wedi’i drefnu a’ch bod yn methu â mynychu’r cwrs, efallai y codir ffi aildrefnu arnoch a thâl i’r dehonglydd fynychu cwrs gyda chi yn nes ymlaen.

 

Beth sy’n digwydd os oes angen cymorth ychwanegol arnaf?

Pan fydd unrhyw ddarpar gleient yn archebu cwrs gyda ni, byddwn yn gofyn i’r person hwnnw nodi a oes ganddo angen ychwanegol i’w helpu i gael mynediad a chymryd rhan lawn mewn cwrs.

Byddwn yn ymdrechu i wneud unrhyw addasiadau rhesymol bosibl er mwyn sicrhau bod pob cleient yn cael y profiad gorau, pa un a yw’n mynychu cwrs rhithwir neu gwrs mewn ystafell ddosbarth ffisegol.

Cysylltwch â Thîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Safer Roads for Nottinghamshire ar 0115 8444 5929 i drafod unrhyw ofynion cymorth ychwanegol yr hoffech eu trafod ymhellach.

 

Mynychu canolfan ffisegol

Mae cyrsiau ar gael mewn canolfannau o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 0800 a 1600. Mae sawl canolfan ar gael ledled y sir, a gellir dod o hyd i’w manylion ar wefan Safer Roads for Nottinghamshire (https://dev.clarity-ltd.net/)

Rhaid i chi ddarparu dull adnabod gwreiddiol gyda llun er mwyn mynychu’r cwrs.

Dyma enghreifftiau:

Trwydded Yrru Cerdyn Llun (NID yw cerdyn llun sydd wedi dod i ben yn annilysu’r drwydded)

  • Pasbort dilys
  • Pasbort sydd wedi dod i ben
  • Cardiau adnabod ffurfiol (lluoedd arfog, heddlu, undeb myfyrwyr, cerdyn adnabod cwmni)
  • Cerdyn tacograff
  • Dogfen adnabod Awdurdod Lleol/Tacsi
  • Bathodyn Glas (parcio i bobl ag anableddau)
  • Cerdyn Bws
  • Cerdyn adnabod dinesydd (ar gael o’r Swyddfa Bost)
  • Tystysgrif Arfau Tanio/Trwydded Dryll

 

Mynychu Cwrs Ar-lein

Beth fydd ei angen arnaf ar gyfer fy nghwrs?

Bydd yn ofynnol i chi gael mynediad i un o’r canlynol:

  • Cyfrifiadur
  • Gliniadur
  • Ffôn clyfar
  • Cyfrifiadur llechen (tablet)

 

Gellir defnyddio ffonau clyfar ond rydym yn teimlo y bydd y cwrs yn llawer mwy effeithiol os bydd gennych sgrin fwy.

Fodd bynnag, bydd yn rhaid i’r ddyfais y byddwch yn ei dewis gael gwe-gamera a chysylltiad cadarn â’r rhyngrwyd.  Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu eich dyfais â’r prif gyflenwad drwy gydol y cwrs.

Rhaid i chi fod mewn ystafell breifat pan fyddwch yn gwneud y cwrs, heb unrhyw beth a allai dynnu eich sylw. Sylwch fod yn rhaid i’ch pen a’ch ysgwyddau fod yn y golwg bob amser, ac ni ddylid defnyddio unrhyw effeithiau cefndir ar eich camera, e.e. Sgrin aneglur neu gefndir llun

Rhaid i chi ddarparu dull adnabod gwreiddiol gyda llun er mwyn mynychu’r cwrs.

Dyma enghreifftiau:

  • Trwydded Yrru Cerdyn Llun (NID yw cerdyn llun sydd wedi dod i ben yn annilysu’r drwydded)
  • Pasbort dilys
  • Pasbort sydd wedi dod i ben
  • Cardiau adnabod ffurfiol (lluoedd arfog, heddlu, undeb myfyrwyr, cerdyn adnabod cwmni)
  • Cerdyn tacograff
  • Dogfen adnabod Awdurdod Lleol/Tacsi
  • Bathodyn Glas (parcio i bobl ag anableddau)
  • Cerdyn Bws
  • Cerdyn adnabod dinesydd (ar gael o’r Swyddfa Bost)
  • Tystysgrif Arfau Tanio/Trwydded Dryll

Os nad ydych yn sicr a yw eich dull adnabod yn dderbyniol, cysylltwch â ni cyn eich cwrs.

Bydd angen beiro, pen marcio a phapur hefyd yn ystod y cwrs.

 

Ar ba blatfform y cynhelir y cwrs?

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal ar-lein gan ddefnyddio platform digidol Microsoft Teams.

Os byddwch yn defnyddio cyfrifiadur llechen (tablet) neu ffôn clyfar, rydym yn argymell eich bod yn gosod ap Microsoft Teams o Google Play neu Apple App Store mewn da bryd cyn eich cwrs.  Nid oes rhaid talu am lawrlwytho’r ap.

Gallwch hefyd ymuno â chyfarfod drwy borwr gwe neu ap bwrdd gwaith.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn treialu’r system ymlaen llaw cyn eich cwrs er mwyn osgoi unrhyw broblemau funud olaf.

 

Sut ydw i’n cael mynediad i’r cwrs?

Bydd cyfarwyddiadau ymuno yn cael eu hanfon drwy e-bost i chi wythnos cyn eich cwrs o ‘[email protected]’. Chwiliwch yn eich ffolderi sothach, sbam neu hysbysiadau os na fyddwch wedi derbyn neges yn eich prif fewnflwch.

Bydd y cyfarwyddiadau ymuno yn cynnwys y ddolen/URL ar gyfer eich cwrs.

Unwaith y byddwch wedi cysylltu â’r cwrs, byddwch yn cael eich gosod yn awtomatig mewn ystafell aros lle byddwch yn gweld enw’r cwrs a neges debyg i’r neges ganlynol “rydym wedi rhoi gwybod i bobl eich bod yn disgwyl” neu ‘dylai rhywun roi mynediad ichi yn fuan”. Bydd yr hyfforddwr yn rhoi mynediad ichi yn eich tro ac yn eich cofrestru’n breifat ar gyfer y cwrs.  

 

Dydw i ddim yn gwybod rhyw lawer am dechnoleg ac rwy’n poeni ynglŷn â gwneud y cwrs. A oes ‘na unrhyw gymorth ar gael?

Mae’n bwysig iawn nad ydych yn poeni am hyn.

Mae’r fideo hwn https://youtu.be/wdRXLcLswUE yn egluro sut i lawrlwytho Microsoft Teams a mewngofnodi i gwrs ar-lein.  Mae mynychu cwrs ar-lein yn eithaf syml ac nid oes rhaid cael unrhyw arbenigedd technegol.

Mae Technegwyr profiadol ein Gwasanaeth Cwsmeriaid ar gael i helpu ac yn fwy na pharod i’ch helpu i dreialu sut i ymuno â’r cwrs. Fodd bynnag gofynnwn i chi gysylltu â ni mewn da bryd er mwyn inni allu trefnu hyn.

Caniateir ichi gael ffrind neu aelod o’ch teulu yno i’ch helpu i fewngofnodi i’ch cwrs ond bydd angen iddynt adael yr ystafell pan fydd eich cwrs yn dechrau.

Byddwch yn derbyn e-bost saith niwrnod cyn eich cwrs gyda’r cyfarwyddiadau ymuno a bydd hwn yn cynnwys rhagor o wybodaeth ac yn cadarnhau’r hyn fydd angen ichi wneud i baratoi ar gyfer eich cwrs.

Os nad oes gennych yr offer neu’r cymorth sydd ei angen arnoch i fynychu eich cwrs, efallai y byddwn yn gallu cynnig cwrs ystafell ddosbarth i chi mewn canolfan. Mae hyn yn dibynnu ar eich argaeledd a phryd mae eich cynnig yn dod i ben.

 

Beth sy’n digwydd os bydd gennyf broblemau technegol wrth gysylltu â’r cwrs neu os byddaf yn colli cysylltiad yn ystod y cwrs?

Gwiriwch eich bod mor agos ag sydd bosibl at lwybrydd y rhyngrwyd.  Diffoddwch unrhyw ddyfeisiau eraill sy’n defnyddio’r rhyngrwyd er mwyn helpu i gryfhau’r signal.

Os byddwch yn cael problemau cysylltu, allgofnodwch a mewngofnodwch eto oherwydd gallai hyn helpu. Gofalwch eich bod yn ymuno gyda’r fideo a’r sain ymlaen pan fydd y prompt yn ymddangos.

Os byddwch yn colli cysylltiad yn ystod y cwrs, cliciwch ar y ddolen wreiddiol y gwnaethoch ei defnyddio i ymuno â’r cwrs. Byddwch yn mynd i’r ystafell aros unwaith eto a bydd eich hyfforddwr yn cael gwybod eich bod wedi ailymuno. Os nad ydych yn llwyddo i ailymuno, bydd angen i chi gysylltu â’r Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid a byddwch yn cael cyfle i ail-archebu’r cwrs, gan ddibynnu a fydd y cwrs ar gael.

 

Rydw i’n hwyr i’r cwrs ac nid yw’r hyfforddwr wedi rhoi caniatâd i mi fynd i mewn. Beth ddylwn i wneud?

Rhaid ichi gysylltu ag un o Dechnegwyr ein Gwasanaeth Cwsmeriaid cyn gynted ag y bo modd i weld a fydd yn bosibl ail-drefnu eich cwrs, yn dibynnu ar argaeledd. Gall y bydd Telerau ac Amodau yn weithredol.

 

Does gen i ddim darpariaeth gofal plant. Sut ydw i’n mynychu cwrs ar-lein?

Mae’n ofynnol eich bod yn gallu cwblhau’r cwrs mewn ystafell breifat heb ddim yn amharu arnoch er mwyn ichi allu canolbwyntio a rhoi eich holl sylw i’r cwrs. Bydd angen ichi ystyried pa opsiwn sydd orau ar gyfer eich amgylchiadau.

 

Does dim cyrsiau ar gael ar-lein. Beth ydw i’n wneud?

Cysylltwch â Thechnegwyr Gwasanaeth Cwsmeriaid Safer Roads for Nottinghamshire drwy ffonio 0115 844 5929 neu drwy anfon e-bost i  [email protected] a byddant yn gwneud pob ymdrech i’ch helpu.  Fel arall, gallwch ymweld â gwefan NDORS (UKROEd) i weld yr holl ddarparwyr sydd ar gael ar gyfer y cwrs NDORS sydd ei angen arnoch.

 

Safonau Ymddygiad

 

Dylai pobl sy’n mynd ar gyrsiau NDORS ymddwyn mewn ffordd barchus tuag at hyfforddwyr y cwrs a’r bobl eraill sydd ar y cwrs. Mae gan Safer Roads for Nottinghamshire bolisi dim goddefgarwch tuag at ymddygiad ymosodol a difrïol.

Mae’n bwysig bod yr amgylchedd yn un cyfforddus lle gall bawb sydd ar y cwrs gyfranogi.

Mae’n ofynnol i’r rhai sy’n mynychu’r cwrs edrych yn lân ac mae pob unigolyn yn gyfrifol am ei ymddangosiad a’r ffordd mae’n edrych yn gyffredinol ac am ei hylendid personol.

Ni ddylai’r rhai sy’n mynychu’r cwrs wisgo dillad sy’n debygol o achosi embaras iddyn nhw eu hunain neu i bobl eraill a dylent fod yn ymwybodol o wahaniaethau diwylliannol mewn gwisg a chyflwyniad, a pharchu hynny.

Mae gan Safer Roads for Nottinghamshire yr hawl i wrthod mynediad i rywun neu ofyn i rywun adael am ymddygiad amhriodol, sarhaus neu aflonyddgar, am wisgo gwisg amhriodol neu am hylendid personol gwael. Fel arfer, pan fydd hynny’n digwydd, bydd yr unigolyn hwnnw’n cael ei gyfeirio yn ôl at yr heddlu.


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


A oedd yr ateb hwn yn ddefnyddiol?


Skip to content