doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Rwyf eisiau newid dyddiad neu amser fy nghwrs

Cwestiynau Cyffredin

Rwyf eisiau newid dyddiad neu amser fy nghwrs

I gysylltu â’r darparydd cwrs ynglŷn â’r mater hwn, dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

Ewch i  https://offer.ndors.org.uk lle byddwch yn gallu cael mynediad i fanylion eich Cynnig Cwrs drwy wneud hyn:

  • COFRESTRU: Nodi’r Cyfeirnod a’r PIN sydd yn eich llythyr Cynnig Cwrs, neu eich Cyfeirnod a nodi eich Rhif Gyrrwr yn y maes PIN yn lle rhif PIN

NEU

  • MEWNGOFNODI: Os gwnaethoch ddewis creu cyfrif o’r blaen, ac os ydych wedi dilysu eich cyfeiriad e-bost, gallwch fewngofnodi gyda’ch cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair. Gallwch hefyd ddefnyddio’r ddyfais “Wedi anghofio eich Cyfrinair” i osod neu i ail-osod eich cyfrinair os gwnaethoch ddarparu cyfeiriad e-bost wrth gofrestru

Bydd y ddau ddull yn mynd â chi i’r Dangosfwrdd:

  • Bydd clicio ar “Gweld Fy Nghyrsiau” yn caniatáu ichi chwilio am Leoliad Cwrs cyfleus neu ddarganfod eich archeb gyfredol. Bydd hyn yn caniatáu ichi gysylltu â’r darparydd cwrs os byddwch angen newid dyddiad neu amser eich cwrs neu i wneud rhagor o ymholiadau.
  • Bydd clicio ar “Rheoli Fy Manylion” yn caniatáu ichi weld a diweddaru’r manylion a ddarparwyd gennych wrth gofrestru – gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost.

Neu dilynwch y ddolen hon i ganfod eich darparydd cwrs a’r manylion cysylltu:

www.ukroed.org.uk/faqs/course-provider-contact-list-november-2022/


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content