doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Sussex

Cwestiynau Cyffredin

Sussex

Sussex Driver Training – Dosbarth Digidol Cwestiynau Cyffredin

 

Sut ydw i’n cysylltu â’m darparydd cwrs?

Gallwch gysylltu â Sussex Driver Training dros y ffôn ar 0330 222 8999, mae ein llinellau ffôn yn agored o Ddydd Llun i Ddydd Gwener 9am- 3:30pm. Fel arall, gallwch anfon e-bost atom i [email protected] unrhyw bryd (sylwch mai dim ond yn achlysurol y bydd y mewnflwch hwn yn cael ei fonitro yn ystod y penwythnos, felly gallai gymryd mwy o amser i ni ymateb i chi os byddwch yn cysylltu â ni yr adeg honno).

Beth fydd ei angen arnaf i gwblhau’r cwrs ar-lein?

Y gofynion er mwyn caniatáu i chi gwblhau’r cwrs ar-lein:

  • Dogfen adnabod gyda ffotograff e.e. Trwydded Yrru Cerdyn Llun neu Basbort
  • Dyfais sy’n cysylltu â’r rhyngrwyd gyda gwe-gamera/microffon/seinyddion, er enghraifft llechen, ffôn clyfar, gliniadur a chyfrifiadur pen desg. Byddem yn eich cynghori i gael cebl gwefru a soced gwefru gerllaw os ydych yn defnyddio dyfais ddi-wifr.
  • Cysylltiad sefydlog â’r rhyngrwyd.
  • Ystafell dawel, ar eich pen eich hun heb unrhyw beth yn amharu arnoch.
  • Bydd angen i chi roi sylw i’r hyn sy’n digwydd drwy gydol y cwrs.
  • Beiro a phapur.

 Pa blatfform ydych chi’n ei ddefnyddio?

Yn Sussex Driver Training rydym yn gweithredu ein cyrsiau digidol drwy fideo-gynadledda Zoom; gallwch weld rhagor o wybodaeth am Zoom ar https://zoom.us/

Oes angen i mi greu cyfrif gyda Zoom?

Na, does dim rhaid i chi wneud hyn wrth ymuno â’n cyrsiau. Rydych yn cael eich gwahodd i’n platfform busnes trwyddedig felly nid oes gofyn i chi gael cyfrif ac, os oes gennych chi gyfrif beth bynnag, ni fyddwch wedi eich cyfyngu gan y math o gyfrif sydd gennych.

Sut ydw i’n ymuno â’r cwrs?

Fel y mae’r cyfarwyddiadau’n ei nodi yn y cadarnhad a gawsoch wedi i chi archebu’r cwrs, rydym yn eich cynghori’n gryf i lawrlwytho’r Ap ‘Zoom Cloud meetings’ cyn ymuno â’ch cwrs. Byddwch yn derbyn e-bost ar wahân 48 awr cyn dyddiad/amser cychwyn eich cwrs a bydd hwn yn cynnwys y manylion ymuno ar Zoom.

O leiaf 15 munud cyn i’r cwrs gychwyn, agorwch eich ap Zoom, dewiswch ‘join a meeting’ a rhowch eich ID ar gyfer y cyfarfod ac yna eich cyfrinair.

Gallwch lawrlwytho’r ap ‘Zoom Cloud Meetings’ o storfa apiau eich dyfais neu drwy fynd i wefan swyddogol Zoom – https://zoom.us/

 Rhagor o Arweiniad

I gael rhagor o wybodaeth am eich cwrs, dilynwch y ddolen fideo YouTube isod. Bydd y fideo yn esbonio beth sy’n rhaid i chi ei wneud i baratoi ar gyfer eich cwrs, beth fydd yn digwydd ar y diwrnod a beth i’w wneud os bydd rhywbeth yn mynd o’i le:  https://www.youtube.com/embed/RQt7FuMxS5U

Rydym yn eich cynghori chi’n gryf i wylio’r fideo hwn os nad ydych yn gyfarwydd â Zoom. DYLECH NODI NA ALLWCH FYND AR EICH CWRS DRWY’R DDOLEN UCHOD. I gael eich cyfarwyddiadau manwl llawn ar gyfer ymuno, darllenwch eich cadarnhad cwrs neu cysylltwch â ni i gael rhagor o gymorth technegol – Dylech wneud hyn cyn dyddiad y cwrs.

 Rwyf wedi archebu fy nghwrs. Pryd fyddaf i’n derbyn fy nghyfarwyddiadau ymuno, ac ymhle ydw i’n dod o hyd iddyn nhw?

Dylech dderbyn eich cyfarwyddiadau ymuno adeg archebu a hynny mewn e-bost cadarnhau cwrs. Bydd hwn yn cael ei anfon i’r cyfeiriad e-bost a roddwyd gennych adeg archebu.

Yn ychwanegol at hyn, byddwch yn derbyn e-bost awtomatig ar wahân yn union 48 awr cyn dyddiad/amser cychwyn eich cwrs sy’n rhoi’r manylion ymuno ar Zoom h.y. ID y cyfarfod a’r cyfrinair. Bydd yr e-bost hwn yn cael ei anfon atoch gyda’r pwnc ‘Your Online Digital Course – SSX…’ (Course Reminder SSX …)

Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych yn eich ffolderi sothach/sbam/sbwriel neu  HYRWYDDIADAU wrth geisio dod o hyd i’r e-bost atgoffa. Fodd bynnag, os na allwch ddod o hyd i’r e-bost ar ôl chwilio yn y ffolderi uchod, cysylltwch â ni ar frys drwy anfon e-bost i [email protected] neu ffoniwch 0330 222 8999 Dydd Llun – Dydd Gwener 9.00am-3.30pm.

 Beth ddylwn i wneud os nad ydw i wedi derbyn fy manylion ar gyfer ymuno â’r cwrs 48 awr cyn fy nghwrs?

Os na fyddwch wedi derbyn yr ail e-bost 48 awr cyn eich cwrs gyda’r pwnc “Reminder Your Online Digital Course – SSX” (Course Reminder SSX ..) sy’n cynnwys y manylion ymuno ar Zoom, chwiliwch yn gyntaf yn eich ffolderi sothach/sbam/sbwriel neu  HYRWYDDIADAU i geisio dod o hyd i’r e-bost atgoffa. Os na allwch ddod o hyd i’r e-bost yno, rhaid i chi gysylltu â ni o leiaf 24 awr cyn eich cwrs i roi gwybod i ni a byddwn yn rhoi’r manylion i chi. Gallwch gysylltu â ni ar y ffôn 03302228999 (Dydd Llun – Dydd Gwener 9.00am-3.30pm) neu anfonwch e-bost i  [email protected].

Os na fyddwch yn rhoi digon o rybudd i ni, gallai olygu bod yn rhaid i chi dalu ffi ail archebu o £45 i fynd ar gwrs arall.

 Rwyf ar fin dechrau fy nghwrs ond ni allaf fynd i mewn iddo. Ble mae fy nghyfarwyddiadau ymuno?

Fel y nodwyd uchod, byddwn yn anfon eich cyfarwyddiadau ymuno atoch mewn e-bost i’r cyfeiriad a roddwyd gennych adeg archebu, ond os ydych yn methu dod o hyd iddyn nhw ac rydych i fod i ymuno â’ch cwrs, cysylltwch â ni ar y ffôn neu’r e-bost gan nodi bod eich neges yn un frys ac fe wnawn ein gorau i’ch helpu chi.

Dydw i ddim yn deall rhyw lawer am dechnoleg ac rwy’n poeni na fyddaf yn gallu cymryd fy nghwrs rhithiol/ar-lein. Pa gymorth allaf i ei gael gan fy narparydd cwrs?

Gallwn gynnig nifer o wahanol opsiynau i chi yn Sussex Driver Training:

  • Yn gyntaf, dylai pob un o’n hatebwyr galwadau allu eich arwain drwy’r broses ymuno, gam wrth gam, a rhoi cyngor i chi am unrhyw broblemau sydd gennych.
  • Yn ogystal, gallwn hefyd gynnig gwasanaeth profi llawn i chi gydag un o’n cynghorwyr technegol lle gallwn osod sesiwn ffug cyn eich cwrs a gallwch gael eich tywys drwy’r broses gam wrth gam dros y ffôn a Zoom.
  • Os byddwch angen cael gofalwr/gweithiwr cymorth yno i’ch cefnogi yn ystod y cwrs, rydym yn fwy na hapus i chi gael yr aelod hwn i’ch helpu chi i osod popeth o flaen llawn neu, fel arall, i aros gyda chi drwy’r cwrs. Fodd bynnag, byddwn angen eu henw llawn a rhyw fath o ID gyda ffotograff os byddwch chi eisiau iddyn nhw fod yn bresennol drwy gydol y cwrs.

Os hoffech drefnu sesiwn brawf neu gyfle i siarad ag un o’n cynghorwyr technegol am unrhyw broblemau sydd gennych, mae croeso i chi gysylltu â ni ar y ffôn 03302228999 (Llun-Gwe 09:00am-3:30pm) neu anfon e-bost i [email protected] .

 Pwy fydd ar y cwrs gyda mi?

Hyd at 8 cleient arall sydd wedi cyflawni trosedd tebyg i chi. Cyflwynir y cwrs gan hyfforddwr cofrestredig NDORS (Cynllun Cenedlaethol Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru). Mae’n bosibl y bydd Rheolwr Sicrhau Ansawdd NDORS ar y cwrs a fydd yn rhoi gwybod i chi pwy ydyw.

 Pryd ddylwn i fewngofnodi i’m cwrs?

Bydd angen i chi fewngofnodi ar y cwrs 10-15 munud cyn iddo gychwyn. Mae hwn yn gwrs un diwrnod. Bydd y cofrestru’n digwydd yn ystod yr 20 munud cyntaf ar ôl amser dechrau’r cwrs. Mae egwyl o 10 munud yn ystod y sesiwn.

 Beth sy’n digwydd os byddaf yn hwyr?

Os byddwch yn cyrraedd wedi i’r cwrs gychwyn yn iawn, cewch eich cloi allan yn yr ystafell aros rithiol a bydd angen i chi gysylltu â darparydd y cwrs.

 Oes modd i mi wneud cwrs os ydw i’n drwm fy nghlyw?

Oes. Byddwn bob amser yn ceisio ateb holl anghenion ein cleientiaid fel eu bod nhw’n gallu cwblhau cwrs os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny. Gallwn droi’r Gwasanaeth Penawdau Byw ymlaen, gallwn ddarparu Dehonglydd BSL neu gallwch chithau drefnu eich arwyddwr eich hun.  I gael rhagor o gyngor ac arweiniad, ffoniwch ein tîm ar 0330 222 8999 Dydd Llun – Dydd Gwener 9.00am-3.30pm neu anfonwch e-bost i [email protected]

Mae ein cydweithwyr yn Drivesafe yn cynnig cwrs iaith y byddar a gallwch gysylltu â nhw ar  [email protected]

 Beth sy’n digwydd os byddaf yn cael anawsterau wrth geisio mewngofnodi?

Os byddwch yn cael anawsterau wrth geisio mewngofnodi i’ch cwrs, mae croeso i chi gysylltu â ni ar y ffôn neu’r e-bost oherwydd byddwn yn gwneud ein gorau bob amser i’ch helpu i fynd i mewn i’r cwrs. Yn anffodus, ar hyn o bryd, dim ond o ddydd Llun i ddydd Gwener y mae’r cymorth hwn ar gael.

 Awgrymiadau Sylfaenol i Ddatrys Problemau

Lle bo modd, gwnewch yn siŵr eich bod wedi lawrlwytho’r ap ZOOM Cloud Meeting ymlaen llaw. Os yw’r ap Zoom wedi ei lawrlwytho i’ch dyfais yn barod, gofalwch eich bod wedi diweddaru hwn i’r fersiwn ddiweddaraf cyn eich cwrs.

Os ydych yn defnyddio Zoom am y tro cyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn cytuno ag Amodau a Thelerau Zoom.

Caniatewch i Zoom ddefnyddio eich camera a’ch microffon.

Yn nes ymlaen, byddwch yn gweld sgrin ragolwg sy’n gofyn i chi ymuno â fideo.

Peidiwch â phoeni os ydych yn yr ystafell aros am hyd at 20-30 munud oherwydd bydd eich hyfforddwr yn brysur yn cofrestru cyfranogwyr eraill. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r amser hwn i sicrhau bod eich trwydded yrru cerdyn llun gennych yn barod ar gyfer cofrestru.

Os na allwch glywed eich Hyfforddwr, gofalwch eich bod wedi cysylltu â’r sain. Efallai y bydd angen i chi dapio’r sgrin ac yna edrych yn y gornel waelod chwith a chlicio “join/connect with audio”, ac yna gytuno i’r prompt ychwanegol i gysylltu â sain y ddyfais/cyfrifiadur/rhyngrwyd.

Os byddwch yn colli cysylltiad o gwbl, dim ond am gyfnod o hyd at 10 munud y bydd y cyfarfod yn cael ei gadw’n agored. Bydd angen i chi ail ymuno gyda’r ddolen wreiddiol. Os gallwch wneud hynny o fewn y 10 munud yma, ond rydych yn gweld neges yn dweud bod y cyfarfod wedi cloi, bydd angen i chi ail geisio’r ddolen wreiddiol dro ar ôl tro am y cyfnod o bum munud nes bydd yr hyfforddwr wedi gallu agor eich cyfarfod.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi eich cysylltu â’r WIFI ac NID AR RWYDWAITH CELLOG

 A ddylwn i gytuno ag Amodau a Thelerau Zoom?

Dylech, bydd angen i chi gytuno â’r amodau a thelerau er mwyn parhau.

 A ddylwn i ganiatáu i Zoom ddefnyddio fy nghamera a microffon?

Dylech, mae hon yn gynhadledd fideo ryngweithiol felly bydd angen i chi ddefnyddio eich microffon a’ch camera er mwyn mynd i mewn i’r cwrs.

Sut ydw i’n gwybod fy mod yn y lle cywir ac ar y cwrs cywir?

Byddwch yn derbyn cod a chyfrinair unigryw ar gyfer y digwyddiad a dim ond ar gyfer y cwrs hyfforddi yma y gellir eu defnyddio. Bydd eich dolen a’ch cyfrinair yn gadael i chi fynd i mewn i’r ystafell aros rithiol. Byddwch yn gwybod eich bod yn y lle cywir oherwydd bydd neges yn eich cyfarch sy’n nodi eich bod yn ystafell aros eich cwrs NDORS a bydd eich hyfforddwr gyda chi cyn hir.

 Rydw i wedi mewngofnodi a gallaf weld fy hyfforddwr, ond dydw i ddim yn gallu clywed unrhyw beth.

Efallai y bydd angen i chi gysylltu â’r sain ar wahân. Gallwch wneud hyn drwy edrych yng nghornel waelod chwith y sgrin (efallai y bydd angen i chi dapio’r sgrin yn gyntaf), a chanfod y botwm ‘join/connect with audio’. Wedyn, cytunwch i’r prompt ychwanegol i gysylltu drwy sain y ddyfais/cyfrifiadur/rhyngrwyd.

 Pa ID sydd angen i mi ei ddangos a sut ydw i’n gwneud hyn?

Trwydded cerdyn-llun:

Mae’n rhaid i chi ddod â’ch trwydded yrru cerdyn llun gyfredol a’i dangos. Gweler yr amodau a thelerau i gael rhagor o wybodaeth.

Pasbort

Trwydded yrru bapur (heb gerdyn llun):

Mae’n rhaid i chi ddangos eich trwydded a phasbort neu ddogfen swyddogol debyg arall gyda ffotograff arni i ddangos pwy ydych chi.

Trwydded dros dro:

Os yw eich trwydded yn un dros dro, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am hynny ar adeg archebu’r cwrs fel bod modd i ni wneud trefniadau arbennig.

Os yw eich trwydded yrru’n un o’r tu allan i Ewrop:

Mae’n rhaid i chi ddangos eich trwydded ac unrhyw ddogfennau priodol eraill sy’n dangos tystiolaeth o’ch mynediad i’r DU.

Rydych yn dangos eich dogfennau drwy eu codi o flaen y camera pan fydd yr hyfforddwr yn gofyn i chi wneud hynny yn ystod y broses gofrestru unigol.

Gweler y neges sy’n cadarnhau eich cwrs i gael rhagor o wybodaeth am ddogfennau adnabod ffotograffig a beth i’w wneud os yw eich dogfen chi wedi mynd ar goll neu gael ei dwyn, neu os na allwch ddod o hyd iddi.

 A gaf i symud o gwmpas yn ystod y cwrs?

Na chewch, oherwydd mae hyn yn tynnu sylw’r hyfforddwr a’r cleientiaid eraill.

 Beth sy’n digwydd yn yr ystafell ddosbarth?

Yn gyntaf, bydd yr hyfforddwr NDORS cofrestredig yn eich cofrestru chi ar y cwrs ac yn gwirio eich ID yn erbyn eich trwydded yrru cerdyn llun/trwydded yrru bapur a phasbort. Bydd ef/hi yn mynd drwy’r rheolau sylfaenol/cadw trefn gyda chi (rheolau’r cwrs). Yna bydd y cwrs yn cychwyn gyda chyfres o fodiwlau a fideos ynghyd â thrafodaethau a gweithgareddau grŵp. Rhaid i bob cleient wneud cyfraniad cadarnhaol a chymryd rhan yn y trafodaethau.

“I ddiogelu preifatrwydd pawb, ni ddylech dynnu sgrinluniau neu ffotograffau na gwneud recordiadau o’r cwrs heddiw. Mae UKROEd yn monitro’r holl sianelau cyfryngau cymdeithasol ac os gwelir bod y rheolau data wedi eu torri, bydd ymchwiliad llawn i hynny. Bydd hyn yn arwain at ddiystyru eich presenoldeb ar y cwrs a chewch eich cyfeirio yn ôl at yr Heddlu er mwyn iddyn nhw ystyried eich achos.

 

Beth sy’n digwydd os caf broblemau technegol neu os byddaf yn colli cysylltiad yn ystod fy nghwrs?

Os byddwch yn colli cysylltiad o gwbl, dim ond am gyfnod o hyd at 10 munud y bydd y cyfarfod yn cael ei gadw’n agored. Bydd angen i chi ail ymuno gan ddefnyddio’r dull gwreiddiol. Os gallwch wneud hynny o fewn y 10 munud yma, ond rydych yn gweld neges yn dweud bod y cyfarfod wedi cloi, bydd angen i chi ail geisio’r ddolen wreiddiol dro ar ôl tro am y cyfnod o bum munud nes bydd yr hyfforddwr wedi gallu agor eich cyfarfod.

Os ydych yn dal i fethu ag ail ymuno, bydd angen i chi gysylltu â thîm Driver Training ar 0330 222 8999 Dydd Llun – Dydd Gwener 9.00am-3.30pm neu anfon e-bost i [email protected]

 Beth sy’n digwydd nesaf?

Wedi i chi fod ar y cwrs a’i gwblhau’n llwyddiannus, mae dyddiad cwblhau’r cwrs yn cael ei gofnodi a’i gadw ar Gronfa Ddata Genedlaethol. Os byddwch yn rhan o ddigwyddiad traffig ffordd arall, sy’n cyfateb i’r un meini prawf o fewn 3 blynedd i ddyddiad cwblhau’r cwrs, ni fydd ail gwrs yn cael ei gynnig i chi yn lle’r gosb arferol.

 Beth sy’n digwydd os na fyddaf yn cwblhau’r cwrs?

Nid yw rhai cleientiad yn gallu derbyn y dyddiadau a gynigiwn ar gyfer y cwrs; mae eraill yn newid eu meddyliau ac yn penderfynu nad ydynt eisiau dod ar gwrs wedi’r cwbl; mae rhai yn gweld nad ydyn nhw’n gallu talu’n llawn cyn mynd; mae rhai cleientiaid yn mynychu ar gyfer rhan o’u cwrs yn unig. Mewn achosion o’r fath, rydym yn rhoi gwybod i’r heddlu na allwn roi cleient drwy gwrs. Yna bydd yr heddlu’n parhau gyda’r erlyniad. Ond, i ddechrau, cysylltwch â’n tîm ar y rhif isod i weld pa opsiynau sydd ar gael i chi.

 

Beth fydd ei angen arnaf er mwyn cwblhau’r cwrs mewn canolfan?

Cyn y cwrs:

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi edrych lle mae lleoliad y cwrs ac wedi astudio’r map a’r cyfarwyddiadau amgaeedig. Gadewch ddigon o amser i deithio yno, gan ystyried unrhyw gyfyngiadau teithio ar y ffordd.

Mae COVID-19 yn dal i fod yn risg. Mae’n bosibl dal a lledaenu COVID-19 hyd yn oed os ydych wedi cael y brechiadau i gyd. Os oes gennych unrhyw rai o brif symptomau COVID-19 neu os cewch ganlyniad prawf positif, cyngor yr adran iechyd cyhoeddus yw aros gartref ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill.

Bydd COVID-19 yn rhan o’n bywydau yn y tymor hir, felly mae angen i ni ddysgu byw â’r haint a rheoli’r risg i ni’n hunain ac i eraill. Gallwn ni i gyd chwarae ein rhan drwy ddeall y sefyllfaoedd lle mae’r risg o ddal a throsglwyddo haint COVID-19 yn debygol o fod yn  uwch a gweithredu i ostwng y risgiau hyn.

Os ydych yn gyfforddus yn gwneud hynny, gwisgwch eich gorchudd wyneb yn ystod y cwrs.

 Beth ddylwn i ei gymryd ar y diwrnod?

Dewch â’ch pasbort neu drwydded yrru cerdyn-llun. Peidiwch â dod ag unrhyw eitemau ychwanegol fel bagiau a chotiau i mewn i’r ystafell hyfforddi.

 Beth sydd angen i mi ei baratoi ar gyfer y diwrnod?

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â llythyr cadarnhau eich archeb gyda chi oherwydd mae hwn yn cynnwys eich rhif cyfeirio archeb unigryw. Pan fyddwch yn cyrraedd y cwrs, bydd gofyn i chi ddangos eich trwydded yrru neu basbort i’w gwirio yn erbyn cofrestr y cwrs.

Trwydded Yrru Cerdyn-Llun – Mae’r drwydded yrru cerdyn llun yn gweithredu fel trwydded yrru a dogfen adnabod ffotograffig.  Nid yw rhan bapur eich trwydded yrru’n ddilys bellach wedi i’r DVLA gael gwared â nhw ar 8 Mehefin 2015. Os oes gennych ran bapur o hyd, mae’r DVLA yn cynghori eich bod yn ei dinistrio.

Pasbort – Mae pasbort sydd wedi dod i ben yn dderbyniol ar yr amod bod yr hyfforddwr yn gallu eich adnabod chi o’r llun.

NEU

Trwydded Bapur yn yr hen ddull – (dim ond cyn cyflwyno’r cerdyn llun yn 1998 y cyhoeddwyd y rhain). Dewch â’ch trwydded yrru bapur gyda chi ynghyd â dogfen adnabod ffotograffig i’w chefnogi, fel: pasbort, cerdyn dinesydd neu bas bws wedi eu cyhoeddi gan y Cyngor. I gael rhestr lawn o ddogfennau adnabod ffotograffig derbyniol i gyd-fynd â’ch trwydded yrru bapur, gweler www.sussexsaferroads.gov.uk neu cysylltwch â thîm Driver Training ar: 0330 222 8999. Dim ond dogfennau gwreiddiol fydd yn dderbyniol (ni allwn dderbyn copïau electronig neu lungopïau).

Beth sy’n digwydd os byddaf yn hwyr?

PWYSIG: Gwrthodir mynediad i’r cwrs i chi os byddwch yn cyrraedd yn hwyr neu’n methu darparu’r dogfennau adnabod a ddisgrifir uchod ar ddechrau’r cwrs.

Rydym yn argymell eich bod yn gwirio’r dyddiad, yr amser a lleoliad y safle cyn dyddiad eich cwrs.

Wrth gynllunio eich taith, gadewch ddigon o amser i gyrraedd y safle, gan ystyried yr amodau teithio yr ydych yn debygol o’u hwynebu. Mae’n bwysig eich bod yn cyrraedd mewn da bryd ar gyfer cofrestru; ni fydd y rhai sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynd i mewn i’r cwrs. Ni fydd ffi’r cwrs yn cael ei had-dalu, ac ni ystyrir eich bod wedi cwblhau’r cwrs.

 

 

Cyrsiau Gyrru Diogel ac Ystyriol

Os yw Heddlu Sussex wedi eich cyfeirio chi, neu os ydych y byw yn Sussex, yna gallwch fynd ar gwrs Gyrru Diogel ac Ystyriol gyda darparydd yn Sussex. Os cawsoch eich cyfeirio gan heddlu arall neu os ydych yn byw mewn rhan arall o’r wlad, cysylltwch â’r darparydd ar gyfer ardal yr heddlu a’ch cyfeiriodd chi.

Mae’r cwrs un diwrnod hwn wedi ei rannu’n ddwy elfen. Rydych yn cwblhau sesiwn y bore yn yr ystafell ddosbarth hyd at yr egwyl ginio, yna mae’r elfen brynhawn ar y ffordd. Ni fydd gofyn i chi ddarparu eich cerbyd eich hun.

 A oes egwyl ginio?

Mae’r egwyl ginio yn para 30 munud ac ni ddarperir cinio ar y diwrnod. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â rhywbeth i’w fwyta a’i yfed gyda chi, neu fod yr archfarchnad agosaf 5 munud i ffwrdd ar droed. Rhaid i chi sicrhau eich bod yn dychwelyd i’r ystafell ddosbarth o fewn yr egwyl ginio a ganiateir.

Oes raid i mi gael prawf llygaid?

Bydd gofyn i chi gael prawf llygaid fel rhan o broses gofrestru’r cwrs. Bydd gofyn i chi ddarllen plât rhif glân (a gynhyrchwyd ar ôl 2001) yn glir ar gar sydd wedi ei barcio 20 metr i ffwrdd, heb unrhyw beth ar ei ffordd. (Os ydych yn gwisgo sbectol i yrru, dewch â hi gyda chi).

Os byddwch yn methu’r prawf golwg, ni fyddwch yn gallu cwblhau’r cwrs a rhoddir y ffeithiau hyn i’r heddlu a’ch cyfeiriodd chi.

Os byddwch yn methu’r prawf golwg, ni ddylech yrru eto nes byddwch yn pasio’r prawf golwg oherwydd byddwch yn cyflawni trosedd trwydded yrru ac yn eich peryglu chi’ch hun a phobl eraill sy’n defnyddio’r ffordd. Os oes gennych unrhyw amheuon o gwbl ynglŷn â’ch golwg, ewch i gael prawf golwg gydag optegydd cofrestredig CYN i chi fynd ar y cwrs.

Pa ddogfennau adnabod sydd angen i mi ddod gyda mi?

Dogfen adnabod ffotograffig: Trwydded Yrru Cerdyn-Llun – Mae’r drwydded yrru cerdyn llun yn gweithredu fel trwydded yrru a dogfen adnabod ffotograffig.  Nid yw rhan bapur eich trwydded yrru’n ddilys bellach wedi i’r DVLA gael gwared â hi ar 8 Mehefin 2015. Os oes gennych ran bapur o hyd, mae’r DVLA yn cynghori eich bod yn ei dinistrio.

NEU

Trwydded Bapur yn yr hen ddull – (dim ond cyn cyflwyno’r cerdyn llun yn 1998 y cyhoeddwyd y rhain). Dewch â’ch trwydded yrru bapur gyda chi ynghyd â dogfen adnabod ffotograffig fel: pasbort, cerdyn dinesydd neu bas bws wedi eu cyhoeddi gan y Cyngor. I gael rhestr lawn o ddogfennau adnabod ffotograffig derbyniol i gyd-fynd â’ch trwydded yrru bapur, gweler www.sussexsaferroads.gov.uk neu cysylltwch â thîm Driver Training ar: 0330 222 8999.

Os nad oes gennych y dogfennau adnabod y soniwyd amdanynt uchod, bydd angen i chi gysylltu â thîm Driver Training ar unwaith er mwyn i ni roi cyngor i chi. Os na fyddwch yn cysylltu â ni, gallech gael eich gwrthod rhag mynd i mewn i’r cwrs a bydd rhaid i chi dalu ffi ail archebu o £136.00.

Methiant i Fynychu: Os na fyddwch yn mynychu cwrs, neu os gwrthodir mynediad i chi, mae’n RHAID i chi gysylltu â’r tîm Driver Training o fewn deg diwrnod gwaith i ddyddiad eich cwrs i drafod eich opsiynau, drwy ffonio 0330 222 8999 neu drwy anfon e-bost i [email protected]. Cofiwch ddarparu rhif cysylltu yn ystod y dydd a’ch rhif cyfeirio archebu. Os na fyddwch yn cysylltu, yna byddwn yn dychwelyd eich manylion at yr heddlu a’ch cyfeiriodd chi.

PWYSIG: Os byddwch yn cyrraedd yn hwyr neu’n methu darparu’r dogfennau adnabod gofynnol a ddisgrifir uchod ar ddechrau’r cwrs, ni fyddwch yn cael mynd i mewn.

Canslo neu Aildrefnu eich Cwrs

Nid oes modd trosglwyddo nac ad-dalu ffi eich cwrs os byddwch yn aildrefnu neu’n canslo 10 diwrnod gwaith cyn dyddiad eich cwrs * (efallai y bydd angen talu ffi ail archebu). I ail archebu eich cwrs, cysylltwch â’r swyddfa ar 0330 222 8999 oherwydd ni allwch wneud hyn ar-lein ar hyn o bryd.

*Nodwch nad yw anawsterau sy’n gysylltiedig â gwaith neu ofal plant yn cael eu hystyried yn rhesymau dilys am geisio newid cwrs ar fyr rybudd ac felly byddai’n rhaid talu ffi ail archebu.

Tywydd Garw. Yn ystod cyfnodau o dywydd garw, gwneir penderfyniad ar sail rhesymau diogelwch a ddylai’r cyrsiau fynd yn eu blaenau neu gael eu canslo. I weld beth yw statws eich cwrs, ewch i’r dudalen Ymwybyddiaeth Cyflymder ar: www.sussexsaferroads.gov.uk neu cysylltwch â’r Tîm Hyfforddi Gyrwyr ar: 0330 222 8999.

Ar ôl y Cwrs. Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich cwrs, rhoddir gwybod i UKROEd ac i’r heddlu a wnaeth y cyfeiriad ac ni chymerir camau pellach mewn cysylltiad â’r drosedd wreiddiol.

 Gyda phwy ddylwn i gysylltu i gael rhagor o wybodaeth?

Y Tîm Driver Training, Ffôn: 0330 222 8999 Dydd Llun – Dydd Gwener 9.00am- 3.30pm

E-bost: [email protected]


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content