doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Sut ydw i’n mynd i mewn i’m cwrs rhithwir?

Cwestiynau Cyffredin

Sut ydw i’n mynd i mewn i’m cwrs rhithwir?

Byddwch wedi, neu dylech fod wedi, derbyn gohebiaeth gan ddarparydd eich cwrs yn esbonio beth fydd yn digwydd ar y cwrs a pha baratoadau y mae angen i chi eu gwneud cyn mynychu.

Mae’n bwysig darllen negeseuon e-bost gan eich darparydd cwrs.  Yn aml, bydd eich cadarnhad archebu’n cynnwys cyfrineiriau/codau archebu y byddwch eu hangen ar gyfer eich cwrs. Cofiwch edrych yn eich negeseuon sothach.

Hefyd, darllenwch ein hadran Cwestiynau Cyffredin dan y pennawd Cael Mynediad i’ch Cwrs a’ch Darparydd Cwrs – dewch o hyd i’ch darparydd cwrs a darllenwch eu gwybodaeth am fynediad i’r cwrs a dolenni.

NODWCH: Os cewch chi unrhyw drafferth cofio pryd mae eich cwrs yn digwydd, dilynwch y cyfarwyddiadau isod i agor safle archebu a chysylltu â darparydd y cwrs:

Ewch i https://offer.ndors.org.uk lle byddwch yn gallu cael mynediad i fanylion eich Cynnig Cwrs drwy wneud hyn:

  • COFRESTRU: Nodi’r Cyfeirnod a’r PIN sydd yn eich llythyr Cynnig Cwrs, neu eich Cyfeirnod a nodi eich Rhif Gyrrwr yn y maes PIN yn lle rhif PIN.

NEU

  • MEWNGOFNODI: Os gwnaethoch ddewis creu cyfrif o’r blaen, ac os ydych wedi dilysu eich cyfeiriad e-bost, gallwch fewngofnodi gyda’ch cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair. Gallwch hefyd ddefnyddio’r ddyfais “Wedi anghofio eich Cyfrinair” i osod neu i ail-osod eich cyfrinair os gwnaethoch ddarparu cyfeiriad e-bost wrth gofrestru.

Bydd y ddau opsiwn yn eich cymryd at eich Dangosfwrdd:

  • Bydd clicio ar “Gweld Fy Nghyrsiau” yn caniatáu ichi chwilio am Leoliad Cwrs cyfleus neu ddarganfod eich archeb gyfredol. Bydd hyn yn caniatáu ichi gysylltu â’r darparydd cwrs os byddwch angen newid dyddiad neu amser eich cwrs neu wneud rhagor o ymholiadau.
  • Bydd clicio ar “Rheoli Fy Manylion” yn caniatáu ichi weld a diweddaru’r manylion a ddarparwyd gennych wrth gofrestru – gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost

Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content