doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

TRL Ymchwil

Diolch am ddewis cwblhau cwrs addysgol.

Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal gwerthusiad annibynnol o rai o’r cyrsiau NDORS ac yn chwilio am bobl i gymryd rhan yn yr astudiaeth.

Bydd gofyn i’r cyfranogwyr gwblhau arolwg ar-lein ar dair adeg yn ystod y broses o archebu a mynychu’r cwrs. Bydd pob arolwg yn cymryd 10 munud neu lai; ac yn eich tro, byddwch yn gallu dweud wrthym am eich profiad gyda’r cwrs ac ennill arian i elusen. Gallwch ymadael â’r astudiaeth unrhyw bryd.

Os ydych yn fodlon cymryd rhan yn yr astudiaeth hon, cliciwch y botwm isod i gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru. Bydd y broses gofrestru’n cymryd llai na phum munud a chewch eich cyfeirio yn ôl i Borth Cynnig DORS+ i archebu eich cwrs unwaith y byddwch wedi cwblhau’r broses.

Cofrestrwch nawr yn https://www.smartsurvey.co.uk/s/NDORS-registration/ Os nad ydych eisiau cymryd rhan yn yr astudiaeth ac os hoffech fynd yn syth i Borth Cynnig DORS+ nawr, ewch i:  https://offer.ndors.org.uk

TRL sy’n cynnal y gwerthusiad hwn. Mae TRL yn gwmni ymgynghori annibynnol ar drafnidiaeth. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am TRL ewch i’r wefan www.trl.co.uk

 

 Hysbysiad Preifatrwydd Data:

 

Astudiaeth werthuso NDORS – sut y byddwn yn defnyddio eich data personol

 

O dan y gyfraith ddiogelu data mae angen i ni roi gwybod i chi pa ddata personol y byddwn yn ei gasglu, pam ein bod ei angen, yr hyn y byddwn yn ei wneud ag o, a’ch hawliau chi fel unigolyn. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddiweddariadau i’r polisi hwn tra byddwn yn dal eich data personol, a gwnawn hynny pan fydd y diweddariadau’n digwydd.

 

Beth sydd ei angen arnom

TRL Ltd yw rheolwr y data personol yr ydych yn ei ddarparu i ni ar ran UKROEd. Bydd y data’n cael ei gasglu pan fyddwch yn cwblhau’r arolwg cofrestru a bydd yn cynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif gyrrwr, rhif cynnig NDORS, enw’r cwrs NDORS a gynigiwyd i chi, yr Heddlu a wnaeth y cynnig a dyddiad y drosedd (os yw hynny’n bosibl). Byddwch yn derbyn gwahoddiadau gennym drwy gydol yr astudiaethau i gwblhau’r tri arolwg. Ymhob arolwg byddwch yn rhoi data am y gyrru yr ydych wedi’i wneud, eich agweddau a’ch ymddygiad, a’ch gwybodaeth am agweddau penodol o yrru. Bydd y data hwn yn cael ei storio i’w ddadansoddi ar ddiwedd yr astudiaeth. Mae eich atebion yn bwysig iawn felly byddwn yn anfon negeseuon atgoffa atoch os na fyddwch yn cwblhau’r arolygon hyn o fewn amser penodol.

 

Pam y mae ei angen arnom

Rydym angen eich data cysylltu personol er mwyn i ni allu anfon gwahoddiadau a negeseuon atgoffa atoch i gwblhau arolygon.

Mae eich rhif gyrrwr a’r data sy’n ymwneud â’r drosedd yn ofynnol fel ein bod yn gallu cadarnhau gydag NDORS pan fyddwch wedi archebu eich cwrs, dyddiad eich cwrs a phan fyddwch wedi cwblhau eich cwrs. Mae hyn yn caniatáu i ni anfon y gwahoddiadau atoch ar gyfer yr arolwg ar yr adegau sy’n ofynnol gan yr astudiaeth. Ni fydd NDORS yn rhannu unrhyw wybodaeth arall gyda ni amdanoch chi na’ch trosedd.

 

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data

O dan y ddeddf diogelu data mae’n rhaid i’r holl waith prosesu data personol gael sail gyfreithiol. Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu’r data yr ydych yn ei roi i ni fel rhan o’r astudiaeth hon yw ‘cydsyniad’ am eich bod yn cydsynio’n eglur i ni rannu, storio a phrosesu eich data fel sy’n cael ei ddisgrifio yn y rhybudd hwn, a dim ond fel sy’n cael ei ddisgrifio yn y rhybudd hwn. Gallwch ofyn am gael eich tynnu o’r astudiaeth a dileu eich data personol unrhyw bryd heb reswm.

 

Yr hyn a wnawn gyda’ch data

Mae eich data personol i gyd yn cael ei storio’n ddiogel ac ni fydd yn cael ei rannu gydag unrhyw un y tu allan i’r sefydliadau a ddarperir yn yr hysbysiad hwn. Mae TRL yn cydymffurfio â’r gyfraith ddiogelu data berthnasol i gyd ac ni fydd unrhyw un nad yw’n ymwneud â’r astudiaeth hon yn gallu cyrchu’r data. Ni fydd unrhyw ddata’n cael ei storio y tu allan i’r DU.

 

Pa mor hir y byddwn yn cadw eich data a sut i’w gyrchu a chwyno

Bydd eich data personol yn cael ei gadw mewn cronfa ddata ddiogel tan ddiwedd yr astudiaeth, ac mae’r dyddiad cau ddiwedd Haf 2021. Ar ddiwedd yr astudiaeth bydd holl ddata’r astudiaeth yn cael ei wneud yn ddienw a bydd yr holl ddata personol yn cael ei ddileu.

Gallwch ofyn am weld neu ddiweddaru’r data personol yr ydym yn ei gadw ar unrhyw adeg drwy gysylltu ar [email protected].

Gallwch ofyn i gael eich tynnu o’r astudiaeth heb roi rheswm, drwy gwblhau’r ffurflen ‘tynnwch fi o’r astudiaeth’ YMA

Mae angen i ni roi gwybod i chi hefyd sut y byddwn yn rhannu eich data personol. Y peth allweddol i’w gofio yw y byddwn yn ei rannu yn y ffyrdd a ddisgrifir isod YN UNIG.

 

Rhannu data gydag NDORS

Byddwn yn rhannu rhywfaint o’r data y byddwch yn ei roi i ni yn yr arolwg cofrestru gydag NDORS er mwyn iddyn nhw allu rhoi gwybod i ni beth yw eich statws ar y cwrs (wedi archebu / wedi mynychu) a dyddiad y cwrs. Byddwn yn rhannu: rhif y gyrrwr, cyfeirnod y cwrs, yr Heddlu perthnasol, enw’r cwrs a gynigiwyd a dyddiad y drosedd (os yw’n bosibl). Byddwch hefyd yn derbyn rhif ID y cyfranogwr wrth gofrestru a bydd hwn yn cael ei rannu gydag NDORS.

Ni fydd unrhyw ddata’n cael ei rannu gydag NDORS nad ydynt yn ei storio’n barod, heblaw’r rhif ID unigryw hwn ar gyfer yr astudiaeth hon.

 

Gwybodaeth derfynol am eich data:

Yn olaf, os hoffech siarad â’r person sy’n gyfrifol am sicrhau bod data’n cael ei ddiogelu yn TRL (Del Cuttilan) gallwch gysylltu drwy anfon e-bost i [email protected] – rhowch ‘At sylw’r swyddog diogelu data/ FAO data protection officer’ yn llinell y pwnc. Os hoffech anfon cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth gallwch ganfod sut i wneud hynny ar eu gwefan (https://ico.org.uk/concerns/).

 

 

Skip to content