Datganiad Gwrth-hiliaeth UKROEd 2026
Yn UKROEd, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol a chreu sefydliad cynhwysol a chyfartal lle mae pawb yn cael eu trin ag urddas, tegwch a pharch.
Rydym yn gwrthwynebu pob math o hiliaeth, gwahaniaethu hiliol ac ymddygiad sy’n allgáu. Rydym yn cydnabod y gall hiliaeth a gwahaniaethu effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol ac y gallant greu rhwystrau i gynhwysiant, cyfle a thriniaeth deg. Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i bawb sy’n gweithio i, yn cynrychioli neu’n ymgysylltu ag UKROEd mewn unrhyw swyddogaeth, gan gynnwys gweithwyr a phobl gysylltiol.
Ein hadduned
Rydym yn ymrwymedig i wneud hyn:
- meithrin amgylchedd lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a’u cynnwys;
- annog diwylliant lle mae pobl yn teimlo’n ddiogel, a’u bod yn cael eu clywed a’u cefnogi os ydynt yn codi pryderon neu’n herio hiliaeth a gwahaniaethu;
- gwrando ar brofiadau a safbwyntiau pobl eraill a dysgu ohonynt;
- trin pryderon o ddifrif a chymryd camau priodol lle nodir hiliaeth, gwahaniaethu neu ymddygiad sy’n allgáu;
- gweithredu gyda gonestrwydd, tegwch ac atebolrwydd yn ein penderfyniadau, ymddygiadau a rhyngweithiadau; a
- pharhau i fyfyrio, dysgu a gwella fel sefydliad.
Pan fynegir pryderon neu pan nodir camgymeriadau, byddwn yn gwrando, yn dysgu ac yn cymryd camau priodol i gefnogi gwelliant ac atebolrwydd.
Mae gan bawb sy’n gysylltiedig ag UKROEd gyfrifoldeb i gynnal yr egwyddorion a nodir yn y datganiad hwn ac i gyfrannu at ddiwylliant o barch, cynhwysiant a chydraddoldeb hiliol.
Ruth Purdie, OBE, Prif Swyddog Gweithredol UKROEd
Mai 2026