doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Datganiad Gwrth-hiliaeth UKROEd 2026

Datganiad Gwrth-hiliaeth UKROEd 2026

Yn UKROEd, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol a chreu sefydliad cynhwysol a chyfartal lle mae pawb yn cael eu trin ag urddas, tegwch a pharch.

Rydym yn gwrthwynebu pob math o hiliaeth, gwahaniaethu hiliol ac ymddygiad sy’n allgáu. Rydym yn cydnabod y gall hiliaeth a gwahaniaethu effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol ac y gallant greu rhwystrau i gynhwysiant, cyfle a thriniaeth deg. Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i bawb sy’n gweithio i, yn cynrychioli neu’n ymgysylltu ag UKROEd mewn unrhyw swyddogaeth, gan gynnwys gweithwyr a phobl gysylltiol.

Ein hadduned

Rydym yn ymrwymedig i wneud hyn:

  • meithrin amgylchedd lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a’u cynnwys;
  • annog diwylliant lle mae pobl yn teimlo’n ddiogel, a’u bod yn cael eu clywed a’u cefnogi os ydynt yn codi pryderon neu’n herio hiliaeth a gwahaniaethu;
  • gwrando ar brofiadau a safbwyntiau pobl eraill a dysgu ohonynt;
  • trin pryderon o ddifrif a chymryd camau priodol lle nodir hiliaeth, gwahaniaethu neu ymddygiad sy’n allgáu;
  • gweithredu gyda gonestrwydd, tegwch ac atebolrwydd yn ein penderfyniadau, ymddygiadau a rhyngweithiadau; a
  • pharhau i fyfyrio, dysgu a gwella fel sefydliad.

Pan fynegir pryderon neu pan nodir camgymeriadau, byddwn yn gwrando, yn dysgu ac yn cymryd camau priodol i gefnogi gwelliant ac atebolrwydd.

Mae gan bawb sy’n gysylltiedig ag UKROEd gyfrifoldeb i gynnal yr egwyddorion a nodir yn y datganiad hwn ac i gyfrannu at ddiwylliant o barch, cynhwysiant a chydraddoldeb hiliol.

Ruth Purdie, OBE, Prif Swyddog Gweithredol UKROEd

Mai 2026

Skip to content