doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Tystebau

Cwrs ardderchog. Roedd yr hyfforddwr yn gyfathrebwr rhagorol. Cyflwynwyd gwybodaeth berthnasol ar y cwrs ond gwnaeth i mi feddwl hefyd.

Cyflwyniad rhagorol trwy gyfrwng y Gymraeg. Perthynas dda iawn gyda’r troseddwyr. Cwestiynnu trylwyr a chlir sut i wella gyrru. Pawb wedi elwa o’r sesiwn.

Ar ôl bod ar y Cwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder ddoe yn Cheltenham roeddwn eisiau cysylltu i roi rhywfaint o adborth gwerthfawr.

Doeddwn i ddim yn edrych ymlaen at y digwyddiad ond roeddwn i wedi rhyfeddu o ddifrif at y cynnwys, y ganolfan, y drefn ond yn bennaf yr hyfforddwyr …Byddwn i wrth fy modd yn gweld pob gyrrwr newydd yn cael eu harwain drwy’r cwrs hwn gan fod yr ystadegau a’r senarios sy’n cael eu cyflwyno yn bwerus ac yn gwneud i rywun feddwl o ddifrif.

Roedd (yr hyfforddwyr) yn ardderchog ac yn hoelio sylw’r grŵp mawr ohonom drwy’r adeg. Roedd yr adborth llafar ar y diwedd yn awgrymu fod pawb a oedd yn bresennol yn llawn edmygedd. Da iawn chi!

Daliwch ati gyda’r gwaith da!

Skip to content