Roedd yn hyfforddwr abl a chlir, o ran ei ddisgwyliadau ef ohonom ac o ran yr hyn ddylai fod yn allbwn i ni yn bersonol.
Roedd yn gwrs gwerthfawr, a’r hyfforddwr yn siarad yn barchus gyda phob un oedd wedi mynychu.
Addysgiadol a difyr iawn. Mae’n dangos i chi beth yw effaith emosiynol y pethau a wnewch chi.
Cyflwyniad rhagorol trwy gyfrwng y Gymraeg. Perthynas dda iawn gyda’r troseddwyr. Cwestiynnu trylwyr a chlir sut i wella gyrru. Pawb wedi elwa o’r sesiwn.