doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Cheshire

Cwestiynau Cyffredin

Cheshire

 

  • Sut ydw i’n cysylltu â’m darparydd cwrs?

Er mwyn siarad ag aelod o’n tîm gallwch ein ffonio ar 01606 363700

Mae ein llinellau ffôn yn agored o Ddydd Llun i Ddydd Gwener 10:00-15:00

Fel arall gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost atom i [email protected]

 

  • Beth fydd ei angen arnaf ar gyfer fy nghwrs?

Ar gyfer cwrs digidol bydd arnoch angen mynediad i ddyfais addas fel cyfrifiadur personol neu liniadur gyda gwe-gamera (mae’r rhain fel arfer yn gynwysedig mewn gliniaduron modern), llechen neu Ffôn Clyfar. Bydd arnoch angen i’ch dyfais gael digon o bŵer i bara tua 3 awr felly dylech fod wedi’ch cysylltu â’r prif gyflenwad.

Mae’n rhaid i chi ddarparu dogfen adnabod swyddogol â ffotograff i fynychu’r cwrs. Dyma rai enghreifftiau :

  • trwydded yrru cerdyn llun
  • pasbort (dilys neu wedi dod i ben)
  • cardiau adnabod ffurfiol (y lluoedd arfog, yr heddlu, undeb myfyrwyr, cerdyn adnabod cwmni)
  • bathodyn glas (parcio i bobl gydag anableddau)

 

Os ydych yn ansicr a yw eich dogfen adnabod yn dderbyniol, cysylltwch â ni cyn eich cwrs.

Trefnwch fod gennych bapur a beiro, oherwydd byddwch angen y rhain yn ystod y cwrs, a diod feddal i’ch adfywio.

Amgylchedd preifat tawel lle nad oes dim i dynnu eich sylw.

 

  • Ar ba blatfform mae’r cwrs yn cael ei gynnal?

Ar hyn o bryd rydym yn cynnal ein cwrs digidol ar y platfform digidol ZOOM. Os ydych yn defnyddio dyfais symudol neu lechen bydd angen i chi lawrlwytho’r ap ‘Zoom’ sy’n rhad ac am ddim cyn y cwrs.

 

  • A yw hyn yn mynd i weithio ar hen gyfrifiadur?

Os yw’r ddyfais/meddalwedd yn dal i gael ei gefnogi, dylai fod yn gydweddol. Rydym yn argymell eich bod yn profi’r system ymlaen llaw cyn amser y cwrs er mwyn osgoi unrhyw broblemau funud olaf.

 

  • Os bydd fy nghysylltiad yn diflannu yn ystod y cwrs, fyddaf i’n gallu aildrefnu cwrs yn rhad ac am ddim?

Bydd eich hyfforddwr cwrs yn caniatáu 5 munud i chi ailymuno â’ch cwrs.

Os na fyddwch yn llwyddo o fewn yr amser hwn, bydd angen i chi gysylltu â’n swyddfa i ail-archebu.

 

  • Rydw i wedi archebu fy nghwrs. Pryd fyddaf i’n derbyn fy nghyfarwyddiadau ymuno a ble ydw i’n dod o hyd iddynt?

 

Byddwn yn anfon e-bost cadarnhau ichi gyda’r cyfarwyddiadau ymuno. Bydd e-bost arall yn cael ei anfon 48 awr cyn eich cwrs, gyda’r ddolen ZOOM. Chwiliwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na allwch ddod o hyd i’n neges e-bost yn eich Mewnflwch. Os na allwch ddod o hyd i e-bost gennym, ffoniwch ni a byddwn yn ei hanfon eto i chi. Gallwch ymuno drwy glicio ar yr hyperddolen URL a fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r cwrs. Gan ddibynnu ar y llechen neu’r ffôn a ddefnyddiwch, efallai y bydd angen i chi gael set o glustffonau gyda meicroffon ynddynt.

 

  • Does gen i ddim camera ar fy nyfais. Ydi hi’n dal yn bosibl i mi fynychu?

Mae’n rhaid ichi gael camera ar eich dyfais er mwyn cael mynediad i’r cwrs ar-lein. Mae angen i’r hyfforddwr weld eich bod yn bresennol drwy gydol y cwrs a hefyd i wirio pwy ydych chi yn ystod y cyfnod cofrestru.

Os oes gennych ffôn clyfar gyda chamera gellir defnyddio hwn. Fel arall, a oes gan unrhyw un yn eich cartref ddyfais gyda chamera y gallech ei defnyddio?

 

  • Dydw i ddim yn gallu defnyddio cyfrifiadur. Beth allaf i wneud?
  • Gall ffrind neu aelod o’ch teulu eich helpu yn y dechrau i osod pethau’n barod cyn i’r cwrs ddechrau, yna dylech allu gwneud popeth eich hun.
  • Beth am gael golwg ar ambell diwtorial fideo Zoom ar-lein. Gallwch ddod o hyd i’r rhain drwy chwilio am
  • Joining a Zoom meeting – Zoom Support

Mae gwybodaeth sylfaenol dda a chymorth ar gael a allai roi hwb i’ch hyder a lleihau eich pryderon ynglŷn â chymryd rhan mewn cwrs rhithwir.

  • Rydw i’n cael anawsterau technegol wrth gysylltu â’r cwrs. Beth allaf i wneud?

Gwiriwch eich bod mor agos ag sydd bosibl at eich llwybrydd rhyngrwyd. Diffoddwch unrhyw ddyfeisiau eraill sy’n defnyddio’r rhyngrwyd er mwyn cryfhau’r signal.

Allgofnodwch a mewngofnodi eto oherwydd gallai hyn helpu. Gofalwch eich bod yn ymuno gyda’r fideo a’r sain ymlaen, (cliciwch ‘Allow’ pan fydd negeseuon yn ymddangos). Os bydd y problemau yn parhau ac os na fyddwch yn gallu ymuno â’r cwrs, cysylltwch â Cheshire Driver Training 01606 363700

  • Beth sy’n digwydd os yw fy manylion cysylltu wedi newid. Sut ydw i’n eu diweddaru?

Er mwyn diweddaru unrhyw newidiadau i’ch manylion cysylltu e.e. rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost, mewngofnodwch i’ch cyfrif DORS drwy fynd i https://offer.ndors.org.uk a defnyddio eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair i gael mynediad. Yna o dan y dudalen ‘Rheoli fy Manylion’ diweddarwch eich manylion cysylltu.

  • Ydi hi’n bosibl i mi gael dehonglydd/cyfieithydd gyda fi ar y cwrs?

Ydi. Mae’n rhaid i chi roi eu henw ymlaen llaw. Bydd rhaid iddynt gael dogfen adnabod gyda llun, bydd rhaid iddynt fod dros 16 oed a rhaid iddynt allu siarad Saesneg yn rhugl yn ogystal â’r iaith arall dan sylw.

Os oes gennych amhariad ar eich clyw ac os byddwch angen arwyddwr, byddwn yn darparu dehonglwr/dehonglwyr BSL yn rhad ac am ddim. Gadewch i’r aelod o’n staff wybod am hyn pan fyddwch yn archebu.

  • Rydw i’n bwydo ar y fron ar hyn o bryd. Fydd hyn yn effeithio ar fy nghwrs digidol?

Bydd camau rhesymol yn cael eu cymryd i sicrhau fod gennych amser i fwydo ar y fron. Bydd manylion ynglŷn â’r amseroedd yn cael eu trafod yn uniongyrchol gyda’ch hyfforddwr yn ystod y broses gofrestru er mwyn lleihau oedi i gleieintiaid eraill ar y cwrs gymaint ag sydd bosibl. Cynghorir chi i ddewis cwrs yn ofalus ar adeg a fydd fwyaf cyfleus i chi ac amserlen fwydo eich babi.  Gofalwch fod hyn yn cael ei nodi o dan ‘Gofynion Arbennig’ pan fyddwch yn archebu.

  • Mae gen i broblemau meddygol penodol. A fydd hyn yn effeithio ar fy nghwrs?

Gofalwch fod unrhyw anghenion arbennig yn cael eu datgan pan fyddwch yn archebu. Gallwch drafod eich anghenion gyda’ch hyfforddwr yn breifat yn ystod y broses gofrestru.

  • Mi fuaswn i’n hoffi mynychu cwrs mewn ystafell ddosbarth. Sut allaf i archebu un?

Rydym yn cynnal cyrsiau ystafell ddosbarth. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Cheshire Driver Training Unit, Ffôn 01606 363700.  Cofiwch y gallai lleoedd fod yn gyfyngedig.


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content