doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Gloucestershire

Cwestiynau Cyffredin

Gloucestershire

 Driver Education Gloucestershire.

 

  • Beth fydd ei angen arnaf ar gyfer fy nghwrs?

Cyfrifiadur neu liniadur gyda chyfleuster gwegamera (sydd fel arfer i’w cael mewn gliniaduron modern), llechen neu ffôn clyfar. Dylech ofalu fod gennych eich trwydded yrru cerdyn-llun gwreiddiol neu fath arall o gerdyn adnabod swyddogol â llun (h.y. pasbort) a thrwydded yrru ar gael i’w ddangos i’r hyfforddwr yn ystod y broses gofrestru. Dylech gael papur a beiro, oherwydd bydd angen y rhain arnoch yn ystod y cwrs, ac efallai yr hoffech gael te/coffi neu ddiod feddal wrth law.

  • Ar ba blatfform mae’r cwrs yn cael ei gynnal?

Microsoft Teams

  • A oes rhaid talu i lawrlwytho“TEAMS” – y platfform ar-lein yr ydych yn ei ddefnyddio?

Na. Mae hwn yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho fel ap o’r siop apiau ar-lein, neu gallwch gael mynediad iddo ar y rhyngrwyd.

  • A yw hyn yn mynd i weithio ar offer cyfrifiadurol hŷn?

Os yw’r ddyfais/meddalwedd yn dal i gael eu cynnal, dylent fod yn gydnaws. Rydym yn argymell eich bod yn treialu’r system cyn eich cwrs er mwyn osgoi unrhyw broblemau funud olaf.

  • Os byddaf yn cael fy natgysylltu yn ystod y cwrs, a fyddaf yn gallu aildrefnu cwrs yn rhad ac am ddim?

Bydd eich hyfforddwr yn caniatáu hyd at 10 munud i chi ail-ymuno â’ch cwrs.

Os na fyddwch yn llwyddo o fewn yr amser hwnnw, bydd angen i chi gysylltu â’n swyddfa i aildrefnu lle yn rhad ac am ddim.

  • Sut ydw i’n cael mynediad i fy nghwrs?

Byddwn yn rhoi dolen URL i chi mewn e-bost. Os byddwch yn defnyddio Cyfrifiadur neu Liniadur neu rai llechi, gallwch ymuno trwy glicio ar hyperddolen URL a fydd yn mynd â chi’n uniongyrchol i’r cwrs. Os ydych chi’n ymuno â llechen neu ffôn byddem yn eich cynghori i lawrlwytho’r ap Microsoft Teams o’r App Store yn gyntaf. Yn dibynnu ar y llechen neu’r ffôn rydych chi’n ei ddefnyddio, efallai y bydd angen set o glustffonau arnoch chi gyda meicroffon.

  • Rwyf wedi archebu fy nghwrs. Pryd fyddaf i’n derbyn fy nghyfarwyddiadau ymuno a ble fyddaf yn gallu dod o hyd iddynt?

Byddwn yn anfon e-bost atoch i ddechrau gyda chadarnhad o’ch archeb a’r cyfarwyddiadau ar sut i ymuno â’r cwrs. Byddwn yn anfon e-bost arall 48 awr cyn eich cwrs, a bydd y neges hon yn cynnwys y ddolen Microsoft. Chwiliwch yn eich ffeiliau sbam / sothach os na allwch weld ein e-bost yn eich Mewnflwch. Os na allwch ddod o hyd i e-bost gennym ni, gwiriwch fod y cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gennych wrth gofrestru ar y system DORS yn gywir a’i ddiweddaru os oes angen (bydd yr wybodaeth hon wedyn yn pasio drwy ein system), fel arall anfonwch e-bost inni neu ein ffonio a byddwn yn ei ail-anfon atoch.

  • Rydw i ar fin mynd ar y cwrs ond allaf i ddim cael mynediad iddo. Ble mae’r cyfarwyddiadau ymuno (mae’r rhain yn gwestiynau sy’n cael eu gofyn yn aml ychydig funudau cyn cyrsiau!)?

Chwiliwch am ein e-bost gyda’r ddolen Microsoft yn eich Mewnflwch. Os na allwch ddod o hyd iddo anfonwch e-bost brys inni a byddwn yn ceisio sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth hon mewn pryd.

  • Sut ydw i’n cysylltu â’r darparwr cwrs?

E-bost:  [email protected]  Ffôn. 01452 754562 Dydd Llun – Dydd Gwener 8am – 3pm

  • Does gen i ddim camera ar fy nyfais. Fydd hi’n dal yn bosibl i mi fynychu?

Mae’n rhaid i chi gael cyfleuster camera ar y ddyfais rydych chi’n ei defnyddio i gael mynediad i’r cwrs ar-lein. Mae angen i’r hyfforddwr weld eich bod yn bresennol drwy gydol y cwrs a gwirio eich cerdyn adnabod hefyd wrth gofrestru.

Oes gennych chi ffôn clyfar â chamera? Oherwydd mae’n bosibl defnyddio hwn. Fel arall, a oes unrhyw un yn eich cartref sydd â dyfais gyda chamera y gallwch ei defnyddio?

  • Nid wyf yn gyfarwydd â defnyddio cyfrifiaduron, ond mae gen i ffrind neu aelod o’r teulu a allai helpu. A yw hyn yn dderbyniol?

Gobeithio mai dim ond cymorth cychwynnol cyn dechrau’r cwrs fydd angen arnoch chi, ac yna dylech fod yn hunangynhaliol. Os oes angen i’ch cynorthwyydd aros yno drwy gydol y cwrs, bydd angen i chi dawelu eich meicroffon yn ystod y cwrs ar wahân i’r adegau pan ofynnir i chi gymryd rhan weithredol.

  • Nid wyf yn gyfarwydd iawn â defnyddio technoleg ac rydw i’n poeni na fyddaf yn gallu mynd ar fy nghwrs rhithwir/ar-lein. Pa gymorth allaf ei gael gan fy narparwr cwrs?

Gallwch wylio ein fideo pwrpasol https://youtu.be/yBGCWDYF6YU  sy’n egluro’r hyn sydd angen i chi wneud.

Ceir fideos byr hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol ar sut i ddefnyddio Microsoft Teams. Mae’n eithaf hawdd, ond peidiwch â phoeni – bu’n rhaid i’n hyfforddwyr hyd yn oed ddysgu sut i’w ddefnyddio felly byddant hwy yn ddefnyddiol iawn.

  • Rwy’n cael anawsterau technegol wrth geisio cysylltu â’r cwrs. Beth allaf i wneud?

Gofalwch eich bod mor agos ag sydd bosibl at eich llwybrydd rhyngrwyd. Diffoddwch ddyfeisiau eraill sy’n dibynnu ar y rhyngrwyd i helpu i gryfhau’r signal.

Allgofnodwch a mewngofnodwch eto oherwydd gall hyn helpu. Gofalwch fod y fideo a’r sain ymlaen wrth ymuno (cliciwch ‘caniatáu’ pan fydd negeseuon i’ch atgoffa yn ymddangos).

Os bydd y problemau’n parhau ac os na fyddwch yn gallu ymuno â’r cwrs yn llwyddiannus, cysylltwch â Driver Education Gloucestershire.

  • A yw’n bosibl i mi gael cyfieithydd gyda fi ar y cwrs?

Ydi.  Rhaid i chi ddarparu enw’r unigolyn ymlaen llaw a bydd angen iddo/iddi gael cerdyn adnabod ar gael hefyd. Bydd angen i chi dawelu eich microffon yn ystod y cwrs oni bai pan ofynnir i chi gyfrannu.

Os ydych yn dymuno cael ffrind neu berthynas i’ch helpu, rhaid iddynt allu siarad Saesneg yn rhugl a bod yn hŷn na 16 oed. Dywedwch wrthym ymlaen llaw oherwydd bod y cwrs yn gyfrinachol.

Neu gallwn ni drefnu cyfieithydd os byddwch yn rhoi gwybod inni wrth archebu lle ar y cwrs.

  • Ar hyn o bryd rwy’n bwydo ar y fron. A fydd hyn yn effeithio ar fy nghwrs digidol?

Byddwch yn cael amser i fwydo ar y fron. Bydd manylion ynghylch amseru yn cael eu trafod yn uniongyrchol â’ch hyfforddwr yn ystod y broses gofrestru. Gofalwch fod hyn yn cael ei ddatgan o dan ‘Gofynion Arbennig’ pan fyddwch yn trefnu lle ar y cwrs.

  • Mae gen i broblemau meddygol penodol. Sut fydd hyn yn effeithio ar fy nghwrs?

Gofalwch eich bod yn rhoi gwybod am unrhyw ofynion arbennig pan fyddwch yn archebu. Gallwch drafod eich anghenion â’ch hyfforddwr yn ystod y broses gofrestru.

  • Ni allaf fynychu fy nghwrs oherwydd amgylchiadau esgusodol. Beth allaf ei wneud?

Os na allwch fynychu eich cwrs, mae’n rhaid i chi gysylltu â Driver Education Gloucester, gan roi o leiaf 10 diwrnod o rybudd fel y gallwn aildrefnu eich archeb.

  • Rwyf wedi methu fy nghwrs. Beth fydd yn digwydd nawr?

Os nad oeddech yn gallu mynychu eich cwrs, mae’n rhaid i chi gysylltu â Driver Education Gloucester o fewn 3 diwrnod i weld a yw’n bosibl aildrefnu eich cwrs.

Sylwch, efallai y bydd yn rhaid talu cost weinyddol fel y nodwyd yn ein telerau ac amodau.

 

 

 


				

Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content