doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Hartlepool

Cwestiynau Cyffredin

Hartlepool

Cyngor Bwrdeistref Hartlepool – Cwestiynau Cyffredin i’r Darparydd Cwrs

 Sut ydw i’n cysylltu â’m darparydd cwrs? Ffoniwch ni ar 01492 523803, ein hamseroedd agor yw Dydd Llun-Dydd Iau 8.00am-18.00pm, Dydd Gwener 8.00am-17.00pm, Dydd Sadwrn 8.30am-16.00pm a Dydd Sul 8.30am-12.00pm ac eithrio gwyliau cyhoeddus. Os bydd y llinellau ffôn yn brysur gadewch neges gyda’ch enw a rhif cysylltu a byddwn yn eich ffonio’n ôl cyn gynted ag y gallwn. Gallwch archebu ar-lein ar https://offer.ndors.org.uk/#/home Gofalwch bod eich rhif cyfeirio’r heddlu a’ch rhif PIN ar gael gennych gan fod angen y rhain er mwyn archebu. Gallwch ofyn unrhyw gwestiynau drwy anfon e-bost i [email protected]

 Beth fydd ei angen arnaf ar gyfer fy nghwrs? Rhaid i chi gael cyfrifiadur, gliniadur neu ddyfais llechen gyda microffon a chamera. Bydd angen i chi gael cysylltiad dibynadwy â’r rhyngrwyd. Cewch ddefnyddio ffonau clyfar, ond bydd y cwrs yn fwy effeithiol os bydd gennych sgrin fwy. Bydd rhaid i chi gael digon o wefr ar eich dyfais i bara hyd ddiwedd y cwrs neu cysylltwch eich dyfais â’r prif gyflenwad trydan. Bydd angen i chi fod mewn ystafell breifat heb unrhyw beth i dynnu eich sylw. Gofalwch fod gennych bapur a beiro i gymryd nodiadau ac mae’n rhaid i chi gael tystiolaeth o bwy ydych chi, gyda ffotograff arno.

 Ar ba blatfform mae’r cwrs yn rhedeg? Rydym yn defnyddio’r platform digidol ZOOM. Bydd angen i chi lawrlwytho ZOOM cyn y cwrs.

 Pryd ydych chi’n cynnal cyrsiau? Rydym yn cynnal Cyrsiau Ymwybyddiaeth Cyflymder o Ddydd Llun i Ddydd Sul, ac eithrio gwyliau cyhoeddus. Mae’r rhain ar gael ar wahanol amseroedd drwy gydol y dydd, yn cynnwys sesiynau gyda’r nos. Rydym yn cynnig mathau eraill o gyrsiau’n llai aml ond mae’r rhain hefyd ar gael bob wythnos.

 Sut ydw i’n cael mynediad i’m cwrs? Byddwch yn derbyn neges e-bost i gadarnhau unwaith y byddwch wedi gwneud archeb. Bydd hon yn cynnwys yr holl gyfarwyddiadau ymuno a sut i osod/mynd i mewn i ZOOM. Yna byddwch yn derbyn neges e-bost y diwrnod cyn eich cwrs (ar ôl 17.00pm) a fydd yn cynnwys eich dolen ZOOM. Os na fyddwch wedi ei derbyn, edrychwch yn eich ffolderi sothach/sbam. Os nad yw yno, cysylltwch â ni ar y rhif uchod neu anfonwch neges e-bost i [email protected]

 Rwyf ar fin cymryd fy nghwrs ond dydw i ddim yn gallu cael mynediad iddo. Ble mae fy nghyfarwyddiadau ymuno? Fel uchod, os na allwch ddod o hyd i’ch negeseuon e-bost neu os nad ydych wedi eu derbyn, cysylltwch â ni. Mae gennym rif cysylltu ar wahân i bobl sy’n cael trafferth ymuno neu sy’n cael problemau technegol. Y rhif yw 01492 284076. Gallwch hefyd anfon e-bost (gweler uchod) a byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol.

 Dydw i ddim yn deall rhyw lawer am dechnoleg ac rwy’n poeni na fyddaf yn gallu cymryd fy nghwrs rhithiol/ar-lein. Pa gymorth allaf i ei gael gan fy narparydd cwrs? Gallwch wylio’r fideo tiwtorial am ZOOM ar https://support.zoom.us/hc/en-us/articles/201362193-How-Do-I-Join-A-Meeting er mwyn dod yn gyfarwydd â’r platfform. Gallwch gael cymorth gan rywun arall i’ch helpu i osod popeth. Unwaith y byddwch wedi cysylltu, ni chaiff y person hwn aros ar gyfer y cwrs. Os nad yw’n bosibl i chi gael cymorth gan rywun arall, cysylltwch â ni a gallwn drafod y broses gyda chi. Gallwn hefyd gysylltu â chi cyn dyddiad eich cwrs i fynd drwy’r broses o fynd i mewn i’r cyfarfod ar eich dyfais a’ch cymryd i’r ystafell aros. Os byddwch yn llwyddo i gyrraedd yr ystafell aros ond bod problemau yn codi gyda’ch fideo neu eich sain, bydd yr hyforddwyr yn helpu gymaint ag y gallant ac yn anfon promptiau atoch, a lle bo modd byddan nhw’n cysylltu â’r swyddfa i ofyn i ni gysylltu â chi.

 Ni allaf gymryd rhan mewn cwrs rhithiol. Ydi hi’n bosibl i mi wneud cwrs mewn ystafell ddosbarth?

Rydym yn cynnal nifer o gyrsiau mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cleveland a Durham. Bydd dyddiadau cyfyngedig ar gael ar-lein i chi eu harchebu. Neu, gallwch gysylltu â’r swyddfa ar 01429 523803 i drefnu. Mae lleoedd yn gyfyngedig.


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content