doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Oes raid i mi fynd ar gwrs yn yr ardal lle wnes i gyflawni’r drosedd?

Cwestiynau Cyffredin

Oes raid i mi fynd ar gwrs yn yr ardal lle wnes i gyflawni’r drosedd?

Os ydych yn archebu cwrs ystafell ddosbarth bydd angen i chi deithio i’r ganolfan lle byddwch wedi archebu’r cwrs.

Os ydych yn archebu cwrs rhithiol/ar-lein, gallwch archebu cwrs gydag unrhyw ddarparydd yn y DU ac nid oes angen o gwbl i chi deithio i ganolfan.

Mae’n bwysig nodi hyn – os byddwch yn mynychu cwrs Gyrru Diogel ac Ystyriol (SCD), mae hwn yn cynnwys elfen ‘gyrru ar y ffordd’ a dylech archebu eich cwrs mewn ardal sy’n hwylus i chi ei chyrraedd adeg eich cwrs.

Hefyd, os dilynwch y ddolen hon byddwch yn gallu gweld fideo ar sut i archebu cwrs a rhestrau llawn o ddarparwyr cyrsiau.

https://www.ukroed.org.uk/howto-online/

Os byddwch yn cael unrhyw broblemau gyda’ch manylion mynediad/manylion ddim yn cyfateb neu unrhyw gwestiynau sy’n gysylltiedig â’ch gallu i fynychu cwrs digidol neu ystafell ddosbarth, cysylltwch â’r heddlu a anfonodd yr ohebiaeth wreiddiol i chi. Byddant yn gallu eich cynghori. Gallwch gysylltu â’r Heddlu drwy ddefnyddio’r manylion cysylltu yn eich llythyr Cynnig Cwrs, neu drwy ffonio’r rhif “101” nad yw’n wasanaeth argyfwng a gofyn am yr adran sy’n delio â Hysbysiadau Cosb Benodedig.


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content