doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Pryd oedd y tro diwethaf i mi fod ar gwrs?

Cwestiynau Cyffredin

Pryd oedd y tro diwethaf i mi fod ar gwrs?

Os yw eich Cyfeirnod gennych byddwch yn gallu gweld eich data yn  https://offer.ndors.org.uk  drwy Cofrestru gan ddefnyddio eich Cyfeirnod a rhoi rhif eich Trwydded Yrru yn y maes PIN yn lle rhif PIN.  Os nad oes gennych eich cyfeirnod neu os ydych chi eisiau gweld manylion cyrsiau blaenorol, dewiswch ‘Wedi anghofio eich cyfeirnod’ – bydd hyn yn rhoi mynediad i’r dudalen cais am wybodaeth a bydd angen i chi nodi rhif eich trwydded yrru.

Bydd angen i chi ychwanegu’r cod post a ddefnyddiwyd gennych adeg y drosedd a rhif ffôn sy’n gallu derbyn negeseuon testun.

Yna bydd rhaid i chi gytuno i dderbyn telerau’r ddeddf camddefnyddio cyfrifiaduron cyn mynd ymhellach.

Bydd cod dilysu unigryw ‘unwaith yn unig’ yn cael ei anfon i chi.  Bydd angen i chi gofnodi hwn ar y sgrin a chlicio ‘dilysu’.

Os yw eich cyfeiriad e-bost ar ein system yn barod byddwn yn gofyn i chi gadarnhau a hoffech dderbyn y manylion yn y cyfeiriad hwn neu gallwch roi cyfeiriad e-bost arall.

Os yw eich holl fanylion yn cyfateb, byddwn yn gadael ichi wybod fod yr wybodaeth y gwnaethoch ofyn amdani yn cael ei hanfon atoch.

 


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content