doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Rydw i wedi colli fy ngohebiaeth gan yr heddlu.

Cwestiynau Cyffredin

Rydw i wedi colli fy ngohebiaeth gan yr heddlu.

Gallwch weld eich data yn https://offer.ndors.org.uk ar y tab Cofrestru.  Os nad yw eich cyfeirnod gennych, neu os ydych ond eisiau gweld gwybodaeth am gyrsiau blaenorol, dewiswch ‘wedi anghofio eich cyfeirnod’ – bydd hyn yn gadael i chi weld y dudalen gais am wybodaeth a bydd angen i chi roi rhif eich trwydded yrru.

Bydd angen i chi ychwanegu eich cod post a ddefnyddiwyd ar adeg y drosedd a rhif ffôn sy’n gallu derbyn negeseuon testun.

Yna bydd rhaid i chi gytuno i dderbyn termau’r ddeddf camddefnyddio cyfrifiaduron cyn symud ymlaen ymhellach.

Byddwch yn derbyn cod dilysu untro. Bydd angen i chi nodi hwn ar y sgrin a chlicio ‘dilysu’.

Os yw eich cyfeiriad e-bost yn ein system yn barod byddwn yn gofyn i chi gadarnhau a ydych eisiau i’r manylion gael eu gyrru i’r cyfeiriad hwn neu gallwch ddarparu cyfeiriad e-bost arall.

Os yw eich manylion i gyd yn cyfateb, byddwn yn rhoi gwybod i chi bod y wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani’n cael ei hanfon atoch chi.

Os nad oes gennych ffôn sy’n derbyn negeseuon testun, bydd angen i chi anfon rhif eich Trwydded Yrru a sgan/ffotograff o’ch trwydded yrru cerdyn llun yn dangos yr un Rhif Gyrrwr i – [email protected] fel ein bod yn gallu dilysu pwy ydych chi a nôl eich cofnod.

Byddwn yn ymdrechu i ymateb i’ch ymholiad o fewn 10 diwrnod gwaith.


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content