doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Rydw i wedi colli fy nhrwydded yrru

Cwestiynau Cyffredin

Rydw i wedi colli fy nhrwydded yrru

Un o amodau’r cynnig cwrs yw fod gennych chi ddull adnabod â LLUN wrth gyrraedd y cwrs (pa un ai yw’n gwrs ystafell ddosbarth ffisegol neu’n gwrs ar-lein).

Diben hyn yw sicrhau fod yr hyfforddwr yn gallu cadarnhau pwy yw’r cleient sy’n cyflwyno ei hun ar y cwrs.

Enghreifftiau o ddulliau adnabod â llun ar gyfer cyrsiau ystafell ddosbarth ffisegol a chyrsiau rhithwir/ar-lein:

  • Trwydded Yrru Cerdyn Llun (NID yw cerdyn llun sydd wedi dod i ben yn dirymu’r drwydded)
  • Pasbort dilys
  • Pasbort sydd wedi dod i ben
  • Cardiau adnabod ffurfiol (lluoedd arfog, heddlu, undeb myfyrwyr, cerdyn adnabod cwmni)
  • Cerdyn Tacograff
  • Cerdyn adnabod Awdurdod Lleol/Tacsi
  • Bathodyn Glas (parcio i bobl ag anableddau)
  • Tystysgrif Arfau/Trwydded Dryll

Ni fydd unrhyw ddulliau adnabod NAD YDYNT yn cynnwys llun (e.e. biliau cyfleustodau, tystysgrifau geni/priodas) yn cael eu derbyn a dylai’r cleient gael ei gyfeirio’n ôl i’r heddlu

Cyrsiau gydag elfennau ar y ffordd/gyrru – trwydded yrru yn ofynnol:

Bydd angen trwydded yrru cerdyn llun (neu drwydded bapur gyda dull adnabod arall â llun – gweler y rhestr uchod) pan fydd disgwyl i’r cleient ymgymryd ag elfen ar y ffordd/gyrru ar gwrs.

Os bydd y drwydded wedi cael ei hanfon at yr heddlu neu i’r llys ar gyfer cael pwyntiau cosb, rhaid i chi gysylltu â’r heddlu neu wasanaeth y Llys lle gwnaethoch ei hanfon ac yna gysylltu â darparwyr y cwrs i egluro eich sefyllfa. Dylen nhw allu eich helpu.

Os bydd gan yr hyfforddwr unrhyw amheuaeth neu bryderon ynghylch dilysrwydd y drwydded, bydd gan yr hyfforddwr, ar ran ei ddarparydd, yr hawl i wrthod i’r person hwnnw barhau â’r cwrs.

Er mwyn cysylltu â’r darparydd cwrs mewn cysylltiad â’r mater hwn dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

Ewch i https://offer.ndors.org.uk lle byddwch yn gallu cael mynediad i fanylion eich Cynnig Cwrs drwy wneud hyn:

  • COFRESTRU:Nodi’r Cyfeirnod a’r PIN sydd yn eich llythyr Cynnig Cwrs, neu eich Cyfeirnod a nodi eich Rhif Gyrrwr yn y maes PIN yn lle rhif PIN.

NEU

MEWNGOFNODI: Os gwnaethoch ddewis creu cyfrif o’r blaen, ac os ydych wedi dilysu eich cyfeiriad e-bost, gallwch fewngofnodi gyda’ch cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair. Gallwch hefyd ddefnyddio’r ddyfais “Wedi anghofio eich Cyfrinair” i osod neu i ail-osod eich cyfrinair os gwnaethoch ddarparu cyfeiriad e-bost wrth gofrestru.

Bydd y ddau opsiwn yn eich cymryd at eich Dangosfwrdd:

  • Bydd clicio ar “Gweld Fy Nghyrsiau” yn caniatáu ichi chwilio am Leoliad Cwrs cyfleus neu ddarganfod eich archeb gyfredol. Bydd hyn yn caniatáu ichi gysylltu â’r darparydd cwrs os byddwch angen newid dyddiad neu amser eich cwrs neu wneud rhagor o ymholiadau.
  • Bydd clicio ar “Rheoli Fy Manylion” yn caniatáu ichi weld a diweddaru’r manylion a ddarparwyd gennych wrth gofrestru – gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content