doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Safonau ymddygiad

Cwestiynau Cyffredin

Safonau ymddygiad

Dylai pobl sy’n mynd ar gyrsiau NDORS ymddwyn mewn ffordd barchus tuag at hyfforddwyr y cwrs a’r bobl eraill sy’n mynd ar y cwrs. Mae gan NDORS bolisi dim goddefgarwch tuag at ymddygiad difrïol ac ymosodol.

Mae’n bwysig bod yr amgylchedd yn un cyfforddus lle gall bawb sydd ar y cwrs gyfranogi.

Mae’n ofynnol i’r rhai sy’n mynychu’r cwrs edrych yn lân ac mae pob unigolyn yn gyfrifol am ei ymddangosiad a’r ffordd mae’n edrych yn gyffredinol ac am ei hylendid personol.

Ni ddylai’r rhai sy’n mynychu’r cwrs wisgo dillad sy’n debygol o achosi embaras iddyn nhw eu hunain neu i bobl eraill a dylent fod yn ymwybodol o wahaniaethau diwylliannol mewn gwisg a chyflwyniad, a pharchu hynny.

Mae gan NDORs yr hawl i wrthod mynediad i rywun neu ofyn i rywun adael am wisgo gwisg amhriodol. Fel arfer, pan fydd hyn yn digwydd, bydd yr unigolyn hwnnw’n cael ei gyfeirio yn ôl at yr heddlu.


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content