doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Sut ydw i’n dod o hyd i gwrs?

Cwestiynau Cyffredin

Sut ydw i’n dod o hyd i gwrs?

Cyn dilyn y canllawiau isod, gofalwch eich bod yn y wefan gywir sef https://offer.ndors.org.uk lle byddwch yn gallu dewis un ai cwrs ystafell ddosbarth neu gwrs rhithwir. Gellir archebu cyrsiau rhithwir/ar-lein gydag unrhyw un o’n darparwyr gan eich bod yn eu mynychu o’ch cartref. Gyda chyrsiau ystafell ddosbarth ffisegol bydd angen ichi deithio i leoliad y cwrs.
Mae’n bosibl i chi gael mynediad i’r system gan ddefnyddio un ai eich Cyfeirnod a’ch rhif PIN (o’ch llythyr Cynnig Cwrs) neu eich Cyfeirnod a’ch Rhif Gyrrwr (rhowch eich rhif gyrrwr yn y maes PIN) a byddwch yn cael eich arwain i Ddangosfwrdd sy’n cynnwys 2 opsiwn – “Fy Nghyrsiau” a “Rheoli Fy Manylion”. Drwy glicio ar “Fy Nghyrsiau” byddwch yn gallu chwilio am Ddarparydd Cwrs addas, trosglwyddo i’w safle ac archebu Cwrs.
Os na allwch ddod o hyd i gwrs drwy ddefnyddio eich cyfeiriad eich hun yna ehangwch y chwilio drwy dynnu eich cyfeiriad chi ar y sgrin lleoliad y cwrs a rhoi sir yno. Bydd hyn yn rhoi ystod ehangach o gyrsiau y gallwch ddewis ohonynt.

Os oes gennych unrhyw broblemau gyda’ch manylion mynediad/manylion ddim yn cyfateb neu unrhyw gwestiynau ynghylch eich gallu i fynychu cwrs digidol neu ystafell ddosbarth, cysylltwch â’r heddlu a anfonodd yr ohebiaeth wreiddiol atoch. Bydd yr heddlu hwnnw yn gallu eich cynghori.

  • Gallwch gysylltu â’r Heddlu priodol mewn unrhyw un o’r dulliau canlynol:
    Defnyddio manylion cysylltu’r heddlu ar eich Llythyr Cynnig Cwrs/gohebiaeth gan yr heddlu (pan fydd ar gael)
  • Ar wefan yr heddlu
  • Ffonio’r rhif “101” nad yw’n wasanaeth brys a gofyn am yr adran sy’n delio â Hysbysiadau Cosb Benodedig.

Hefyd, os byddwch chi’n dilyn y ddolen hon byddwch yn gallu gweld gwybodaeth ar sut i archebu cwrs a dod o hyd i restrau o ddarparwyr cyrsiau:

Darparwyr Cyrsiau Ar-lein | UKROEd a NDORS


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content