doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Sut ydw i’n dod yn hyfforddwr?

Cwestiynau Cyffredin

Sut ydw i’n dod yn hyfforddwr?

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn hyfforddwr trwyddedig UKROEd, y peth cyntaf sydd angen ichi wneud yw gwneud yn siŵr eich bod yn bodloni’r cymwysterau a’r proffil ar gyfer hyfforddwr. Gellir cael ffurflenni cais a disgrifiadau swydd gan unrhyw un o’n darparwyr cyrsiau.

Bydd yn rhaid i chi gysylltu â darparydd cyrsiau trwyddedig cyfredol i gael eich derbyn ganddo i ddilyn hyfforddiant. Nid yw UKROEd yn addysgu hyfforddwyr ar hyn o bryd. Os ydych yn hyderus eich bod yn bodloni’r cymwysterau, dylech gysylltu ag un neu fwy o’r darparwyr hyfforddiant y byddai gennych ddiddordeb mewn gweithio iddynt er mwyn cychwyn arni.

Er mwyn dod o hyd i fanylion darparwyr cyrsiau NDORS, ewch i dudalen lleoliadau cyrsiau ein gwefan, a dewiswch y math o gwrs yr ydych yn dymuno bod yn hyfforddwr arno, ac yna teipiwch eich lleoliad neu eich cod post, a bydd hyn yn dangos manylion y darparydd cwrs yn yr ardaloedd hynny a sut i gysylltu ag ef.

Os bydd gan y darparydd cwrs ddiddordeb yn eich cais, efallai y bydd yn gofyn ichi lenwi’r ffurflen gais UKROEd yn seiliedig ar ddisgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y cwrs penodol yr ydych yn dymuno bod yn hyfforddwr arno, yn ogystal â darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae’r darparydd yn gofyn amdani. Os byddwch yn bodloni’r gofynion byddwch yn gorfod mynd ar gwrs penodol a fydd yn cael ei gyflwyno gan addysgwr trwyddedig. Os byddwch yn llwyddiannus gofynnir i chi wneud cais am drwydded a byddwch yn cael eich rhoi ar gofrestr hyfforddwyr trwyddedig UKROEd. I ddechrau byddwch yn cael trwydded dros dro ac yn cael eich asesu gan UKROEd mewn perthynas â’ch cymhwyster i gyflwyno cwrs byw.  Unwaith y byddwch yn llwyddo yn yr asesiad, bydd y drwydded dros dro (sy’n para chwe mis) yn cael ei newid yn drwydded lawn am ddwy flynedd a chynhelir ail asesiad cyn i drwydded lawn ddod i ben.  Unwaith y byddwch wedi cael eich trwyddedu, byddwch yn cael cyflwyno’r cwrs NDORS penodol y cawsoch eich hyfforddi ar ei gyfer.  Gall hyfforddwr gyflwyno cynnwys y cwrs i droseddwyr yn unig a rhaid iddo beidio â hyfforddi hyfforddwyr eraill. Ceir rhai hyfforddwyr llawrydd nad ydynt wedi ymrwymo i unrhyw ddarparydd cyrsiau arbennig ac mae’r rhain hefyd yn hyfforddwyr trwyddedig. Mae trwyddedu yn caniatáu i ddarparwyr cwrs gyflogi’r hyfforddwyr hyn yn ôl yr angen.

 


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content