doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Swydd Lincoln

Cwestiynau Cyffredin

Swydd Lincoln

Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Cyrsiau Ystafell Ddosbarth a Chyrsiau Digidol Ar-lein Lincolnshire Road Safety Partnership (LRSP)

  • Sut ydw i’n cysylltu â fy narparydd cwrs?

Unwaith y byddwch wedi archebu eich cwrs, byddwch yn derbyn eich e-bost i gadarnhau’r archeb, a fydd yn cynnwys gwybodaeth sydd ei hangen ar gyfer mynychu eich cwrs. Gofalwch eich bod yn darllen yr e-bost yn llawn. Os byddwch yn colli’r e-bost gallwch gysylltu ag LRSP:

Ymholiadau e-bost [email protected]

Ymholiadau Cwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder Cenedlaethol – 01522 782068.

Pob cwrs arall – 01522 212314

  • Beth ddylwn i fod yn ymwybodol ohono cyn imi fynychu fy nghwrs ystafell ddosbarth? (nid yw hyn yn berthnasol i’r rhai sy’n mynychu cwrs ar-lein)

Rhaid ichi ddod â ffurf dderbyniol o ddogfen adnabod gyda llun, e.e. eich trwydded yrru cerdyn llun neu basbort. Ni ellir cael mynediad heb gerdyn ID cywir. Ni dderbynnir llungopïau na lluniau. Ceir rhestr o ffurfiau o ID a dderbynnir yn ein  telerau ac amodau

  • A oes cyfleuster parcio ar gael? (nid yw hyn yn berthnasol i’r rhai sy’n mynychu cwrs ar-lein)

Nid oes cyfleuster parcio yng nghanolfan Lincoln (ac eithrio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas. Er mwyn archebu lle ffoniwch 01522 212314). Defnyddiwch feysydd parcio addas yng nghanol y ddinas. Mae maes parcio ar gael yn yr holl ganolfannau eraill.

Ni fyddwch yn cael mynediad os byddwch yn cyrraedd yn hwyr. Caniatewch ddigon o amser a chynlluniwch eich siwrnai er mwyn dod o hyd i’ch canolfan a pharcio yn llwyddiannus cyn i’ch cwrs ddechrau.

Peidiwch â rhoi cod post y ganolfan mewn dyfais llywio â lloeren gan y byddant yn aml yn eich arwain i’r lle anghywir. Cynlluniwch eich siwrnai yn ofalus.

  • Beth fydd ei angen arnaf ar gyfer fy nghwrs digidol ar-lein? (nid yw hyn yn berthnasol i’r rhai sy’n mynychu cwrs ystafell ddosbarth)

Rhaid ichi ddod â ffurf dderbyniol o ddogfen adnabod gyda llun, e.e. eich trwydded yrru cerdyn llun neu basbort. Ni ellir cael mynediad heb gerdyn ID cywir. Ni dderbynnir llungopïau na lluniau. Ceir rhestr o ffurfiau o ID a dderbynnir yn ein  telerau ac amodau

Gofalwch fod gennych bapur a beiro i wneud nodiadau a’ch bod mewn ystafell breifat dawel lle na fydd dim yn amharu arnoch neu’n tynnu eich sylw. Peidiwch â diffodd eich gwe-gamera, gadael y cwrs neu ganiatáu i aelodau eraill o’ch cartref fod yn yr ystafell gyda chi (oni bai fod hynny wedi ei gytuno ymlaen llaw). Bydd angen ichi gytuno i beidio â recordio’r cwrs a pharchu preifatrwydd pobl eraill sy’n mynychu’r cwrs.

  • Ar ba blatfform ar-lein y cynhelir y cwrs? (nid yw hyn yn berthnasol i’r rhai sy’n mynychu cwrs ystafell ddosbarth)

Mae’r cwrs ar-lein yn cael ei gynnal ar blatfform Zoom.  Gellir cael mynediad iddo ar gyfrifiadur personol, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar. Po fwyaf yw’r sgrin gorau’n yn y byd fydd hi. Rhaid i’ch dyfais gael camera a meicroffon er mwyn i chi, hyfforddwr y cwrs a’r rhai eraill sydd ar y cwrs glywed a gweld eich gilydd.

Ddim wedi defnyddio Zoom o’r blaen? Rydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn rhoi cynnig ar ddefnyddio Zoom cyn eich cwrs er mwyn dod i arfer ag ef. Gallech ofyn i ffrind neu aelod o’r teulu drefnu cyfarfod er mwyn ichi ymarfer ymuno cyn dyddiad eich cwrs. Mae gwefan Zoom hefyd yn llawn o wybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i ymuno. ZOOM.us

  • Rydw i wedi archebu fy nghwrs. Pryd fyddaf i’n derbyn fy nghyfarwyddiadau ymuno ac ymhle ydw i’n dod o hyd iddynt? (nid yw hyn yn berthnasol i’r rhai sy’n mynychu cwrs ystafell ddosbarth)

Bydd cyfarwyddiadau ymuno Zoom yn cael eu hanfon drwy e-bost  48 awr  cyn amser dechrau’r cwrs.  Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r e-bost, cyn cysylltu â Lincolnshire Road Safety Partnership, chwiliwch yn eich ffolderi sothach a/neu sbam.

  • Sut ydw i’n cael mynediad i’m cwrs? (nid yw hyn yn berthnasol i’r rhai sy’n mynychu cwrs ystafell ddosbarth)

Mae manylion ymuno â’r cwrs wedi’u cynnwys mewn e-bost a anfonir 48 awr cyn i’r cwrs ddechrau (gweler y pwynt uchod).

Dylech ymuno 15 munud cyn i’r cwrs ddechrau gan ddefnyddio’r ddolen ymuno URL sydd yn yr e-bost a anfonwyd 48 awr cyn i’r cwrs ddechrau. Gallwch hefyd ymuno drwy ddefnyddio ID y Cyfarfod a’r Cyfrinair sydd hefyd yn yr e-bost.

Fel arall, gallwch lawrlwytho’r ap Zoom ar eich dyfais ac yna dewis ‘Join a meeting’. Wedyn, bydd angen i chi ddefnyddio ID y Cyfarfod a’r Cyfrinair o’ch e-byst cadarnhau neu atgoffa.

  • Dydw i ddim yn deall rhyw lawer am dechnoleg ac rwy’n poeni na fyddaf yn gallu cymryd fy nghwrs rhithiol/ar-lein. Pa gymorth allaf i gael gan fy narparydd cwrs? (nid yw hyn yn berthnasol i’r rhai sy’n mynychu cwrs ystafell ddosbarth)

Caniatewch ddigon o amser cyn i’ch cwrs ddechrau a chysylltwch â Lincolnshire Road Safety Partnership i gael cymorth oherwydd mae gennym ganllawiau ar gyfer ffonau android, llechi android, iPad, iPhone, Apple Mac neu Windows PC, y gallwn eu hanfon ichi:

E-bost [email protected]

Ffoniwch y Cwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder Cenedlaethol 01522 78206. Pob cwrs arall 01522 212314

  • Rydw i’n cael trafferthion technegol wrth gysylltu â’r cwrs. Beth allaf i wneud? (nid yw hyn yn berthnasol i’r rhai sy’n mynychu cwrs ystafell ddosbarth)

Gwiriwch eich bod mor agos ag sydd bosibl at lwybrydd eich rhyngrwyd. Diffoddwch ddyfeisiau eraill sydd angen y rhyngrwyd er mwyn helpu i gryfhau’r signal.

Allgofnodwch a mewngofnodwch eto oherwydd gallai hyn helpu. Gofalwch fod eich fideo a’ch sain ymlaen pan fyddwch yn ymuno. (Cliciwch ar ‘caniatáu’ pan fydd y promptiau yn ymddangos).

Os ydych yn parhau i gael problemau ac os nad ydych yn llwyddo i ymuno â’r cwrs cysylltwch â LRSP.

  • A oes rhaid imi deithio i ganolfan i gwblhau fy nghwrs ar-lein? (nid yw hyn yn berthnasol i’r rhai sy’n mynychu cwrs ystafell ddosbarth)

Nac oes. Mae pob cwrs digidol ar-lein yn cael eu cwblhau gartref felly peidiwch â theithio i unrhyw un o’n canolfannau er mwyn gwneud eich cwrs.

  • Dydw i ddim yn gallu mynychu fy nghwrs oherwydd amgylchiadau esgusodol. Beth allaf ei wneud?

Rhaid i chi gysylltu â Lincolnshire Road Safety Partnership o fewn 72 awr ar ôl i’ch cwrs orffen i weld a fydd hi’n bosibl i chi ailarchebu eich cwrs. Gweler ein telerau ac amodau i gael rhagor o fanylion.

  • Rydw i’n hwyr ar gyfer fy nghwrs ac mae’r ystafell aros wedi cael ei chloi. Beth allaf ei wneud? (nid yw hyn yn berthnasol i’r rhai sy’n mynychu cwrs ystafell ddosbarth)

Rhaid i chi gysylltu â Lincolnshire Road Safety Partnership o fewn 72 awr ar ôl i’ch cwrs orffen i weld a fydd hi’n bosibl i chi ailarchebu eich cwrs. Gweler ein telerau ac amodau i gael rhagor o fanylion.


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content