doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Tynnwyd y cynnig cwrs yn ei ôl

Cwestiynau Cyffredin

Tynnwyd y cynnig cwrs yn ei ôl

Efallai y byddwch yn derbyn e-bost awtomatig gan DORS yn nodi bod yr heddlu wedi tynnu eich cynnig cwrs yn ei ôl.

Er bod UKROEd yn gweinyddu’r Cynllun Cenedlaethol Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru ar ran yr Heddlu, dim ond yr heddlu sy’n gallu cynnig cwrs neu dynnu cwrs yn ei ôl. Nid yw’r heddlu’n rhoi gwybod i ni pam eu bod wedi diweddaru eich cynnig cwrs i statws ‘Tynnwyd yn ei ôl’ ond gallai’r rhesymau gynnwys y canlynol:

  • Os ydych wedi dewis derbyn yr Hysbysiad Cosb Benodedig ac rydych wedi talu’r Ddirwy, bydd hyn wedi achosi i’ch cynnig cwrs gael ei dynnu’n ei ôl a dim ond er gwybodaeth y mae’r e-bost
  • Mae’r amser oedd gennych i archebu/fynd ar gwrs wedi dod i ben
  • Nid ydych wedi mynychu neu gwblhau cwrs.

Os ydych yn ansicr pam y cafodd eich cynnig ei dynnu yn ei ôl, cysylltwch â’r heddlu a anfonodd yr ohebiaeth wreiddiol atoch. Bydden nhw’n gallu eich cynghori.

Gallwch gysylltu â’r Heddlu priodol drwy wneud unrhyw un o’r canlynol:

  • Defnyddio manylion cysylltu’r heddlu yn eich Llythyr Cynnig Cwrs/gohebiaeth gan yr heddlu
  • Drwy wefan yr heddlu
  • Ffonio’r rhif “101” nad yw’n wasanaeth brys a gofyn am yr adran sy’n delio â Hysbysiadau Cosb Benodedig/Swyddfa Docynnau Ganolog.

Unwaith y bydd cynnig cwrs wedi cael statws ‘Tynnwyd yn ei ôl’ ni allwch archebu cwrs – bydd yr heddlu’n gallu eich cynghori chi ynglŷn â’r peth gorau i’w wneud nawr.


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content