doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Wnes i ddim cwblhau fy nghwrs. Beth sy’n digwydd nawr?

Cwestiynau Cyffredin

Wnes i ddim cwblhau fy nghwrs. Beth sy’n digwydd nawr?

Os na fyddwch yn cwblhau cwrs, mae’r mater yn cael ei basio yn ôl at yr heddlu a fydd wedyn yn ystyried eu cam nesaf unwaith y bydd y cyfnod gorfodi (sydd wedi ei nodi yn eich gohebiaeth gan yr heddlu) wedi dod i ben.

Unwaith y bydd y cyfnod gorfodi wedi dod i ben, os na fyddwch wedi cyflawni’r gosb benodedig neu’r cynnig cwrs, bydd y mater yn mynd gerbron y llys.  Bydd yr heddlu neu’r llys yn cysylltu â chi ynglŷn â hyn.

Mae’n bwysig i chi nodi, unwaith y bydd y mater hwn wedi ei drosglwyddo’n ôl at yr heddlu (bydd hyn wedi cael ei nodi ar system NDORS ac mewn neges e-bost awtomatig a fydd yn cael ei hanfon atoch yn dweud bod y cynnig cwrs wedi ei dynnu’n ôl), ni all y darparydd cwrs ac UKROEd/NDORS ymyrryd.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau yr adeg honno, mae’n rhaid i chi gysylltu â’r heddlu a anfonodd yr ohebiaeth wreiddiol atoch i drafod hyn gyda nhw.

Os nad ydych wedi mynychu cwrs am eich bod wedi penderfynu cydymffurfio â’r gosb benodedig, bydd y broses yn dal i gynhyrchu neges e-bost awtomatig yn nodi bod yr heddlu wedi tynnu eich cynnig cwrs yn ôl.  Mae hyn er gwybodaeth yn unig a does dim gofyniad i chi gysylltu â’r heddlu o ganlyniad i’r e-bost hwn.

Os nad ydych wedi cwblhau eich cwrs ac rydych eisiau ceisio ail archebu, ewch i’r wefan archebu cyrsiau ac edrychwch i weld a oes gennych amser ar ôl i wneud hyn (gweler isod).  Os yw’r wefan archebu cyrsiau’n dangos

bod eich cynnig wedi cael ei dynnu’n ôl,  mae’r mater wedi mynd yn ôl at yr heddlu’n barod ac ni fyddwch yn gallu ail archebu cwrs.

Ewch i https://offer.ndors.org.uk lle byddwch yn gallu cael mynediad i fanylion eich Cynnig Cwrs drwy wneud hyn:

  • COFRESTRU: Nodi’r Cyfeirnod a’r PIN sydd yn eich llythyr Cynnig Cwrs, neu eich Cyfeirnod a nodi eich Rhif Gyrrwr yn y maes PIN yn lle rhif PIN neu
  • MEWNGOFNODI: Os gwnaethoch ddewis creu cyfrif o’r blaen, ac os ydych wedi dilysu eich cyfeiriad e-bost, gallwch fewngofnodi gyda’ch cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair.

 

 


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content