doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Bwydo ar y fron

Cwestiynau Cyffredin

Bwydo ar y fron

Bydd pob cam rhesymol yn cael ei gymryd i sicrhau bod cleient ar y cwrs sy’n bwydo ar y fron yn gallu mynychu’r cwrs.

Dylid trafod gofynion gyda’ch darparydd cwrs cyn dechrau’r cwrs er mwyn gallu sicrhau bod trefniadau priodol yn barod.

Mae’n bwysig deall bod unrhyw drefniadau i sicrhau darpariaeth ar gyfer cais hefyd yn ystyried budd pawb ar y cwrs.  Rhaid i’r cleientiaid fynychu’r sesiwn gyfan er mwyn cwblhau’r cwrs.

Rhaid i gleientiaid ar y cwrs beidio â bwydo ar y fron, tynnu llaeth na dod â babi i mewn i’r ystafell ddosbarth ffisegol. Cynghorir chi i fynd ati’n ofalus i ddewis cwrs sydd ar adeg sy’n cyd-fynd orau â’ch amser chi ac amserlen fwydo eich babi.

Gellir cynnig cyfle i gleientiaid fwydo ar y fron yn ystod cwrs rhithwir/ar-lein. Mae hyn yn dibynnu’n hollol ar ddarparydd y cwrs a dylid rhoi gwybod i’r cleient mai dim ond proffil ei hwyneb ar y sgrin ddylai fod yn y golwg ac y dylai’r microffon gael ei dawelu pan fo angen, i osgoi tarfu ar gleientiaid eraill ar y cwrs.

Cofiwch beidio â gohirio gofyn am drefniadau ychwanegol tan ddiwrnod y cwrs, oherwydd efallai na fydd yn bosibl sicrhau darpariaeth o’r fath ar fyr rybudd.


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content