doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Essex

Cwestiynau Cyffredin

Essex

Cwestiynau Cyffredin ar gyfer cyrsiau NDORS Essex – the Safer Essex Roads Partnership

Sut ydw i’n cysylltu â darparydd cwrs Essex?

  • E-bost: [email protected]
  • Ewch i’n gwefan yn http://Saferessexroads.org
  • Ffoniwch ni ar 03330 137590 (Dydd Llun – Dydd Gwener 8.00am – 4.30pm)
  • Bydd arnoch angen eich llythyr cynnig cwrs, trwydded yrru a cherdyn talu.

 

Cyrsiau Ystafell Ddosbarth

 

Beth sydd ei angen arnaf ar gyfer fy nghwrs ystafell ddosbarth?

  • Bydd yn rhaid i chi ddod â math derbyniol o gerdyn adnabod gyda llun e.e. eich trwydded yrru cerdyn llun neu basbort. Ni fyddwch yn cael mynediad heb gerdyn adnabod cywir. Ni dderbynnir llungopïau neu luniau ohonynt.
  • Ni fyddwch yn cael mynediad os byddwch yn cyrraedd yn hwyr. Os gwelwch yn dda, caniatewch ddigon o amser a chynlluniwch eich taith gan ystyried yr amodau teithio a’r cyfleusterau parcio sydd ar gael.

 

A fydd cyfleuster parcio ar gael?

  • Nid oes sicrwydd y bydd lle parcio ar gael yn unrhyw un o’n canolfannau. Y cyntaf i’r felin fydd hi.

 

Cyrsiau Digidol Ar-lein

 

Beth fydd ei angen arnaf ar gyfer fy nghwrs digidol?

  • Dyfais addas h.y. gliniadur, llechen, ffôn clyfar neu gyfrifiadur bwrdd gwaith (gyda microffon a chamera).
  • Cysylltiad rhyngrwyd dibynadwy sy’n gallu ffrydio fideo a rhaid cael digon o wefr yn y batri i barhau drwy gydol y cwrs.
  • Cerdyn/dogfen adnabod â llun h.y. trwydded yrru cerdyn llun neu basbort.
  • Papur a beiro
  • Amgylchedd tawel heb ddim yn tynnu eich sylw

 

Sut ydw i’n cwblhau’r cwrs digidol ar-lein?

  • Ewch i ‘Accessing our digital courses’ i gael gwybodaeth ar sut i gwblhau eich cwrs ar-lein gan ddefnyddio Zoom:

https://saferessexroads.org/policecommunity/ndors/

 

Sut ydw i’n cael mynediad i’r cwrs?

  • Byddwch yn derbyn e-bost 24 awr cyn dyddiad eich cwrs gyda dolen ymuno a chyfrinair. Os na fyddwch wedi derbyn y ddolen, chwiliwch yn eich ffolder ‘sothach’.
  • Os ydych yn dal i fethu cael mynediad i’r cwrs, ffoniwch y tîm archebu ar 03330 137590 (Dydd Llun – Dydd Gwener 8.00am – 4.30pm) neu drwy e-bost yn: [email protected]

 

Faint mae’r cwrs yn gostio?

  • Yn Essex mae ffioedd y cyrsiau fel a ganlyn:

Cwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder Cenedlaethol – £90.00

Cwrs Traffyrdd Cenedlaethol – £90.00

Cwrs Beth sy’n ein Gyrru Ni – £90.00

Cwrs Gyrru Diogel ac Ystyriol – £175.00

Ride – £100.00

 

Er mwyn trafod yr opsiwn o dalu fesul tipyn, cysylltwch â’n swyddfa archebu ar 03330 137590.

 


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content